Bwyd a Diod yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

17 Tachwedd 2016 Erthygl gan Eleanor Warren-Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg veg-market Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn gwneud datganiad i'r Cynulliad am y diwydiant bwyd a diod. Ar 21 Mehefin, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch hynt rhai o’r camau yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru. Y Cynllun Gweithredu Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod (2014) yn cynnwys 48 o gamau gweithredu, sy'n mynd i'r afael â meysydd gan gynnwys: twf busnesau; datblygu marchnadoedd; arloesedd; datblygu gweithlu medrus; diogelwch bwyd; bwyta'n iachus; a diogelu'r cyflenwad bwyd. Mae gan y Cynllun dri nod cyffredinol: Prif nod y Cynllun yw cynyddu trosiant y sector bwyd a ffermio o 30 y cant, a chynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth o 10 y cant erbyn 2020. Mae'r Cynllun yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n llunio adolygiad canol tymor yn 2017 ar y cynnydd, ac adroddiad terfynol yn 2020. Mae pob un o'r 48 cam gweithredu hefyd yn cynnwys cerrig milltir ar gyfer y tymor byr i'w bodloni yn ystod 2014-2016. Datganiad blaenorol gan Ysgrifennydd y Cabinet Dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet drwy bwysleisio'r cysylltiad rhwng y Cynllun a'r saith nod a osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yna, amlinellodd yr hynt o ran cyflawni camau gweithredu'r Cynllun. Twf y diwydiant Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod cynnydd eisoes wedi cael ei wneud o ran cyrraedd targedau twf busnesau. Gwelwyd twf o 17 y cant mewn trosiant ers 2014 – mwy na hanner ffordd tuag at darged 2020. Bydd gwaith Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, sydd bellach yn weithredol, yn llywio'r camau pellach a gymerir ar gyfer parhau'r twf hwn. Mae allforio'n hanfodol ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru, ac mae rhaglenni allforio a masnach, sydd wedi'u noddi gan Lywodraeth Cymru, wedi cynhyrchu £7 miliwn mewn gwerthiant newydd. Pwysleisiwyd hefyd yr angen am ragor o gefnogaeth i fusnesau ddatblygu eu gweithgarwch allforio. Bwyta'n iachus a thlodi bwyd Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen i'r cyfrifoldeb o wneud Cymru'n wlad fwy iachus gael ei rannu ar draws y gadwyn fwyd, fel y trafodwyd yn y Gynhadledd Bwyd ar gyfer y Dyfodol, a bod y gofynion ar gyfer bwyta'n iachus yn cael eu plethu ym mhroses dendro'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae gan Arloesi Bwyd Cymru, sy'n cynnal gwaith ymchwil i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer busnesau bwyd, hefyd rôl o ddatblygu bwydydd sy'n fwy iachus. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet y cysylltiad rhwng bwyta'n iach a thlodi bwyd, a soniodd am Rwydwaith Tlodi Bwyd Cymru, sy'n mynd i'r afael ag achosion o lwgu ymysg plant Cymru yn ystod y gwyliau ysgol. Cyfrifoldeb a chynaliadwyedd Mae gwella effeithlonrwydd adnoddau yn y diwydiant yn nod arall yn y Cynllun Gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru, o'i gwirfodd ei hun, wedi llofnodi cytundeb Courltard 2025 i leihau gwastraff, ac wedi cynnwys mesurau i sicrhau cynaliadwyedd yn y broses sgrinio i benderfynu ar grantiau buddsoddi mewn busnesau bwyd. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am wasanaeth Cymru Effeithlon, sy'n cynnig un pwynt mynediad clir am wybodaeth a chyngor ynghylch effeithlonrwydd. Cafodd diogelwch bwyd a diogelu'r cyflenwad bwyd eu crybwyll hefyd, ond ni chyhoeddwyd unrhyw fenter newydd. Hunaniaeth bwyd Cymru Daeth Ysgrifennydd y Cabinet â'i datganiad i ben trwy drafod hunaniaeth Bwyd a Diod Cymru, pwysigrwydd digwyddiadau sy'n hyrwyddo bwyd a diwylliant Cymru ynghyd â'r Gymraeg, a'r gwaith parhaus i sicrhau bod yr UE yn gwarchod statws enw cynnyrch o Gymru. Y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Roedd achlysur cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd (PDF 1.1MB) yn un o gerrig milltir Cynllun Gweithredu 2014. Ei nod yw sicrhau bod twristiaeth bwyd yn cael ei integreiddio i holl weithgareddau Croeso Cymru erbyn 2020. Mae'r Cynllun Gweithredu'n nodi pedair thema ar gyfer tasgau sy'n flaenoriaeth:
  • digwyddiadau a gweithgareddau;
  • gwybodaeth;
  • datblygu arbenigedd; a
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
Polisi Bwyd fel Polisi Cyhoeddus Bu'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn adolygu'r Cynllun Gweithredu (PDF 731KB). Beirniadodd y Sefydliad y ffocws cryf ar fusnes ar ôl i'r cynnyrch adael y fferm, a'r modd nad oedd y Cynllun yn cadw at y nodau polisi a'r camau gweithredu o ran cynhyrchu cynradd. Gwnaeth nifer o argymhellion, gan gynnwys y canlynol:
  • gwella cynaliadwyedd caffael bwyd yn y sector cyhoeddus e.e. trwy fabwysiadu rhaglen Bwyd am Oes;
  • cefnogi ffermwyr i gynhyrchu cig coch cynaliadwy o ansawdd uwch;
  • cefnogi arferion o fwyta'n gynaliadwy a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy;
  • cefnogi datblygiad cadwyni byr ar gyfer cyflenwi bwyd;
  • ehangu garddwriaeth;
  • cefnogi mentrau bwyd cymunedol; a
  • gwella'r broses o gasglu data a monitro a dangosyddion diogelwch a chadernid y system fwyd.
Goblygiadau Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd Caiff busnesau bwyd a diod Cymru eu cefnogi rhywfaint drwy gyllid yr UE, megis cynlluniau cymorth busnes yn unol â'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae data o'r adroddiad Gwerth Bwyd a Diod o Gymru yn dangos yr aeth 88 y cant o'r holl gynhyrchion a gafodd eu hallforio yn 2015 i'r UE, a hynny werth £264 miliwn. Mae hyn yn golygu y gallai newidiadau i drefniadau masnachu rhwng y DU a'r UE gael effaith fawr ar y diwydiant. Mae'r cynllun sy'n cymell yr UE i warchod statws enw bwydydd yn rhoi sail gyfreithiol i warchod rhag dynwarediadau o fwyd a diod rhanbarthol neu draddodiadol sydd wedi'u cofrestru, a hynny drwy'r UE gyfan. Mae wyth cynnyrch o Gymru wedi cael eu cofrestru ar hyn o bryd yn y cynllun, ond mae'n bosib y bydd dyfodol eu statws yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau masnachol rhwng y DU a'r UE. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Miss Warren-Thomas gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau.