Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18
Cyhoeddwyd 21/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
21 Rhagfyr 2016
Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Cafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr.
Cyhoeddwyd datganiad yr hydref ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb ddrafft ac arweiniodd hynny at newidiadau yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer Cymru. Roedd datganiad yr Hydref yn cynnwys £442 miliwn mewn cyfalaf ychwanegol a £35.8 miliwn mewn refeniw dros bum mlynedd (2016-17 i 2020-21). Mae hyn yn cynnwys £23.4 miliwn o refeniw (o hyn, mae £13.7 miliwn yn ymwneud â chyllid o ganlyniad i bolisi ardoll prentisiaethau'r DU) a £70.9 miliwn o gyfalaf ar gyfer 2017-18.
Mae'r prif newidiadau rhwng Cyllideb ddrafft a Chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
Dyrannwyd £46 miliwn o gyllid refeniw o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2017-18, gan gynnwys:

- refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol;
- £1.7 miliwn yn ychwanegol i ddarparu cymorth ariannol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig a gyflenwyd gan y GIG;
- refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes;
- £6 miliwn yn ychwanegol i helpu i atal digartrefedd;
- refeniw ychwanegol o £15.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau (gan gynnwys £0.5 miliwn ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu);
- cyllid refeniw ychwanegol o £3.2 miliwn i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
- £6.5 miliwn o gyfalaf ychwanegol i wella'r ystâd iechyd a chyflymu arloesedd yn 2017-18 (£41.5 miliwn dros bedair blynedd hyd at 2020-21);
- cyfalaf ychwanegol o £20 miliwn yn 2017-18 i gyflymu'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd y Cynulliad hwn (£53.4 miliwn dros bedair blynedd);
- £7 miliwn yn ychwanegol i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth (£83 miliwn o gyfalaf dros bedair blynedd, gan gynnwys £15 miliwn ar gyfer y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol);
- £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni (£40 miliwn dros bedair blynedd);
- £3 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd (£33 miliwn dros bedair blynedd);
- £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol gefnogi cymunedau gwledig (£20 miliwn dros bedair blynedd);
- swm ychwanegol o £50 miliwn ar gyfer adfywio dros bedair blynedd (£0 yn 2017-18);
- cyfalaf ychwanegol o £16 miliwn dros bedair blynedd i 'adeiladu twf a ffyniant' (£0 yn 2017-18).
- Symudiadau rhwng adrannau ar ôl cytuno ar wariant ac ad-daliadau ar gyfer cynllun Buddsoddi i Arbed 2017-18.
- Addasiadau i gyllideb Swyddfa Archwilio Cymru yn sgil gosod amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru.
- Addasiadau i ddyraniad y Llwybrau Diogel i Ysgolion (£0.5 miliwn) i drosglwyddo arian o refeniw i gyfalaf.