Cyhoeddwyd 02/03/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
02 Mawrth 2016
Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4783" align="alignnone" width="500"]
Llun o Flickr gan Tim Green aka atoach[/caption]
Ym mis Hydref 2015, cyhoeddwyd adolygiad canol tymor y Comisiwn Ewropeaidd o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020. Ers hynny, mae Cyngor y Gweinidogion drwy Gyngor yr Amgylchedd a Senedd Ewrop wedi bod yn trafod eu hymatebion i ganfyddiadau’r Comisiwn.
Gallwch ddarllen yr adolygiad canol tymor yma:
Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020, adroddiad Cyngor yr Amgylchedd yma:
Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd at 2020 – casgliadau’r Cyngor ac adroddiad Senedd Ewrop yma:
Adolygiad canol tymor o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE.
Beth yw amcanion Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd hyd at 2020?
Amcan y Strategaeth yw atal colli bioamrywiaeth a dirywiad ecosystemau yn yr UE erbyn 2020. Mae’n cynnwys chwe tharged sydd wedi’u nodi’n flaenoriaethau; yn gryno, y targedau hyn yw:
- Gweithredu’r Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd yn llawn
- Cynnal ac adfer ecosystemau a’u gwasanaethau
- Cynyddu cyfraniad amaethyddiaeth a choedwigaeth at fioamrywiaeth
- Sicrhau bod adnoddau o ran pysgodfeydd yn cael eu defnyddio’n gynaliadwy
- Mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron
- Cyflymu camau i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth fyd-eang
Pa gynnydd sy’n cael ei wneud tuag at yr amcanion hyn?
Mae adolygiad canol tymor y Comisiwn yn asesu cynnydd tuag at bob un o’r targedau unigol, yn ogystal ag at y prif darged. Yn ôl yr adolygiad, nid oes cynnydd arwyddocaol cyffredinol wedi’i wneud tuag at y prif darged. Mae’n mynd ymlaen i fanylu ar y cynnydd a wnaed ar bob un o’r chwe tharged:
- Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud tuag at y targedau ar gyfer statws cadwraeth diogel/ffafriol rhywogaethau, cynefinoedd ac adar o dan y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd, ond nid yw cyfraddau presennol y cynnydd hwn yn ddigonol i gyrraedd y targed erbyn 2020.
- Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran cynnal ac adfer ecosystemau a’u gwasanaethau, ond ar gyfradd annigonol i gyrraedd y targed o adfer 15 y cant erbyn 2020.
- Nid oedd unrhyw gynnydd arwyddocaol yn amlwg o ran bioamrywiaeth amaethyddol, gyda 84 y cant o gynefinoedd a aseswyd wedi dirywio neu wedi aros naill ai’n anhysbys neu’n anffafriol yn ystod y cyfnod adrodd. Mewn cynefinoedd sy’n gysylltiedig ag ecosystemau coetiroedd a choedwigoedd, y ffigur oedd 82 y cant.
- Mae Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf wedi’i gyflawni mewn nifer o bysgodfeydd y gogledd, er bod cynnydd yn wael ym Môr y Canoldir a’r Môr Du.
- Mae’r Rheoliad newydd ynghylch Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn golygu mai rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yw’r unig darged a ddisgrifiodd y Comisiwn i fod ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed.
- Bernir bod cynnydd tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang yn annigonol i gyrraedd y targed erbyn y dyddiad cau, er gwaethaf y ffaith mai’r UE yw’r cyfrannwr mwyaf at gymorth sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth, gan ddyblu’r cyllid perthnasol rhwng 2006 a 2013.
Ymateb Cyngor y Gweinidogion
Mae casgliadau Cyngor yr Amgylchedd ar yr adolygiad canol tymor yn nodi sylwadau ar y cynnydd tuag at bob un o’r targedau yn unigol, yn ogystal â nodi rhai materion sy’n effeithio ar yr holl dargedau. Er enghraifft, mae’r Cyngor yn galw ar Aelod-wladwriaethau i wella ymhellach y ffordd y maent yn rhoi strategaethau cadwraeth bioamrywiaeth ar waith ac yn awgrymu y dylid datblygu mecanwaith i ddilyn y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ynghylch bioamrywiaeth.
Mae casgliadau’r Cyngor yn cadarnhau pwysigrwydd y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd ac yn nodi’r rôl y mae’r rhwydwaith Natura 2000 o safleoedd gwarchodedig, a grëwyd gan y Cyfarwyddebau hyn, yn ei chwarae o ran gwella statws cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd.
Ymateb Senedd Ewrop
Mae adroddiad Senedd Ewrop yn feirniadol o’r diffyg cynnydd a nodwyd yn yr adolygiad canol tymor. Mae’n mynegi pryder difrifol ynghylch y methiant i wneud cynnydd da tuag at y rhan fwyaf o’r targedau ar gyfer 2020. Mae’n nodi bod y duedd gyffredinol o ddirywiad parhaus mewn cynefinoedd a cholli bioamrywiaeth oherwydd hynny yn sefyllfa dywyll iawn sy’n peri pryder, gan nodi bod yr adolygiad yn cadarnhau canfyddiadau ‘The European Environment, State and Outlook 2015 Synthesis Report’ (
SOER 15) a’r adroddiad
‘State of Nature’ bod y broses o golli bioamrywiaeth yn parhau.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am fwy o ewyllys gwleidyddol tuag at gyflawni’r nodau, gan bwysleisio manteision economaidd a chymdeithasol bioamrywiaeth, yn ogystal ag amlygu barn dinasyddion yr UE. Mae’n datgan bod wyth allan o ddeg o ddinasyddion yr UE yn teimlo bod effaith colli bioamrywiaeth yn sylweddol, a bod ymgynghoriad ar-lein diweddar ar y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd wedi denu’r nifer uchaf erioed o gyfranogwyr. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod llesiant natur a lles cenedlaethau’r dyfodol yn annatod, felly mae angen ymdrech fwy cydunol ar frys i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn Ewrop a ledled y byd.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg