Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2021   |   Amser darllen munudau

Y SENEDD A’R FFRAMWAITH RHAGORIAETH YMCHWIL (REF) 2021

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU yw proses adolygu arbenigol sy’n gwerthuso safon y gwaith ymchwil gan sefydliadau addysg uwch y DU.

Mae pedair deddfwrfa’r DU wedi cydweithio i lywio’r gwaith o lunio canllawiau a meini prawf i asesu fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021. Y nod yw sicrhau bod gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU ac aelodau o banel y fframwaith rhagoriaeth ymchwil ddealltwriaeth glir o’r hyn y mae ‘effaith’ yn ei olygu i Seneddau a Chynulliadau ledled y DU.

Gwnaethom lunio nodyn briffio ar y cyd i roi trosolwg o effaith gwaith ymchwil mewn deddfwrfeydd. Mae’r negeseuon allweddol o’r nodyn briffio hwn wedi’u cynnwys yn y canllaw i gyflwyniadau a meini prawf y panel a gyhoeddwyd yn 2019 gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU.