Os na fydd y Senedd yn pasio penderfyniad ar y Gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno (sef 1 Ebrill), yn gychwynnol, dim ond 75% o'r gyllideb a gafodd ei hawdurdodi i’w defnyddio yn y flwyddyn ariannol flaenorol fydd ar gael.
Bydd y ffigur hwn yn cynyddu i 95% os na chytunir ar benderfyniad ar y Gyllideb erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Fodd bynnag, gellir cyflwyno Cynnig Cyllidebol Blynyddol a chynnal dadl arno yn y Senedd yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn berthnasol iddi; felly, yn ddamcaniaethol, byddai modd pasio'r gyllideb ar gyfer 2026-27 ar ôl 1 Ebrill 2026, pe na bai'r Senedd wedi cytuno ar gyllideb erbyn y pwynt hwnnw.
Mae cyllidebau cyrff a ariennir yn uniongyrchol fel Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn y Senedd, a Chomisiwn Etholiadol Cymru hefyd wedi'u cynnwys yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol.
Os na chytunir ar y Gyllideb, dim ond 75% / 95% o gyllidebau cyrff a ariennir yn uniongyrchol fydd ar gael iddynt, a hynny hyd nes bod Cynnig Cyllidebol Blynyddol yn cael ei awdurdodi.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt bennu eu cyllidebau a’u treth gyngor cyn 11 Mawrth yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r Gyllideb yn berthnasol iddi. Mae'r terfyn amser hwn yn sicrhau y gall awdurdodau bilio gyhoeddi biliau ar gyfer y dreth gyngor mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol ar 1 Ebrill.
Ble mae'r prosesau hyn wedi'u nodi?
Cytunir ar Gyllideb Llywodraeth Cymru drwy bleidlais yn y Senedd ar gynnig Cyllidebol Blynyddol, yn unol â’r hyn sy'n ofynnol o dan adran 125 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae adran 127 o Ddeddf 2006 yn nodi beth sy'n digwydd o dan amgylchiadau pan na fo’r Senedd yn cytuno ar Gynnig Cyllidebol Blynyddol.
Effaith ar Gyfradd Treth Incwm Cymru (WRIT)
Yn dechnegol, mae treth incwm yn dreth dros dro y mae gofyn ei hail-gymeradwyo bob blwyddyn.
Rhaid gwneud penderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig cyn dechrau'r flwyddyn dreth, sy'n dechrau ar 6 Ebrill. Dim ond ar gyfer un flwyddyn dreth y gellir gwneud penderfyniad o’r fath, a rhaid iddo fod yn berthnasol i'r flwyddyn dreth gyfan honno.
Mae'r rheolau sy'n ymwneud â thrafodion y Senedd ynghylch penderfyniadau ar y gyfradd Gymreig wedi’u nodi yn Rheolau Sefydlog 20.24A i D.
Dim ond ar ôl i'r Cynnig Cyllidebol Blynyddol gael ei gyhoeddi y caiff y Senedd drafod penderfyniad ar y gyfradd Gymreig, a hynny dim cynharach na 12 mis cyn dechrau'r flwyddyn dreth berthnasol. Bwriad y drefn hon yw sicrhau mai dim ond pan fydd yr holl wybodaeth am Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gael y gall yr Aelodau bleidleisio ar y penderfyniad ar y gyfradd Gymreig.
Yn ogystal, nid oes modd i’r Senedd basio cyllideb hyd nes ei bod wedi cytuno ar benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig yn gyntaf. Mae’r drefn hon yn seiliedig ar yr egwyddor na all y Senedd wneud penderfyniad ar y cynlluniau gwariant sydd wedi'u cynnwys yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol heb gytuno yn gyntaf ar sut y bydd y refeniw i dalu am y cronfeydd hynny yn cael ei godi drwy drethi.
Ar ôl i’r Senedd gytuno ar benderfyniad ynghylch y gyfradd Gymreig, mae modd canslo’r penderfyniad hwnnw cyn dechrau'r flwyddyn dreth. Fodd bynnag, nid oes modd ei ganslo na'i newid ar ôl i'r flwyddyn dreth y mae'n berthnasol iddi ddechrau (felly, o 6 Ebrill ymlaen).
Llinell Amser Cyllideb Llywodraeth 2026-27
Mehefin 2025 – Pwyllgor Cyllid
Digwyddiad rhanddeiliaid cyn y Gyllideb Ddrafft, ym Mangor
Mehefin/Gorffennaf 2025 – Pwyllgor Cyllid
Ymgysylltu pellach â dinasyddion
16 Gorffennaf 2025 – Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau’r gyllideb
Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru
Gorffennaf – Medi 2025 – Galwad agored y Pwylgor Cyllid am dystiolateh
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad i lywio gwaith craffu diweddarach ar y Gyllideb Ddrafft ym Mhwyllgorau’r Senedd