Ar 3 Rhagfyr 2019, cyhoeddir canlyniadau cylch 2018 o Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA). Yn sicr, bydd nifer yn awyddus iawn i weld a fydd canlyniadau Cymru yn well na chanlyniadau’r cylchoedd blaenorol sydd, yn gyffredinol, yn cael eu hystyried yn siomedig.
Mae'r erthygl hon yn egluro beth yw PISA, perfformiad Cymru hyd yma a sut y mae’r rhaglen yn berthnasol i'r polisïau addysg sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw PISA a beth y mae’n ei fesur?
Arolwg a gynhelir bob tair blynedd yw PISA. Mae’n gwerthuso systemau addysg ar hyd a lled y byd drwy gynnal profion i asesu sgiliau a gwybodaeth sampl o bobl ifanc 15 oed ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) sy’n rhedeg y rhaglen.
Nod y profion yw defnyddio dulliau gwahanol i arholiadau traddodiadol i fesur sgiliau a gwybodaeth. Maent yn canolbwyntio mwy ar y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau i heriau bywyd go iawn tra bod TGAU, er enghraifft, yn hanesyddol wedi tueddu i asesu gwybodaeth disgyblion am y cwricwlwm.
Mae PISA yn rhoi darlun o’r modd y mae’r economi a’r farchnad lafur yn newid. Er enghraifft, yn ôl yr OECD (PDF):
The goal of education has continued to shift its emphasis from the collection and memorisation of information only to the inclusion of a broader concept of knowledge. (…)
The ability to locate, access, understand and reflect on all kinds of information is essential if individuals are to be able to participate fully in our knowledge-based society.
Mae’r cyrsiau TGAU newydd a gyflwynwyd yng Nghymru ym mis Medi 2015 yn ceisio rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau ac mae Cwricwlwm newydd Cymru yn ceisio datblygu hyn drwy roi blaenoriaeth i sgiliau yn ogystal â gwybodaeth a phofiad.
Mae PISA yn canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau disgyblion wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu haddysg orfodol. Yn y rhan fwyaf o wledydd, daw addysg orfodol i ben pan fydd disgyblion tua 15 oed. Bryd hynny, fel y dywed yr OECD, disgwylir i fyfyrwyr fod wedi meistroli'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol i symud ymlaen i addysg bellach / uwch, cyrsiau hyfforddi neu gyflogaeth.
Dyma sut y mae’r OECD yn disgrifio (PDF) amcanion PISA:
- a system-level assessment, representing a commitment by governments to monitor the outcomes of education systems;
- policy-oriented by linking data on students’ learning outcomes with data on key factors that shape learning in and out of school;
- carried out regularly to enable countries to monitor their progress in meeting key learning objectives;
- assesses both subject matter content knowledge, on the one hand, and the capacity of individuals to apply that knowledge creatively, including in unfamiliar contexts, on the other.
Mae enghreifftiau o gwestiynau PISA i’w gweld yma ar wefan yr OECD.
Sut fath o brofion sy’n cael eu cynnal a sut y caiff y sampl o ddisgyblion ei dewis?
Caiff PISA ei rannu’n dri prif faes: Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae pob cylch tair blynedd yn canolbwyntio’n benodol ar un o’r rhain. Gan mai darllen oedd y prif faes yn PISA 2018, roedd mwy o gwestiynau i asesu sgiliau darllen na'r ddau faes arall a bydd dadansoddiad ychwanegol o'r canlyniadau.
Safodd sampl o ddisgyblion 15 oed yng Nghymru brofion PISA rhwng diwedd mis Hydref a chanol mis Rhagfyr 2018. Bydd manylion y broses samplu yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad ar ganlyniadau Cymru gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) a gaiff ei gyhoeddi ar 3 Rhagfyr 2019. I roi rhywfaint o gyd-destun, cymerodd 3,451 o ddisgyblion a 140 o ysgolion ran ym mhrofion PISA 2015 ac mae tua 30,000 o fyfyrwyr ym Mlwyddyn 11ac 187 i ysgolion uwchradd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi rhestr o'r holl ysgolion a’r disgyblion cymwys ar gyfer consortiwm PISA, sy'n dewis y ‘brif sampl wreiddiol’ a fydd yn cymryd rhan yn y profion. Gall yr ysgolion hyn ddewis peidio â chymryd rhan ac, os felly, gellir defnyddio ysgolion o samplau eraill. Rhaid i nifer ddigonol o'r sampl wreiddiol a ddewiswyd gymryd rhan er mwyn bodloni gofynion PISA.
Caiff newidynnau fel math o ysgol, cyfrwng iaith, rhyw, awdurdod lleol a rhanbarth, eu defnyddio i sicrhau bod y sampl yn deg ac yn gynrychiadol. Ni chaiff enwau’r ysgolion na’r disgyblion sy’n cymryd rhan eu datgelu.
Beth oedd canlyniadau Cymru yn y gorffennol?
Cymerodd Cymru ran ym mhrofion PISA am y tro cyntaf yn 2006. Fel y gwelir yn y ffeithlun isod:
- Roedd sgoriau Cymru yn y cylch diwethaf (2015) yn is na sgoriau 2006 ym mhob maes.
- Roedd canlyniadau Cymru ym mhrofion PISA 2015 hefyd yn is na chanlyniadau’r tair gwlad arall yn y DU, ac yn is na chyfartaledd yr OECD, a hynny yn y tri maes.
PISA 2015: Sgorau cymedrig drwy’r DU
Ffynhonnell: UCL, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015 (2016); OECD, UK country note (2016)
Pan gyhoeddwyd canlyniadau 2015 ym mis Rhagfyr 2016, dywedodd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, ei bod yn cydnabod ‘nad ydym lle yr hoffem fod’ ond aralleiriodd gyngor diamwys yr OECD (PDF 2.91MB) sef 'daliwch ati; byddwch yn ddewr; rydych yn gwneud y pethau iawn'. Mae’r cynllun gweithredu, Cymraeg mewn Addysg: Ein Cenhadaeth Genedlaethol 2017-2021 yn cyflwyno cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg.
Beth yw targed Llywodraeth Cymru ar gyfer PISA?
Targed Llywodraeth Cymru yw bod Cymru yn sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes (Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth) erbyn PISA 2021. Pennwyd y targed hwn yn 2014 ar ôl i darged blaenorol (a bennwyd yn 2011), sef y dylai Cymru fod ymhlith yr 20 gwlad uchaf yn PISA 2015, gael ei ddiwygio.
Yn ystod haf 2017, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y targed o sicrhau 500 pwynt ar ôl i'r Gweinidog Addysg ddweud i ddechrau 'nad dyna oedd ei tharged hi', er bod hyn wedi’i osod yng nghyd-destun heriau eraill, fel ymestyn disgyblion uchel eu gallu. Ym mis Chwefror 2019, cadarnhaodd Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, mai'r targed yw sicrhau 500 pwynt ym mhob maes yn PISA 2021.
Sut y mae PISA wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru:
Mae'r OECD a PISA wedi dylanwadu'n sylweddol ar bolisi gwella ysgolion Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf.
Yn ôl Leighton Andrews AC, roedd canlyniadau PISA 2009, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, yn rhybudd amserol ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau a bod y canlyniadau’n dangos bod y system addysg yn methu. Yn dilyn canlyniadau siomedig Cymru ym mhrofion PISA, penderfynwyd symud y pwyslais, unwaith eto, a chanolbwyntio ar atebolrwydd ysgolion, cyflwyno hanfodion llythrennedd a rhifedd a gwella ysgolion drwy ddefnyddio dulliau rhanbarthol newydd. Cafodd y rhain i gyd eu cynnwys yng nghynllun ugain pwynt y Gweinidog ar y pryd. Rhwng 2013 a 2016, parhau â’r dull hwn o weithredu wnaeth Huw Lewis yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog gan ganolbwyntio ar y cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel. Dros gyfnod, derbyniwyd bod angen i Gymru wella’r cymorth a gynigir i ddisgyblion mwy abl a thalentog i sicrhau bod nifer gynyddol yn sicrhau’r graddau uchaf.
Mae'r OECD wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i ffyrdd o wella ysgolion. Mae ei adroddiadau yn 2014 (PDF 3.75MB) a 2017 (PDF 2.91MB) wedi dylanwadu ar gynlluniau gweithredu addysg Llywodraeth Cymru, Cymwys am Oes ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-21, yn y drefn honno.
Pan gaiff Canlyniadau PISA 2018 eu cyhoeddi ar 3 Rhagfyr 2019, dylent roi darlun cliriach o’r cynnydd a wnaed yng Nghymru i godi safonau yn ei hysgolion dros y degawd diwethaf ac o’r tebyglorwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o sicrhau 500 pwynt erbyn 2021.
Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru