Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli tua £6 biliwn yn flynyddol. Cyfanswm y gwariant cyhoeddus amcangyfrifedig yng Nghymru yw £38 biliwn (tua 5% o gyfanswm gwariant cyhoeddus y DU).
Er bod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi'u datganoli, mae Llywodraeth y DU yn parhau i reoli dros hanner yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, ee, gwariant ar y system les. Mae'n anodd priodoli rhannau o wariant Llywodraeth y DU, fel yr arian a gaiff ei wario ar amddiffyn a materion tramor, i un ardal ddaearyddol.