Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Cyhoeddwyd 24/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2025   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig, fel y byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cafodd  y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-27 ei chyhoeddi ar 03 Tachwedd 2025.

Ynglŷn â'r diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i edrych yn fanwl ar ddyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-27 ar lefelau gwahanol, o'r portffolio i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw refeniw yn unig (felly nid ydynt yn cynnwys dyraniadau cyfalaf). Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.

Mae'r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yn y sylfaen diwygiedig ar gyfer 2025-26, ynghyd ag arian parod, a newid canrannol.

Nodyn – Mae llinell sylfaen diwygiedig 2025-26 yn cymryd Cyllideb Derfynol 2025-26 fel man cychwyn, gyda nifer o addasiadau. Gweler dogfennau cyllideb Llywodraeth Cymru i gael y manylion.

O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran ar y Gyllideb Ddiwygiedig ar gyfer 2025-26. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth o flwyddyn i flwyddyn yn y dyraniad cyllideb. Lliwiau'r nod yw coch ar gyfer gostyngiad a glas ar gyfer cynnydd, gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canran mwy. Mae cyfrifiad termau real yn defnyddio'r datchwyddwr cynnyrch domestig gros (GDP) ar gyfer mis Tachwedd, sef 2.23%.

Mae rheolyddion ar gyfer lleoli'r tabl, a modd sgrin lawn ar gael yn y 'dewisiadau gweld'.

Lawrlwytho’r data