Cyhoeddwyd 05/08/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
05 Awst 2014
Erthygl gan Michael Dauncey a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gostyngiad blynyddol yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Mae ystadegau blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi gostwng ymhlith dynion a menywod yn y categorïau oedran 16-18 oed a 19-24 oed.
Mae datganiad ystadegol cyntaf Llywodraeth Cymru,
Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur (diwedd y flwyddyn 2012 a 2013 (dros dro)) yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol ym mis Gorffennaf a hwnnw yw'r ffynhonnell ddiffiniol o ran amcangyfrifon o'r gyfran o bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r ystadegau hyn yn dangos y canlynol:
- Gostyngodd y gyfran o bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i 10.5% yn 2013 o gymharu â 10.8% yn 2012.
- Gostyngodd y gyfran o bobl ifanc 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i 21.2% yn 2013 o gymharu â 22.9% yn 2012.
- Mae'r gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn dal yn uwch ymhlith dynion a menywod 16-18 oed, ond gwelwyd gostyngiad mwy o faint o ran pwyntiau canran ymhlith dynion yn 2013.
- Mae'r gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn dal yn uwch ymhlith menywod na dynion 19-24 oed, ond gwelwyd gostyngiad mwy o faint o ran pwyntiau canran ymhlith menywod yn 2013.
Oherwydd y gostyngiad yn y cyfrannau o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, dyma'r ffigurau isaf ers sawl blynedd. Yn ôl data'r datganiad ystadegol cyntaf, mae'r gyfran o ddynion a menywod
16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar ei hisaf ers 2006, ac mae'r lefelau ymhlith pobl ifanc
19-24 oed ar eu hisaf ers 2008, ac eithrio un flwyddyn ar gyfer dynion (2011).
Ffigur 1: Canran y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
[caption id="attachment_1458" align="alignnone" width="682"]
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur (diwedd y flwyddyn 2012 a 2013 (dros dro))[/caption]
Ffigur 2: Canran y bobl ifanc 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
[caption id="attachment_1459" align="alignnone" width="682"]
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur (diwedd y flwyddyn 2012 a 2013 (dros dro))[/caption]
Mae ail fwletin ystadegol,
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae'n rhoi ystadegau mwy amserol, ond sy'n llai cadarn yn ystadegol, yn seiliedig ar yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth. Mae'r bwletin ystadegol hefyd yn cynnwys dadansoddiadau fesul rhywedd, oedran ac ardal, nad oes modd eu paratoi gan ddefnyddio data'r datganiad ystadegol cyntaf, ynghyd â chymariaethau a Lloegr a phedair cenedl y DU.
Mae data'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn lefel y bobl ifanc 16-18 oed a phobl ifanc 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (hyd at chwarter cyntaf 2014), o gymharu â'r cyfnod cyfatebol 12 mis yn gynharach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn brif flaenoriaeth, ac ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd ei
Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Pennodd rhai targedau hefyd yn y
Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, sef:
- lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant i 9 y cant erbyn 2017.
- lleihau canran y bobl ifanc rhwng 19–24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yng Nghymru o’i gymharu â’r DU yn gyffredinol erbyn 2017.
Mae natur gymharol y targed ar gyfer pobl ifanc 19-24 oed, yn hytrach na ffigur absoliwt, yn adlewyrchu'r duedd i amodau economaidd ehangach effeithio ar gyfradd y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ymhlith y grŵp oedran hwn. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi gwneud rhywfaint o waith dadansoddi eisoes, gan olrhain cyfraddau o ran pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn erbyn perfformiad economaidd y DU, yn seiliedig ar gynnyrch mewnwladol crynswth. (Gweler tudalennau 26-27 o'n Papur Ymchwil,
Pobl Ifanc Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant, Medi 2013)
Mae'r gyfran o bobl ifanc 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi amrywio, yn gyffredinol, yn unol â'r hinsawdd economaidd gyfnewidiol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, mae'r gyfradd ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed wedi aros yn gymharol gyson yng Nghymru ers y 1990au, sef tua 10-13%. Yr awgrym yw bod angen ymyriadau dwysach, mwy hirdymor ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, gan fod y tueddiadau'n fwy ystyfnig, ac yn ymwneud â mwy na hynt yr economi a'r farchnad lafur.
Byddai'n werth trafod y pwyslais cymharol a roddir ar bobl ifanc 16-18 oed a phobl ifanc 19-24 oed yn eu tro. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gasgliadau blaenorol, yn enwedig
Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu yn 2010, fod angen targedu cymorth yn ehangach er mwyn cynnwys pobl ifanc 19-24 oed yn hytrach na chanolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc 16-18 oed, yn arbennig yn sgil y dirwasgiad a'r dirywiad economaidd. Rhoddodd newidiadau strwythurol ar waith i ddatblygu Is-adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid o fewn yr Adran Addysg a Sgiliau, datblygodd Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer 2011-2015 sydd â dull gweithredu ehangach ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed, a rhoddodd bolisïau a mentrau ar waith, fel
Twf Swyddi Cymru.
Yn yr adroddiad
a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 nid oedd gwariant ar Twf Swyddi Cymru na llawer o'r cyllid ar gyfer Prentisiaethau wedi'u cynnwys yn amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, sef £200 miliwn, o wariant 'yn ymwneud â phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant' gan Lywodraeth Cymru ac o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, gwnaed hynny am fod cyllid o'r fath wedi'i dargedu at bobl ifanc sy'n perfformio'n gymedrol a'r rhai sy'n perfformio orau, yn hytrach na'r rhai sydd fwyaf agored i beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Wrth symud o Gynllun Gweithredu 2011-2015, yn dilyn Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu, i'r Fframwaith, cafwyd rhai awgrymiadau bod polisïau Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn canolbwyntio'n fwy ar bobl ifanc 16-18 oed unwaith eto. Nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hadroddiad fis diwethaf fod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn canolbwyntio'n bennaf ar ddysgwyr sy'n iau nag 16 oed a phobl ifanc 16-18 oed, gan nodi ei bod yn aneglur a fyddai hyn yn ddigonol er mwyn cyflawni'r amcanion ar gyfer pobl ifanc 19-24 oed.
Daeth Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad cyffredinol bod "Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa dda i helpu i leihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ond nid yw mewn sefyllfa gystal i leihau nifer y bobl ifanc 19-24 oed sy’n NEET a phennu a yw’n cyflawni gwerth am arian". Dros y blynyddoedd nesaf, mae'n sicr y caiff yr ystadegau blynyddol a chwarterol ar bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant eu monitro'n agos i weld a yw'r casgliad hwnnw'n gywir ac a yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni targedau 2017.