Mae'r llun yn dangos drws glas tywyll gyda'r drws yn gilagored, yn dangos rhan o ystafell felen y tu hwnt.

Mae'r llun yn dangos drws glas tywyll gyda'r drws yn gilagored, yn dangos rhan o ystafell felen y tu hwnt.

Yr ystafell lle mae popeth yn digwydd: Cymru yn y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE

Cyhoeddwyd 10/05/2022   |   Amser darllen munud

Mae'r cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn seiliedig yn bennaf ar ddau gytundeb: y Cytundeb Ymadael sy’n llywodraethu ymadawiad y DU â’r UE a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, sy’n sefydlu eu perthynas ar ôl Brexit.

Gyda’i gilydd, maent yn creu rhwydwaith cymhleth o gyfarfodydd ar ôl Brexit rhwng y DU a’r UE i drafod gweithredu’r cytundebau. 

Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn dros 30 o fforymau. Mae rhai ohonynt yn syrthio’n uniongyrchol o fewn meysydd polisi datganoledig. Nid yw rhai eraill yn rhan o feysydd datganoledig, ond maent yn cael effaith sylweddol ar feysydd polisi datganoledig fel datblygu economaidd. 

Mae’r erthygl hon yn egluro’r hyn rydym yn ei wybod hyd yn hyn am y rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn y broses hon. Mae’n dilyn ein herthygl flaenorol, am sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli yn y cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.

Llywodraeth y DU yn gosod y trefniadau

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod rhag-gyfarfodydd rhynglywodraethol yn cael eu cynnal i drafod eitemau agenda posibl a safbwyntiau'r DU ar faterion i'w trafod yng nghyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU hysbysu’r llywodraethau datganoledig sut y byddent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhwng y DU a’r UE ym mis Mai 2021. Gallant fod yn bresennol mewn cyfarfodydd a arweinir gan adrannau Llywodraeth y DU, pan fo eitemau sy’n ymwneud â meysydd o gymhwysedd datganoledig ar yr agenda, a helpu yn y paratoadau ar gyfer cyfarfodydd o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gymryd rhan ers amser maith, yn enwedig lle mae cyfarfodydd yn croestorri â meysydd datganoledig. Mae gweinidogion wedi beirniadu’r trefniadau ar ôl Brexit oherwydd mai dim ond fel sylwedyddion y gallant fynychu rhai cyfarfodydd.

Llywodraeth Cymru yn mynd i’r cyfarfodydd fel sylwedydd

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cael ei gwahodd i bob cyfarfod fel mater o drefn ac mae ei chais i ymuno ag eraill wedi ei wrthod.

Mae statws sylwedydd, a roddir yn aml i'r rhai sydd â diddordeb mewn materion sydd i'w trafod mewn cyfarfodydd rhyngwladol, yn golygu na all cyfranogwyr Llywodraeth Cymru gyfrannu at y drafodaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn anhapus yn benodol â’i statws fel sylwedydd yn y Cyngor Partneriaeth, sef corff goruchwylio’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, sy’n arwain ar gydgysylltu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog wedi gwneud cais i fynd i gyfarfodydd yn y dyfodol fel cyfranogwyr llawn. Disgwylir cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2022.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod cais y Prif Weinidog i fod yn bresennol yng Nghyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael lle bydd materion yn ymwneud â Phrotocol Gogledd Iwerddon sy’n debygol o effeithio ar borthladdoedd Cymru yn cael eu trafod.

Mae Llywodraeth Cymru yn egluro bod ganddi rôl “fwy gweithredol” ym mhwyllgor y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gydweithredu rheoleiddiol oherwydd ei fod yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn cynnwys paratoi deunyddiau ac agendâu, cofnodion a deunyddiau cysylltiedig.

Pwy sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru?

Yng nghyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y sawl sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru yw Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, y mae ei bortffolio yn cynnwys masnach a chydgysylltu materion y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Aeth y Prif Weinidog i gyfarfodydd y DU a’r UE yn ystod y trafodaethau Brexit ac yn ei bortffolio mae Cymru yn Ewrop, cysylltiadau rhyngwladol a chysylltiadau rhynglywodraethol.

Mae gan Weinidogion eraill faterion sy’n ymwneud â’r UE yn eu portffolio hefyd, fel Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am hawliau dinasyddion yr UE o dan y Cytundeb Ymadael, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar y mater hwn.

Penodwyd y cyn-ASE, Derek Vaughan, fel cynrychiolydd newydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop i gefnogi ei gwaith yn Ewrop, gan gynnwys ymgysylltu â gwleidyddion a swyddogion yn sefydliadau'r UE a hyrwyddo agenda polisi Llywodraeth Cymru yn yr UE.

Beth mae'r cyfarfodydd diweddaraf yn ei ddweud wrthym?

Mae ein ffeithlun yn dangos y fforymau newydd rhwng y DU a’r UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ynddynt.

Fforymau’r DU-UE: Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Diagram yn dangos fforymau’r DU-UE a sefydlwyd gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod ynddynt. Am fanylion llawn, dilynwch y linc lawrlwytho isod.

Mae Gweinidogion Cymru neu eu swyddogion wedi mynd i’r rhan fwyaf o gyfarfodydd, ni waeth a oedd y pwnc mewn maes datganoledig neu faes a gadwyd yn ôl. Roedd y cyfarfodydd diweddaraf yn ymwneud â physgodfeydd, ynni, cymryd rhan yn rhaglenni’r UE, gorfodi’r gyfraith, trafnidiaeth awyr a diogelwch hedfan.

Fodd bynnag, fe wnaethant benderfynu peidio â mynd i rai cyfarfodydd pan drafodwyd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wrth y Senedd na fynychodd y cyfarfod ar gaffael oherwydd nad oedd unrhyw eitemau ar yr agenda a oedd yn cyfiawnhau ei phresenoldeb. Mae’r agenda a’r cofnodion yn dangos y trafodwyd datblygiadau polisi a deddfwriaethol a materion yn ymwneud â gweithredu.

Aeth swyddogion o Lywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Ynys Manaw i gyfarfodydd heb Lywodraeth Cymru ar drafnidiaeth ffordd a TAW, adennill treth a thollau.

Mae’r Senedd eisiau mwy o dryloywder

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd (“y Pwyllgor”) wedi nodi yr her o lywio’r system newydd, a hoffai fwy o dryloywder.

Ym mis Ionawr, nododd y Prif Weinidog sut y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i roi gwybod i’r Senedd ynghylch y rhan y mae’n ei chwarae yng nghyfarfodydd y DU a’r UE:

  1. cyfeirio Aelodau o’r Senedd at wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gael gwybodaeth am gyfarfodydd y DU a’r UE;
  2. addewid i barhau i gyhoeddi datganiadau ysgrifenedig yn dilyn cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth; a
  3. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol newydd ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.

Defnyddiwch y cwymplenni isod i gael cyd-destun ar gyfer pob eitem:

Gwefan y Comisiwn Ewropeaidd

Gwefan y Comisiwn Ewropeaidd sydd â’r nifer fwyaf o fanylion am gyfarfodydd y DU a’r UE mewn un lle. Mae rhai dogfennau yn rhestru gwybodaeth am y rhai sy’n bresennol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’i phresenoldeb ac mae’r Senedd yn dibynnu’n bennaf ar ddatganiadau ysgrifenedig Gweinidogion, trafodaethau â Gweinidogion unigol a gwefan y Comisiwn Ewropeaidd i gael gwybodaeth.

Cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth

Mae’n ofynnol i’r Cyngor Partneriaeth gwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn, neu’n gynt ar gais y DU neu’r UE. Mae'r Cyngor yn gallu gwneud penderfyniadau yn ysgrifenedig rhwng cyfarfodydd ond nid yw’n glir pa rôl sydd gan y llywodraethau datganoledig yn hyn o beth, os o gwbl.

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Fe wnaeth Vaughan Gething fethu cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE oherwydd galwyd y cyfarfod gyda dwy awr o rybudd, a dywedodd nad oedd hyn yn dderbyniol. Roedd un o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol fel sylwedydd, ynghyd â Gweinidogion o’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Ym mis Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor y byddai'r pedair llywodraeth yn defnyddio'r Grŵp Rhyngweinidogol i “bwyso ymhellach” am y cyfle i gymryd rhan lawn yn y Cyngor Partneriaeth. Ar 20 Ebrill, awgrymodd y Cwnsler Cyffredinol y dylai anelu at gyfarfod yn rheolaidd, gan gynnwys cyn cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth a Chyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael.

Gofynnwyd i’r Prif Weinidog ailystyried sut caiff gwybodaeth ei darparu

Roedd y Pwyllgor yn croesawu bwriad y Prif Weinidog i barhau i gyhoeddi datganiadau gweinidogol ysgrifenedig yn dilyn cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth. Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn siomedig gyda’i ymateb a gofynnodd iddo:

ystyried mecanwaith cymesur ond mwy tryloyw ar gyfer hysbysu’r Senedd o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn y cyfarfodydd hyn, y materion a drafodwyd a’r pwyntiau a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth gynrychioli buddiannau Cymru.

Argymhellodd hefyd fod y pedair llywodraeth yn ystyried ar y cyd y pryderon ynghylch diffyg tryloywder yn strwythurau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Atebodd y Prif Weinidog ar 10 Mawrth, gan nodi’r hyn a ganlyn:

  • bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i roi gwybodaeth yn rhagweithiol am ei chyfarfodydd rhynglywodraethol;
  • ei fod yn hapus i ystyried sut y gallwn roi mwy o wybodaeth am ymwneud y llywodraeth â'r strwythurau TCA;
  • ei fod yn cynnig cynnal cyfarfod rhwng swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Beth nesaf?

Mae llywio’r ddrysfa gymhleth o wneud penderfyniadau fel y trafodwyd yma yn her newydd i holl seneddau’r DU.

Mae gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn llywio cynrychiolaeth ehangach Senedd Cymru mewn cyfarfodydd rhwng y DU a’r UE, y mae’n ei ddisgrifio fel rhai sydd o bwys ac o ddiddordeb sylweddol i randdeiliaid.

Mae’r berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit yn effeithio ar fywyd bob dydd yma yng Nghymru a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod. 

Erthygl gan Sara Moran, Joe Wilkes a Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru