Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25

Cyhoeddwyd 15/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2025   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb 2025-26 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig megis byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cafodd Cyllideb Derfynol 2025-26 ei chyhoeddi ar 20 Chwefror 2025.

Ynglŷn â'r diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i archwilio dyraniadau Cyllideb Derfynol 2025-26 ar lefelau gwahanol, o'r portffolio i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw refeniw, ynghyd â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.

Mae’r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26 ynghyd â newid canrannol ac arian parod.

O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran ar Gyllideb Ddrafft 2025-26. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth o flwyddyn i flwyddyn yn y dyraniad cyllideb. Lliwiau'r nod yw coch ar gyfer gostyngiad a glas ar gyfer cynnydd gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canran mwy. Mae cyfrifiad termau go iawn yn defnyddio datchwyddwr Cynnyrch Domestig Gros mis Rhagfyr, sef 2.37%.

Mae rheolyddion ar gyfer gosod y tabl a'i ddangos ar sgrin lawn ar gael yn y tab 'gweld opsiynau'.

Lawrlwytho’r data