Coronafeirws: hawliau plant

Cyhoeddwyd 11/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 18 Mai 2020.

Mae bywydau plant a phobl ifanc wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth oherwydd pandemig y coronafeirws. Mae ysgolion wedi rhoi’r gorau i ddarparu addysg i’r mwyafrif helaeth o ddisgyblion, mae yna gyfyngiadau ar beth all plant ei wneud y tu hwnt i’w cartrefi ac nid yw pobl ifanc yn gallu cymdeithasu â’u ffrindiau.

O ran iechyd plant credir eu bod yn llai tebygol o gael eu heffeithio’n sylweddol (para 6) os ydyn nhw’n cael y coronafeirws, o gymharu â phobl hŷn er enghraifft. Fodd bynnag, gallai rhai plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd penodol (gan gynnwys cyflyrau anadlol fel ffibrosis systig) a’r rhai y mae eu systemau imiwnedd yn fwy bregus yn sgîl triniaeth neu afiechyd fod mewn llawer mwy o berygl. Y cyngor yw bod y grwpiau hyn yn cael eu gwarchod.

O ystyried faint o newid sydd i fywydau beunyddiol plant, mae pryder am yr effaith ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae yna faterion ymarferol hefyd, yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant, sut i gefnogi’r plant mwyaf agored i niwed a pharhad dysgu i’r holl ddisgyblion.

Mae ein herthyglau blaenorol wedi edrych yn fanwl ar effaith y coronafeirws ar blant a phobl ifanc o ran: ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch, cydraddoldeb, hawliau dynol a thlodi.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’

Mae llywodraethau ledled y byd yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i gydbwyso gwarchod iechyd y cyhoedd a pharchu hawliau dynol. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol benodol o ran hawliau plant.

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi ‘sylw dyledus’ i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ym mhob penderfyniad a cham gweithredu. Nid yw ‘sylw dyledus’ wedi’i ddiffinio yn y Mesur, er bod y cysyniad o ‘sylw dyledus’ neu ‘roi sylw dyledus’ yn gyffredin mewn deddfwriaeth.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi crynhoi’r ddyletswydd fel a ganlyn:

Mae rhoi sylw dyledus yn golygu bod yn rhaid i benderfynydd fynychu sylwedd penderfyniad yn gywir ac yn ymwybodol o’r hyn y mae’n rhaid ei ystyried o’r blaen ac ar adeg gwneud y penderfyniad, gan roi sylw i unrhyw amcan perthnasol. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ystyried tystiolaeth berthnasol ac ymarfer y ddyletswydd sylw dyledus gyda thrylwyredd, a meddwl agored. Dylai’r ddyletswydd gael ei hintegreiddio wrth gyflawni’r swyddogaethau cyhoeddus.

Un o’r ffyrdd ymarferol a gyflwynodd Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Mesur 2011 yw cynnal Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant (CRIAs) wrth ddatblygu ac adolygu deddfwriaeth a pholisi. Mae gwaith craffu ar hanes Llywodraeth Cymru o ran cynnal Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant, fodd bynnag, wedi codi cwestiynau ynghylch pa mor rheolaidd y’u cynhaliwyd, a’u heffaith. Mae hefyd yn aneglur (paragraffau 107-119) a gynhaliwyd unrhyw Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant mewn cysylltiad ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws.

Mae Mesur 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi ‘Cynllun Plant’ sy’n nodi’r trefniadau y maent wedi’u gwneud ar gyfer sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyladwy.

Cafodd y fersiwn bresennol o Gynllun Hawliau Plant Llywodraeth Cymru (PDF) ei chymeradwyo gan y Senedd yn 2014. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (CYPE) ym mis Awst 2019 y byddai’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2020.

Yn ddiweddar, mae’r Pwyllgor Plant wedi cynnal ymchwiliad i hawliau plant ac roedd i gyhoeddi ei adroddiad tuag adeg yr achosion cyntaf o’r coronafeirws. Mae adroddiad y Pwyllgor a chyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’i Chynllun Hawliau Plant diwygiedig wedi’u gohirio ar hyn o bryd yn sgîl argyfwng y coronafeirws.

Effaith gorfforol, emosiynol a seicolegol ddifrifol

Ar 9 Ebrill 2020, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ddatganiad (PDF) yn rhybuddio am ‘effaith gorfforol, emosiynol a seicolegol difrifol’ y pandemig ar blant, a galwodd ar bob gwlad i amddiffyn hawliau plant. Amlygodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig feysydd ble y dylai llywodraethau wella eu camau o ran parchu hawliau’r plentyn, gan gynnwys:

  • addysg a dysgu ar-lein;
  • hamdden a chwarae;
  • amddiffyn plant a’u diogelu;
  • mynediad at wybodaeth sy’n addas i blant; a
  • sicrhau cyfranogiad plant mewn prosesau gwneud penderfyniadau ar y pandemig.

Mae Swyddfa Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi dweud y dylai egwyddor budd gorau’r plentyn arwain pob penderfyniad a gweithgaredd sy’n ymwneud â phlant yn ystod argyfwng y coronafeirws a ‘rhaid parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol amddiffyn plant a dylent fod yn hygyrch i bob plentyn’.

O ddydd i ddydd, caiff portffolio cyfrifoldeb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am hawliau a chyfrifoldebau plant a phobl ifanc ei gyflawni gan Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad ar 1 Mai, yn nodi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc a’u ‘cadw’n ddiogel’ yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Roedd hyn cyn ei hymddangosiad hi a’r Gweinidog gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 5 Mai i drafod effaith y coronafeirws ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Amharu ar addysg, a’r posibilrwydd o ragor o anghydraddoldeb

Roedd ein herthygl flaenorol yn amlinellu effaith y coronafeirws ar yr hawl sydd gan blant i addysg o dan Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac Erthygl 2 o’r Protocol i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (PDF). Hefyd, roedd yr erthygl yn trafod sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lliniaru’r risg y bydd mynediad amrywiol at dechnoleg ddigidol yn dwysáu anghydraddoldeb yn ystod yr amhariad hwn ar ysgolion.

Dywedodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Ebrill (para 69):

Officials are very aware of our responsibilities towards children’s rights in this regard and we are doing whatever we can to ensure that children have an equal opportunity and have equal access to learning at this time.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at ei gwasanaethau addysg ddigidol presennol fel tystiolaeth o’r hyn mae’n ei wneud yn hyn o beth. Mae hyn yn cynnwys y wefan adnoddau ar-lein Hwb a darpariaeth Microsoft Office am ddim i deuluoedd disgyblion ysgol, yn ogystal â’i chyhoeddiad diweddar y bydd £3 miliwn ar gael i fynd i’r afael ag allgáu digidol o ran cartrefi tlotach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyried ailagor ysgolion yng Nghymru ar 1 Mehefin, gan ddefnyddio dull ‘goleuadau traffig’ tuag at lacio’r cyfyngiadau, gan ddefnyddio dull graddol i blant blaenoriaeth ddychwelyd i’r ysgol (Oren) cyn y gall yr holl blant a holl fyfyrwyr ddychwelyd (Gwyrdd). Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y fath newidiadau ac mae wedi dweud y bydd hyn yn dibynnu ar gyfradd trosglwyddo y coronafeirws (R).

Mae gan Lywodraeth Cymru ragor o fanylion yn ei fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant, ac yn un o’n herthyglau eraill ni trafodir cynlluniau Cymru a gwledydd eraill y DU ar gyfer dod â’r cyfyngiadau i ben yn gyffredinol.

Canslo arholiadau

Mae cyfres arholiadau haf 2020 wedi’i chanslo, a goblygiadau hyn yw y bydd myfyrwyr TGAU a Safon Uwch yn cael gradd sy’n seiliedig ar sawl ffactor, gan gynnwys canlyniadau ffug arholiadau a gwaith arall a gwblhawyd hyd yma. Mae ein herthygl ar y coronafeirws ac ysgolion yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn.

Yn y bôn, bydd athrawon yn cyflwyno gradd ar gyfer eu disgyblion yn seiliedig ar yr hyn y maen nhw’n credu y byddent wedi’i gael pe baent wedi sefyll yr arholiadau. Yna bydd y radd yn destun cymedroli allanol. Mae’r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, wedi ymgynghori ar sut yn union y bydd y broses raddio yn gweithio.

Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi edrych ar yr effaith y gallai’r broses wahanol o ddyfarnu cymwysterau ei chael ar rai disgyblion, er enghraifft y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig. Efallai bod canfyddiadau o ran enillwyr a chollwyr yn y broses, ac y bydd rhai pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael cam, o bosibl, am na chawsant y cyfle i ddangos eu potensial llawn o dan amodau arholiad.

Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl

Mae NSPCC wedi adrodd bod ‘galw digynsail’ am ei wasanaeth Childline yn ystod y pandemig ac amlygodd (PDF) fod prif bryderon plant a phobl ifanc fel a ganlyn:

Young people use the word ‘trapped’ to describe how they feel about being at home, particularly since strict social distancing measures were put in place. Not being able to go to school, visit family or friends or take part in activities outside of the family home is having a negative impact on their mental health.

Dywedodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 5 Mai (para 36) bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ‘deall yn llawn’ beth fyddai effaith y coronafeirws a’r mesurau aros gartref ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Dywedodd y Gweinidog:

It is a real worry list for me about how we understand the impact on the mental health and well-being of children and young people, and to move forwards, that we don’t end up with an entire generation of children and young people who grow up with a range of damage because we haven’t thought about what that will look like. So, the mental health recovery plan will of course be of very real importance to me. In amongst all the other priorities I have, I’m certainly not going to allow the mental health and well-being of children and young people to be forgotten.

Mae’r ateb hwn i Gwestiwn Ysgrifenedig yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ystod pandemig y coronafeirws, gan gynnwys darparu £1.25 miliwn ar gyfer gwasanaethau cwnsela ychwanegol i’r rhai sy’n profi rhagor o straen neu bryder.

Amddiffyn plant a’u diogelu

Gydag ysgolion ar gau ar gyfer mwyafrif helaeth y disgyblion, amharwyd ar ran sylweddol o’r system ddiogelu. Mae NSPCC wedi llunio papur briffio i’r pedair gwlad ar ddiogelu disgyblion agored i niwed yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth Aelodau’r Senedd ar 22 Ebrill (para 98) ei fod yn poeni am y gostyngiad o ran atgyfeiriadau ac adroddiadau o ran pryder am blant (ac oedolion) sydd mewn perygl o niwed, cam-drin neu esgeulustod yn ystod yr achosion o’r coronafeirws. Nid yw llai o atgyfeiriadau o reidrwydd yn golygu bod llai o blant mewn perygl o niwed, ond nad yw cynifer o achosion yn cael eu dwyn i sylw’r awdurdodau perthnasol, a all eu cynorthwyo wedyn.

Wrth sôn am gynnydd o 20% o ran galwadau i wasanaeth amddiffyn plant NSPCC yn ystod y cyfyngiadau symud, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (para 287-288) ei fod yn bryderus iawn am y darlun o ran diogelu plant sy’n agored i niwed. Wrth ateb cwestiynau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (paragraffau 78-81), dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn hybiau ysgolion, a dywedodd fod awdurdodau lleol yn cadw cysylltiad mor agos ag y gallant â phlant sy’n agored i niwed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ‘pum ffordd i gadw pobl ifanc yn ddiogel yn ystod y cyfyngiadau symud o ganlyniad i’r coronafeirws‘. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y canllawiau y mae wedi’u cyhoeddi ar gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, ac ar ddiogelu mewn addysg.

Plant sy’n derbyn gofal

Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) wedi ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am ‘gamau i amddiffyn hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn ystod yr ymateb i COVID-19’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol plant (gan gynnwys ar gyfer awdurdodau lleol, cartrefi gofal plant, gwasanaethau mabwysiadu a maethu) o ran sut y gallant newid eu gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae’r pwyslais ar wneud pethau’n wahanol, nid ar wneud llai. Pwysleisiodd swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (paragraffau 112-119) na fu dim hawddfreintiau o ran dyletswyddau statudol ar wasanaethau cymdeithasol plant, a bod asesiadau’n parhau i gael eu cynnal ar gyfer pryderon amddiffyn plant a phryderon diogelu.

Mae Voices from Care Cymru, sy’n elusen annibynnol o dan arweiniad pobl ifanc, wedi nodi ei ‘chynnig’, sef cynllun ymgysylltu rhithwir ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys cadw cysylltiadau cymdeithasol, cymorth lles, sesiynau cymdeithasu rhithwir a gwybodaeth a chyngor, ymhlith gwasanaethau eraill.

Mynediad at wybodaeth a chymryd rhan wrth wneud penderfyniadau

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn cynnwys hawliau i blant gael mynediad at wybodaeth (Erthygl 17) a chael parch i’w barn, a bod y farn honno’n cael ei chymryd o ddifrif (Erthygl 12). Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi pwysleisio hawl plant i gael wybodaeth o ansawdd da am yr hyn sy’n digwydd o ran y coronafeirws ac mae wedi darparu Hwb gwybodaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’r Comisiynydd Plant hefyd wedi ysgrifennu am yr ‘beth mae’r cyfyngiadau symud wedi’i amlygu am fywydau plant’.

Trafodwyd effaith y coronafeirws ar bobl ifanc mewn cyfarfod arbennig o Senedd Ieuenctid Cymru, o dan gadeiryddiaeth y Llywydd. Bu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn holi’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg am faterion gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, gor-ddefnyddio sgrinau a gormod o waith ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Plant, Senedd Ieuenctid Cymru a Youth Cymru yn cynnal arolwg ar-lein gyda phlant i gasglu eu barn ar sut y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt.

Bu honiadau yn y gorffennol, gan gynnwys gan y Comisiynydd Plant blaenorol yn 2014 bod Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn rhy gyfforddus gyda’i statws fel ‘arloeswr rhyngwladol ym maes hawliau plant’, ac awgrymwyd y bu rhywfaint o golli brys a momentwm.

Mae Cymru wedi bod ar y blaen o ran deddfu a rhoi ymrwymiad i hawliau plant ar waith yn y ffordd y mae’n llywodraethu ac yn dwyn i gyfrif. Gellir dadlau bod parhau i wneud hynny mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol gwirioneddol yn bwysicach nag erioed, ond hwn yw’r prawf eithaf.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn casglu barn ar hyn o bryd ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF) yn dilyn sesiynau tystiolaeth diweddar gyda Gweinidogion.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.