TBC

TBC

Terminoleg cyllid ar gyfer y sector cyhoeddus

Cyhoeddwyd 03/06/2026

Cyfrifon

Dogfennau a gynhyrchir i ddangos sut y mae cyrff ac adrannau wedi defnyddio'r adnoddau a oedd ar gael iddynt.

Cyfrifyddu croniadau

Dull o gofnodi incwm a gwariant yn ystod cyfnod cyfrifyddu. Cyfrifir gwariant incwm yn y flwyddyn y caiff ei ysgwyddo/ei ennill, yn hytrach na phan fydd yr arian parod yn newid dwylo.

Cam Gweithredu

O fewn pob Maes Rhaglen Wariant, dyrennir cyllidebau i nifer o is-raglenni a elwir yn Gamau Gweithredu.

Fforddiadwyedd

Un o bedair egwyddor sylfaenol y broses graffu ariannol. Mae’n ymwneud ag ystyried a oes digon o adnoddau ar gael i fodloni’r cynlluniau gwariant, ac a yw'r rhain wedi'u cydbwyso'n briodol.

Cwmpasau

Disgrifiadau o’r dibenion penodol y mae Gweinidogion Cymru wedi’u hawdurdodi gan y Senedd i wario adnoddau arnynt. Dangosir disgrifiadau o’r cwmpasau a’r terfynau adnoddau yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol a Chynnig y Gyllideb Atodol. Mae’r cwmpasau yn cyfateb i’r Prif Grwpiau Gwariant (MEGau).

Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME)

Gwariant sy'n llai rhagweladwy na’r terfyn gwariant adrannol (DEL), sy'n cwmpasu gwariant sydd fel arfer yn cael ei arwain gan alw ac yn anwadal. Felly, ni all y ddarpariaeth yn rhesymol fod yn destun terfynau aml-flwyddyn – er enghraifft, rhoi benthyciadau i fyfyrwyr. Mae Trysorlys EF yn adolygu AME ddwywaith y flwyddyn, a hynny fel rhan o'i brosesau ar gyfer yr adroddiadau cyllidebol a’r adroddiadau rhag-gyllidebol. Dim ond i’r diben y’i neilltuwyd y mae modd dyrannu’r cyllid ar gyfer AME; felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn dros sut y caiff ei ddyrannu.

Dyrannu

Term sy’n disgrifio’r weithred lle mae deddfwrfa’n awdurdodi’r cam o dalu arian o Drysorlys EF at ddefnydd penodedig.

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Archwilydd allanol Llywodraeth Cymru, cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Penodir Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Fformiwla Barnett

Fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio i ddyrannu cyfran sy’n seiliedig ar y boblogaeth o’r newidiadau mewn gwariant wedi'i gynllunio ar wasanaethau tebyg gan adrannau Llywodraeth y DU i'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Fformiwla Barnett yn cyfrifo maint y newidiadau i’r gyllideb wedi’i chlustnodi yn hytrach na chyfanswm y gyllideb wedi’i chlustnodi. Cafodd Fformiwla Barnett ei ddiwygio fel rhan o’r Fframwaith Cyllidol. O 2018-19, cafodd Ffactor Seiliedig ar Anghenion ei gyflwyno i gyfrifiadau Grant Bloc Cymru. Mae hyn yn golygu, os bydd y swm canlyniadol i Gymru yn uwch na 0 wrth symud ymlaen o 2018-19, caiff hyn ei luosi gan 1.05 (105%). Os yw’r swm canlyniadol yn 0 neu lai, caiff ei adael fel y mae. Caiff y ffactor hwn ei godi i 115% pan fydd y cyllid o’i gymharu â Lloegr wedi cydgyfeirio i lefel y cytunwyd arni.

Llinell sylfaen

Y sefyllfa gyfeirio er mwyn mesur unrhyw newid. O ran cyllidebau, mae hyn fel arfer yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol flaenorol.

Grant bloc

Y grant bloc yw’r swm o arian y bydd Senedd y DU yn cytuno i’w roi i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y llywodraeth ddatganoledig berthnasol.

Mae cyllid grant bloc y llywodraethau datganoledig yn cael ei gyflwyno fel cyfanswm y Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) o fewn fframwaith cyllidebu Trysorlys EF. Mae wedi'i rannu rhwng y DEL adnoddau, ac eithrio dibrisiant (RDEL), a’r DEL cyfalaf (CDEL), gyda swm wedi’i glustnodi ar gyfer trafodiadau ariannol o fewn y CDEL. Mae newidiadau yn y cyllid grant bloc ar gyfer y llywodraethau datganoledig yn gysylltiedig â newidiadau yng nghynlluniau gwariant adrannau Llywodraeth y DU. Yn gyffredinol, gwneir y cysylltiad hwn drwy Fformiwla Barnett.

Y system cyfnewid cyllidebau

System hanesyddol, a oedd ar waith cyn cytuno ar y Fframwaith Cyllidol, sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i drosglwyddo unrhyw danwariant yn y gyllideb wedi’i chlustnodi o un flwyddyn ariannol i’r flwyddyn nesaf, yn amodol ar gytundeb Trysorlys EF a hyd at uchafswm o 0.6 y cant o’r DEL adnoddau ac 1.5 y cant o’r DEL cyfalaf. Mae'r system hon wedi cael ei disodli gan Gronfa Wrth Gefn Cymru.

Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL)

O fewn pob Cam Gweithredu, mae cyllidebau'n cael eu dyrannu i nifer o is-grwpiau gwariant, a elwir yn llinellau gwariant yn y gyllideb. Mae tablau sy'n dangos cyllidebau ar lefel BEL ar gael yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru.

Cynnig a phenderfyniad ar y gyllideb

Drwy gynnig y gyllideb, mae'r Senedd yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i wario adnoddau at ddibenion penodol, hyd at lefel benodol, ac i dynnu arian parod o Gronfa Gyfunol Cymru hyd at derfyn penodol. Cynnig a phenderfyniad ar y gyllideb yw’r dull a ddarperir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer sicrhau bod y gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru yn gyson.

Proses y gyllideb

Gellir rhannu cylch cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru yn gamau penodol: y gyllideb ddrafft; cynnig y gyllideb flynyddol; y gyllideb derfynol; a chynigion y cyllidebau atodol. Rhannwyd proses y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-2027 yn ddau gam pellach: amlinelliad drafft a chyllideb fanwl ddrafft.

Benthyca cyfalaf

Fel rhan o’r pwerau newydd a ddeddfwyd yn Neddf Cymru 2014, ac fel rhan o’r Fframwaith Cyllidebol, gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £1 biliwn ar gyfer prosiectau cyfalaf, gydag uchafswm o £150 miliwn y flwyddyn.

Gwariant cyfalaf

Gwariant a fuddsoddir yn gyffredinol mewn asedau sefydlog (adeiladau, cyfarpar a thir) y bwriedir iddynt fod o fudd i gyfnodau cyfrifyddu yn y dyfodol, neu wariant sy'n cynyddu capasiti, economi, effeithlonrwydd neu oes ased sefydlog sy'n bodoli eisoes. Yn y gyllideb, mae gan derfynau gwariant adrannol a gwariant a reolir yn flynyddol derfynau ar wahân ar gyfer adnoddau a chyfalaf.

Arian wrth gefn

Lwfans o arian parod neu adnoddau y gellir ei ddefnyddio o dan amgylchiadau annisgwyl.

Terfyn Gwariant Adrannol (DEL)

Fel arfer, caiff terfynau gwariant adrannol eu pennu dros dair neu bedair blynedd fel rhan o broses Llywodraeth y DU o adolygu gwariant. Y DEL yw’r terfyn cyllidebol aml-flwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cymru. Nid yw’r rhan fwyaf o’r DEL wedi’i neilltuo, ac mae hyn yn rhoi disgresiwn llawn i Lywodraeth Cymru dros ei blaenoriaethau gwariant. Caiff unrhyw newidiadau eu pennu drwy Fformiwla Barnett. Fodd bynnag, mae rhai elfennau o'r DEL wedi'u neilltuo, a dim ond at ddibenion penodedig y gellir eu defnyddio.

Dibrisiant

Gostyngiad yng ngwerth asedau o ganlyniad i’r defnydd ohonynt, y ffaith bod amser wedi mynd heibio, neu’r ffaith eu bod wedi dod at ddiwedd eu hoes. Yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, mae dibrisiant yn rhan o’r terfyn gwariant adrannol, ond mae'n eitem sy’n cael ei hystyried yn adnodd anghyllidol.

Trethi datganoledig

Sefydlwyd y broses ar gyfer datganoli pwerau codi trethi i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2014. Cafodd ardrethi annomestig eu datganoli’n llawn ar 1 Ebrill 2015, a chafodd y trethi ar dirlenwi a thrafodiadau tir eu datganoli ar 1 Ebrill 2018. Cafodd treth incwm ei datganoli’n rhannol ar 1 Ebrill 2019. Mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn rhoi pŵer cyffredinol i’r Senedd i gynnig trethi hollol newydd mewn meysydd datganoledig, ond byddai angen i Lywodraeth Cymru gael caniatâd dau Dŷ Senedd y DU a Senedd Cymru cyn y gallai basio deddfwriaeth ar gyfer treth newydd.

Costau uniongyrchol ar Gronfa Gyfunol Cymru

Gwariant y mae’n ofynnol yn gyfreithiol ei godi’n uniongyrchol ar Gronfa Gyfunol Cymru, ac felly nad yw’n cael ei godi ar gyllideb Llywodraeth Cymru nac ar unrhyw gorff arall. Mae costau uniongyrchol yn cynnwys taliadau i’r Llywydd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Y gyllideb ddrafft

O dymor yr hydref 2017, rhoddwyd proses newydd y gyllideb ar waith, yn unol â’r hyn a nodir yn y Rheolau Sefydlog a chytundeb Protocol y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys proses ddwy gam ar gyfer y gyllideb, sef cyllideb amlinellol lefel uchel a chyllideb ddrafft fanwl. Mae gwaith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft yn canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol lefel uchel Llywodraeth Cymru, trethiant, rhagolygon a benthyca. Mae pwyllgorau eraill y Senedd yn craffu ar y cynigion yng nghyllideb fanwl Llywodraeth Cymru cyn y cynhelir dadl a phleidlais y Senedd ar gynnig y gyllideb flynyddol.

Economi

Y broses o leihau cost yr adnoddau a ddefnyddir gan y Llywodraeth. Dyma un o dair elfen sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian. Gweler ‘effeithiolrwydd’ ac ‘effeithlonrwydd’ hefyd.

Effeithiolrwydd

Yng nghyd-destun gwariant cyhoeddus, y berthynas rhwng y canlyniadau a fwriedir a’r canlyniadau gwirioneddol. Dyma un o dair elfen sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian. Gweler ‘economi’ ac ‘effeithlonrwydd’ hefyd.

Effeithlonrwydd

Y berthynas rhwng allbwn nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd gan y Llywodraeth a'r adnoddau a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu. Dyma un o dair elfen sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian. Gweler ‘economi’ ac ‘effeithiolrwydd’ hefyd.

Hyblygrwydd diwedd blwyddyn

Gweler ‘Y system cyfnewid cyllidebau’.

Y gyllideb derfynol

Gweler ‘proses y gyllideb’.

Cyfalaf Trafodiadau Ariannol

Mae Cyfalaf Trafodiadau Ariannol yn rhan o’r setliad DEL cyfalaf na ellir ond ei defnyddio ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti i drydydd partïon. Ar y cyfan, rhaid ad-dalu’r arian i Drysorlys EF.

Polisi cyllidol

Polisïau’r Llywodraeth ar lefelau o wariant a threthiant. Yn y DU, Trysorlys EF sy'n gyfrifol am bolisi cyllidol.

Fframwaith Cyllidol

Y fframwaith y cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU arno ym mis Rhagfyr 2016, a alluogodd y broses o weithredu’r pwerau yn Neddf Cymru 2014. Yn benodol, roedd yn cefnogi’r broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, a’r broses o greu cyfraddau treth incwm Cymru. Roedd y fframwaith hefyd yn darparu pwerau benthyca cyfalaf ychwanegol i Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Wrth Gefn Cymru, er mwyn helpu’r Llywodraeth i reoli ei chyllideb.

DEL adnoddau cyllidol (a elwid gynt yn ‘bron yn arian parod’)

O fewn y DEL adnoddau, cofnodir y gwariant hwn ar sail croniadau, sef mesur o drafodiadau a fydd fel arfer yn troi'n llif arian parod yn fuan. Mae'n ystyried y gwahaniaethau rhwng yr adnoddau a ddefnyddir a'r llifau arian parod ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Er enghraifft, caiff arian ei wario ar gyfleustodau wrth iddynt gael eu defnyddio, er ei bod yn bosibl y gwneir y taliad gwirioneddol fel ôl-daliad ar sail chwarterol. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys gwariant ar dâl, caffael cyfredol, grantiau adnoddau a chymorthdaliadau. Nid yw'n cynnwys gwariant ar adnoddau anghyllidol.

Datchwyddwyr Cynnyrch Domestig Gros (CDG)

Fe'i defnyddir fel mesur o chwyddiant cyffredinol yn yr economi ddomestig. Mae cyfres ar gyfer y datchwyddwr CDG ar ffurf mynegai yn cael ei chynhyrchu gan Drysorlys EF, gan ddefnyddio data a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae rhagolygon yn cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac fel arfer, cânt eu diweddaru tua'r adeg y gwneir cyhoeddiadau polisi mawr, sef y Gyllideb a Datganiad yr Hydref gan Ganghellor y Trysorlys.

Arian wedi’i neilltuo

Rhaid gwario arian wedi’i neilltuo ar wasanaethau neu fentrau penodedig, ac nid oes hawl ei ddefnyddio at ddibenion eraill.

Cyllideb gynyddrannol

Cyllideb a gaiff ei phennu naill ai drwy leihau neu gynyddu cyllideb y flwyddyn flaenorol, yn wahanol i gyllideb ar sail sero, sy’n glanhau’r llechen ac yn dechrau o’r dechrau drachefn. Mae wedi’i seilio ar newidiadau a ragwelir o ran gweithrediadau ac amodau. Mae’n tueddu i arwain at gynnydd mewn cyllidebau dros amser, gan fod y gyllideb wedi’i seilio ar gyllideb y flwyddyn flaenorol fel man cychwyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Chwyddiant

Mesur o'r newidiadau a welir mewn prisiau nwyddau a gwasanaethau dros amser. Yn aml, defnyddir y datchwyddwyr CDG fel mesur o chwyddiant cyffredinol ar gyfer y sector cyhoeddus. Nid yw’r symiau a ddangosir mewn termau arian parod yn ystyried chwyddiant, ond mae’r symiau a fynegir mewn termau real yn gwneud hynny.

Newidiadau yn ystod y flwyddyn

Newidiadau i gynlluniau gwariant rhwng cynigion y cyllidebau blynyddol, a gaiff eu hawdurdodi fel arfer drwy gynigion y cyllidebau atodol.

Monitro yn ystod y flwyddyn

System sy’n cymharu gwariant gwirioneddol yn erbyn cynlluniau gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol benodol, gan alluogi’r broses o addasu dyraniadau i adlewyrchu amgylchiadau sydd wedi newid yn y flwyddyn honno.

Macroeconomeg

Dull o astudio'r economi gyfan, gan ganolbwyntio ar ffactorau sy'n effeithio ar yr economi gyfan fel cyfraddau llog, chwyddiant a diweithdra. Mae hefyd yn cwmpasu’r broses o astudio twf economaidd a sut y mae llywodraethau'n defnyddio polisi ariannol a pholisi cyllidol i liniaru’r niwed a achosir gan siociau economaidd, fel dirwasgiadau. Yn y DU, Trysorlys EF sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am bolisi macroeconomaidd.

Prif Grŵp Gwariant (MEG)

Mae Terfyn Gwariant Adrannol Llywodraeth Cymru wedi'i rannu'n nifer o Brif Grwpiau Gwariant. Ar adeg Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth flaenorol Cymru ar gyfer 2025-26 (Chwefror 2026), roedd wyth MEG, sef: Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Tai a Llywodraeth Leol; Addysg; Trafnidiaeth; Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; yr Economi, Ynni a Chynllunio; Cyfiawnder Cymdeithasol; Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu.

Polisi ariannol

Yr offeryn polisi macroeconomaidd a weithredir gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, sy'n ceisio cyflawni targed chwyddiant Llywodraeth y DU trwy ddylanwadu ar y galw cyfanredol drwy symudiadau yn y cyflenwad arian a chyfraddau llog.

DEL adnoddau anghyllidol (a elwid gynt yn ‘heb fod yn arian parod’)

Yng nghyd-destun terfynau gwariant adrannol adnoddau, dyma fesur croniadol o drafodiadau sydd wedi'u cynnwys mewn cyllidebau, sydd â’r nod o sicrhau eu bod yn adlewyrchu cost economaidd lawn gweithgareddau, er nad oes cysylltiad uniongyrchol, o bosibl, â llifau arian parod yn y cyfnod perthnasol. Bydd trafodiadau o’r fath naill ai byth yn arwain at gost arian parod wirioneddol, neu byddant ond yn arwain at daliadau arian parod yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r gyllideb yn cynnwys taliadau am ddibrisiant ac amhariad benthyciadau myfyrwyr. Mae’r DEL adnoddau anghyllidol wedi'i glustnodi, ac ni ellir ei ddefnyddio i ariannu gwariant ar y DEL adnoddau cyllidol.

Canlyniad

Y canlyniadau terfynol sy’n deillio o gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r cyhoedd. Dylai'r canlyniad adlewyrchu'r rhesymeg y tu ôl i'r cyflenwad. Er enghraifft, plant sy'n gallu darllen, neu gleifion sydd wedi gwella. Gellir mesur canlyniadau yn erbyn targedau neu amcanion a bennir. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cysylltu’r canlyniad yn uniongyrchol â mewnbwn neu allbwn penodol. Er enghraifft, mae’n bosibl bod plant wedi dysgu darllen gartref yn hytrach nag o ganlyniad i raglen addysg benodol.

Allbwn

Symiau’r nwyddau neu'r gwasanaethau a ddarperir mewn meintiau absoliwt. Er enghraifft, nifer y myfyrwyr, nifer y llawdriniaethau neu nifer y dosau.

Alldro

Gwariant gwirioneddol neu amcangyfrifon a wneir ar sail gwariant gwirioneddol hyd yma.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 – Rhan 5

Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ymdrin â chyllid. Mae'n darparu ar gyfer creu Cronfa Gyfunol Cymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud taliadau i’r gronfa hon gan ddefnyddio’r arian y mae Senedd y DU yn cynnal pleidlais yn ei gylch. Rhaid sicrhau bod taliadau a wneir o Gronfa Gyfunol Cymru i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cael eu hawdurdodi drwy gynigion ar y gyllideb sy’n destun pleidlais gan Senedd Cymru.

Blaenoriaethu

Un o bedair egwyddor sylfaenol y broses graffu ariannol. Mae hyn yn ymwneud ag ystyried a yw adnoddau wedi’u rhannu’n briodol rhwng gwahanol bortffolios, sectorau, rhaglenni a meysydd polisi, ac a yw’r broses hon yn adlewyrchu blaenoriaethau ac amcanion datganedig y Llywodraeth yn gywir.

Termau real

Gwerth gwariant ar lefel benodedig o brisiau cyffredinol; mae’r symiau wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant prisiau cyffredinol, fel y'i mesurir gan y datchwyddwr CDG. Mae mynegi symiau mewn termau real yn hwyluso’r broses o gymharu gwariant ar draws blynyddoedd am brisiau cyson.

Derbyniadau

Maent yn cynrychioli’r incwm a gafwyd, er enghraifft drwy werthu neu rentu asedau cyfalaf. Yn y gyllideb, dangosir derbyniadau fel gwerthoedd negyddol.

Cronfa wrth gefn

Swm heb ei ddyrannu o fewn y terfynau gwariant adrannol yw’r gronfa wrth gefn. Caiff y gronfa ei dal yn ganolog, ac ni chaiff ei dyrannu i'r prif grwpiau gwariant. Yn gyffredinol, caiff y gronfa hon ei dyrannu yn ystod y flwyddyn drwy gyfrwng cynigion y cyllidebau atodol.

Cyllidebu adnoddau

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei phennu ar sail adnoddau sy'n deillio o wybodaeth am groniadau. Mae gwybodaeth am groniadau yn mesur adnoddau wrth iddynt gael eu defnyddio yn hytrach na phan delir yr arian parod. Er enghraifft, mae cyllidebu adnoddau yn cynnwys tâl am ddibrisiant, mesur o ddefnydd neu draul asedau cyfalaf.

Gwariant adnoddau

Gellir defnyddio’r term ‘gwariant refeniw’ hefyd. Mae dyraniadau refeniw yn cynnwys costau o ddydd i ddydd, fel cyflogau staff a phrynu nwyddau traul a gwasanaethau. Mae ffioedd benthyciadau ac ad-dalu arian a fenthycwyd ar gyfer gwariant cyfalaf hefyd yn rhan o wariant refeniw. Yn y gyllideb, mae gan derfynau gwariant adrannol a gwariant a reolir yn flynyddol derfynau ar wahân ar gyfer adnoddau a chyfalaf. Mae'r gyllideb adnoddau yn cael ei rhannu ymhellach, fel a ganlyn: cyllideb adnoddau cyllidol a chyllideb adnoddau anghyllidol.

Benthyca adnoddau

Rhan o’r pwerau newydd a ddeddfwyd yn Neddf Cymru 2014. Gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £200 miliwn bob blwyddyn (o fewn cap cyffredinol o £500 miliwn) os yw’r refeniw a geir o drethi yn is na’r rhagolygon. Rhaid ad-dalu’r arian o fewn pedair blynedd.

Maes rhaglen wariant

Rhennir cyllideb Llywodraeth Cymru yn sawl categori at ddibenion monitro a rheoli. O fewn pob prif grŵp gwariant, dyrennir adnoddau i feysydd rhaglenni gwariant yn unol â’r math o wasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu. Islaw lefel meysydd rhaglenni gwariant, nodir y gwariant o fewn y camau gweithredu.

Adolygiad o wariant

Bob dwy neu dair blynedd, mae Trysorlys EF yn adolygu gwariant pob un o adrannau Llywodraeth y DU ac yn pennu cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae’r cyllidebau ar gyfer y llywodraethau datganoledig yn deillio o'r cyllidebau hyn, a hynny drwy gyfrwng Fformiwla Barnett, sef y mecanwaith a ddefnyddir gan Drysorlys EF i gyfrifo’r gwariant cyhoeddus a ddyrennir i Gymru er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y lefelau gwariant a ddyrennir i wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr.

Cylch Gwario

Mae'r Cylch Gwario yn broses sy’n cael ei harwain gan Drysorlys y DU i ddyrannu adnoddau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth, yn unol â blaenoriaethau'r Llywodraeth. Nid yw'n cynnwys diwygiadau i’r rhagolygon treth.

Cynnig y gyllideb atodol

Gall un o Weinidogion Cymru wneud cynnig y gyllideb atodol unrhyw adeg cyn, yn ystod neu ar ôl y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi (hynny yw, unrhyw adeg ar ôl derbyn cynnig y gyllideb flynyddol). Diben y gyllideb atodol yw gofyn am awdurdodiad i newid cynnig y gyllideb flynyddol yn ystod y flwyddyn.

Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME)

Cyfanswm y ddwy elfen o'r gyllideb, sef y gwariant a reolir yn flynyddol (AME) a'r terfynau gwariant adrannol (DEL).

Arian heb ei neilltuo

Arian a gaiff ei ddyrannu heb unrhyw gyfyngiadau ar sut y dylid ei ddefnyddio, gan ganiatáu disgresiwn llwyr dros y broses o’i ddyrannu.

Gwerth am arian

Un o bedair egwyddor sylfaenol y broses graffu ariannol. Mae hyn yn ymwneud ag ystyried i ba raddau y caiff amcanion eu cyflawni mewn perthynas â chostau. Yn fras, mae'n ymwneud â sicrhau canlyniadau o'r ansawdd gorau am yr arian a werir. Mae asesiadau gwerth am arian yn olrhain y gost o gaffael mewnbynnau (adnoddau) drwy allbynnau i ganlyniadau, gan gyfuno materion sy’n ymwneud ag economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Cafodd y gronfa ei chreu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Telir y grant gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (ynghyd â symiau eraill nad ydynt yn cael eu cyfeirio'n benodol at rywle arall) i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gymeradwyo’r cam o ddefnyddio arian o Gronfa Gyfunol Cymru. Rhaid cael awdurdod statudol i wneud hynny (hynny yw, awdurdod gan y Senedd drwy gynnig y gyllideb). Dyma'r cyfrif y mae'r arian y bydd Senedd y DU yn pleidleisio arno yn cael ei dalu i mewn iddo, i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Senedd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru

Corff sydd â rôl ym mhrosesau’r Llywodraeth ond nad yw’n adran o’r Llywodraeth nac yn rhan o adran. Mae cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu hyd braich oddi wrth Weinidogion Cymru, ac maent yn cyfateb i gyrff cyhoeddus anadrannol yn y DU. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Medr yn enghreifftiau o gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Cronfa Wrth Gefn Cymru

Mae Cronfa Wrth Gefn Cymru, sydd wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2018, yn offeryn sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb ar draws cyfnod o flynyddoedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu arbed refeniw dros ben o'r trethi datganoledig a gesglir, ynghyd ag arian heb ei wario o’r DEL, yn y Gronfa Wrth Gefn i'w ddefnyddio yn y blynyddoedd i ddod. Gall Llywodraeth Cymru ddal hyd at £350 miliwn yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru. Mae’r terfyn ar gyfer tynnu arian i lawr o’r gronfa yn £125 miliwn ar gyfer adnoddau a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf, fel y nodir yn y Fframwaith Cyllidol. Nid oes terfyn blynyddol ar gyfer talu arian i mewn i Gronfa Wrth Gefn Cymru.

Cyllidebu ar sail sero

Dull o gyllidebu lle mae'n rhaid cyfiawnhau pob math o wariant o'r newydd a'i flaenoriaethu, yn hytrach na dim ond egluro'r symiau y gwneir cais amdanynt sy'n fwy na’r cyllid ar gyfer y cyfnod blaenorol, fel sy’n digwydd gyda chyllidebu cynyddrannol.