Yr UE yn bwriadu dechrau trafodaethau masnach rydd gyda Seland Newydd ac Awstralia

Cyhoeddwyd 19/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

19 Chwefror 2016 Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4700" align="alignright" width="201"]Baneri'r UE Llun o flickr gan Xavier Häpe. Trwydded Creative Commons[/caption] Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn paratoi i drafod dau Gytundeb Masnach Rydd newydd gyda Seland Newydd ac Awstralia. Mewn datganiadau ar wahân gyda Phrif Weinidog Seland Newydd, John Key (Hydref 2015), a Phrif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull (Tachwedd 2015), mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk wedi cyhoeddi cytundebau i ddechrau gweithio tuag at drafodaethau ar gyfer dau Gytundeb Masnach Rydd ar wahân rhwng yr UE a Seland Newydd a rhwng yr UE ac Awstralia. Mae manylion trafodaethau masnach byd-eang yn breifat fel arfer er mwyn diogelu pŵer y partïon dan sylw i fargeinio. Fodd bynnag, mae strategaeth y Comisiwn, Trade for All, yn nodi cynlluniau i wella tryloywder gymaint â phosibl a diogelu pŵer y Comisiwn i fargeinio ar yr un pryd. Lluniwyd y cynlluniau hynny mewn ymateb i feirniadaeth yn sgil y canfyddiad bod lefel uchel o gyfrinachedd yn ystod y trafodaethau â'r Unol Daleithiau ynghylch y bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig (TTIP). Felly, mae'n bosibl y bydd mwy o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd yn ystod y broses o drafod Cytundebau Masnach Rydd Seland Newydd ac Awstralia na'r hyn a gafwyd yn y gorffennol. Pryd y gellir disgwyl i'r fargen gael ei chwblhau? Mae'n rhaid i'r Comisiwn ofyn am ganiatâd y Cyngor Ewropeaidd i ddechrau'r trafodaethau yn gyntaf. Y cyfle cynharaf i wneud hynny ar gyfer Cytundeb Seland Newydd fydd 2017, a bydd Cytundeb Awstralia yn dilyn yn fuan wedyn. Mae'r broses ar gyfer trafodaethau masnach yr UE yn un hir gyda'r trafodaethau'n para o leiaf ddwy i dair blynedd fel arfer. Yna, ceir proses graffu gyfreithiol sy'n para rhwng tair a naw mis, ac ar ôl hynny, caiff Senedd Ewrop bleidleisio ar y cynigion. Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, mae'n bosibl na fyddant yn cael effaith am rai blynyddoedd gan fod y darpariaethau a nodir yn y cytundeb yn aml yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o amser i'w gwneud yn bosibl mabwysiadu'r gweithdrefnau newydd yn raddol. Pam Seland Newydd ac Awstralia? Mae'r UE eisoes yn cydweithio gryn dipyn ar faterion rhyngwladol gyda Seland Newydd ac Awstralia. Fodd bynnag, mae'r ddwy wlad o blith grŵp o ddim ond chwe aelod o Sefydliad Masnach y Byd (WTO) nad oes ganddynt Gytundeb Masnach Rydd â'r UE eto. O ran y nwyddau a fewnforiwyd yn 2014, yr UE oedd y ffynhonnell fwyaf ond un yn Seland Newydd a'r drydedd ffynhonnell fwyaf yn Awstralia.    Ond, o ran y nwyddau a fewnforiwyd i'r UE yn 2014, Seland Newydd oedd rhif 51 ar y rhestr o ffynonellau ac Awstralia oedd rhif 21. Mae'n bosibl bod allforion Seland Newydd ac Awstralia i'r UE yn isel oherwydd iddynt newid ffocws yn ddiweddar i ganolbwyntio ar bartneriaid masnach yn ardal Asia a'r Môr Tawel, ar ôl llunio sawl cytundeb masnach newydd. Mae rhai sylwebwyr yn awgrymu bod hyn yn rhoi allforwyr a mewnforwyr yr UE o dan anfantais wrth gystadlu â gwledydd sydd eisoes â chytundebau gyda Seland Newydd ac Awstralia, fel Tsieina, Japan a'r Unol Daleithiau. Mae'r Comisiwn yn gobeithio y bydd y Cytundebau Masnach Rydd yn lleihau lawer o'r ffiniau a geir o ran masnach rhwng yr UE a Seland Newydd ac Awstralia. Mae gan y Comisiwn ddiddordeb mawr yn Awstralia hefyd oherwydd y potensial i ehangu marchnad Asia a'r Môr Tawel. Problemau posibl o ran amaethyddiaeth Mynegwyd pryderon ynghylch cynnydd posibl mewn cynhyrchion amaethyddol o Seland Newydd ac Awstralia a allai effeithio ar gystadleurwydd busnesau amaethyddol yn yr UE. Mae'r European Dairy Association wedi tynnu sylw at fantais gystadleuol sector llaeth Seland Newydd dros yr UE. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cynnydd posibl mewn cynhyrchion cig oen rhatach o Seland Newydd ar ein silffoedd yn y DU, sy'n broblem a allai effeithio ar Gymru oherwydd bod ganddi nifer fawr o ffermwyr defaid. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ymgyrchu i annog y cyhoedd yng Nghymru i fynnu cael rhagor o gig oen Cymreig mewn siopau. Mae'n poeni bod cymaint o gig oen o Seland Newydd ar gael, a'i fod yn cystadlu â chynnyrch lleol. Mae wedi mynegi pryder i'r Comisiwn ynghylch mewnforion o Seland Newydd. Mewn ymateb i'r pryderon hyn, dywedodd y Comisiwn yn strategaeth 'Trade for All' y bydd yn ystyried materion sensitif o ran amaeth yn yr UE wrth gynnal y trafodaethau. Dros y pump neu chwe blynedd diwethaf, mae Seland Newydd wedi bod yn allforio tua 160,000 o dunelli o gig defaid a geifr i'r UE bob blwyddyn, ac mae tua 35 y cant o'r ffigur hwnnw'n dod i'r DU. Mae Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth y DU yn dweud bod y DU yn cymryd cyfran anghymesur o uchel o gig oen Seland Newydd o gymharu â gwledydd eraill yr UE, er bod y wlad yn allforio swm sylweddol o gig oen i weddill yr UE. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn dweud nad yw Seland Newydd, ar hyn o bryd, yn defnyddio ei chwota llawn di-doll ar gyfer allforion cig defaid a geifr i'r UE, sef 228,254 o dunelli, ac ni fyddai gwaredu'r terfyn uchaf yn cael fawr ddim effaith ar lefelau allforio, os o gwbl. Dywed Cymdeithas Diwydiant Cig Seland Newydd fod yr amrywiaeth o ran faint o gynnyrch a gyflenwir gan Seland Newydd yn ategu cyflenwadau'r cynhyrchwyr lleol, a bod Seland Newydd, felly, yn llenwi'r bylchau pan fo'r galw am gig oen Cymreig yn fwy na'r hyn sydd ar gael. Ar hyn o bryd, mae allforwyr cig defaid a geifr Awstralia yn defnyddio 99.6 y cant o'u cwota blynyddol, ac maent wedi galw yn y gorffennol i'w gynyddu o'r lefel bresennol sy'n gyfystyr â chyfran o tua 8 y cant o farchnad yr UE. Yn yr adroddiad, World Sheep Meat Market to 2025, mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth yn awgrymu, pe godir y cyfyngiadau, mai dim ond Awstralia, o blith holl gyflenwyr cig defaid yr UE, fyddai â'r gallu i allforio mwy o gynnyrch. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg