Delwedd addurniadol o ddwylo person yn dal pecyn sgrinio'r coluddyn

Delwedd addurniadol o ddwylo person yn dal pecyn sgrinio'r coluddyn

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am raglenni sgrinio iechyd yng Nghymru: WEDI’I DIWEDDARU

Cyhoeddwyd 11/10/2024   |   Amser darllen munudau

Mae rhaglenni sgrinio yn offeryn pwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd. Gallant ganfod risg uwch o glefyd ymhlith pobl sy'n ymddangos yn iach, gan eu galluogi i gael triniaeth gynharach a mwy effeithiol lle bo hynny'n briodol.

Mae rhanddeiliaid yn aml yn gofyn pam, o ystyried ei botensial i achub bywydau a gwella canlyniadau iechyd, nad yw mwy o sgrinio ar gael i fwy o bobl.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut mae penderfyniadau ar sgrinio yn cael eu gwneud, pa raglenni sgrinio'r GIG sy'n cael eu cynnig yng Nghymru, a'r risgiau/niwed sy'n gysylltiedig â sgrinio. Ei nod yw ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin am sgrinio iechyd.

Pwy sy’n penderfynu a ddylid cyflwyno rhaglen sgrinio?

Mae dulliau sgrinio yn y DU yn cael eu llywio gan waith Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC). Mae UK NSC yn bwyllgor annibynnol, sy'n atebol i bedwar prif swyddog meddygol y DU. 

Mae UK NSC yn gwneud argymhellion ynghylch defnyddio rhaglenni sgrinio newydd a sefydledig gan gynnwys:

  • a fyddai buddion rhaglen sgrinio yn gwrthbwyso’r niweidiau;
  • a fyddai buddion cyffredinol rhaglen yn cyfiawnhau’r costau;
  • sut y dylid rhoi rhaglen sgrinio ar waith;
  • pa dystiolaeth bellach y dylid ei chasglu.

Gallwch ddod o hyd i holl argymhellion UK NSC a dogfennau ategol ar wefan UK NSC. Caiff yr argymhellion eu hadolygu'n rheolaidd (bob tair blynedd fel arfer).

Mae pob gwlad yn y DU yn gosod ei pholisi sgrinio ei hun, yn seiliedig ar gyngor UK NSC. Mae gan Gymru ei Phwyllgor Sgrinio ei hun (fel sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon), sy'n ystyried argymhellion UK NSC ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Er bod y rhaglenni sgrinio a gynigir yn weddol debyg ar draws y DU, gall fod rhywfaint o amrywiaeth. Er enghraifft, ym mhob un o bedair gwlad y DU, mae gwahoddiadau i gymryd rhan mewn sgrinio canser y coluddyn yn dod i ben yn 74 oed. Yn Lloegr a'r Alban, gall pobl 75 oed neu hŷn wneud cais am brawf sgrinio os ydynt am gael un. Nid yw hyn yn wir yng Nghymru na Gogledd Iwerddon. (Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler ein papur briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau o 2020). 

Pa gyflyrau y gallaf gael fy sgrinio ar eu cyfer yng Nghymru?

Ar hyn o bryd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y rhaglenni sgrinio cenedlaethol canlynol ledled Cymru, gan gynnwys tair rhaglen sgrinio canser, ac yn goruchwylio’r broses o ddarparu sgrinio cyn-geni gan fyrddau iechyd lleol.

Nod y rhaglen hon yw lleihau nifer yr ymlediadau aortig abdomenol a marwolaethau (ystyr ymlediadau aortig abdomenol yw chwyddo yn y rhydweli sy'n cario gwaed o'r galon i'r abdomen). Gwahoddir dynion 65 oed, y mae'r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio. Mae hyn yn cynnwys sgan uwchsain. Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio o'r blaen ofyn am sgan drwy gysylltu â'u swyddfa sgrinio leol

Dysgwch fwy am sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yng Nghymru.

Nod y rhaglen hon yw dod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar. Mae'n cynnwys pecyn prawf cartref. O 9 Hydref 2024, bydd pobl rhwng 50 a 74 oed sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig sgrinio coluddion bob dwy flynedd.

Dysgwch fwy am sgrinio'r coluddyn yng Nghymru.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig mamogramau i fenywod sy'n byw yng Nghymru rhwng 50 a 70 oed bob tair blynedd. Ni fydd menywod 70 oed a throsodd yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio, ond gallant gysylltu â Bron Brawf Cymru i ofyn am apwyntiad.

Dysgwch fwy am sgrinio'r fron yng Nghymru.

Gwahoddir menywod rhwng 25 a 64 oed i gael prawf sgrinio serfigol bob 5 mlynedd. Mae'r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn edrych am fathau risg uchel o Feirws Papiloma Dynol (HPV) sy'n gallu achosi newidiadau yn y celloedd yn y serfics.

Dysgwch fwy am sgrinio serfigol yng Nghymru .

Bydd pawb sy'n 12 oed neu'n hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig. Mae'r prawf sgrinio yn cynnwys tynnu lluniau o'r llygaid i wirio am glefyd y llygaid diabetig (retinopathi diabetig).

Dysgwch fwy am sgrinio llygaid diabetig yng Nghymru.

Mae pob baban sy'n cael ei eni yng Nghymru yn gymwys i gael prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig (sgrinio am gyflyrau prin ond difrifol). Fel arfer, cymerir y sampl ar gyfer y prawf hwn bum niwrnod ar ôl i'r babi gael ei eni.

Dysgwch fwy am sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yng Nghymru .

Mae pob babi sy'n cael ei eni yng Nghymru yn cael cynnig sgrinio clyw yn ystod wythnosau cyntaf eu bywyd.

Dysgwch fwy am sgrinio clyw babanod yng Nghymru.

Mae pob menyw sy'n feichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn geni yn ystod eu beichiogrwydd.

Dysgwch fwy am sgrinio cyn geni yng Nghymru.

Mae GIG Cymru hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth a chyngor am sgrinio i bobl sy'n drawsryweddol neu'n anneuaidd. Pwynt pwysig yw bod gwahoddiadau ar gyfer sgrinio yn seiliedig ar sut mae person wedi'i gofrestru gyda'i feddyg teulu ac nid y rhyw a neilltuwyd iddynt adeg eu geni.

A fydd sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint?

Yn 2022, gwnaeth UK NSC argymell sgrinio wedi'i dargedu ar gyfer canser yr ysgyfaint i bobl rhwng 55 a 74 oed y nodwyd eu bod mewn perygl uchel o ganser yr ysgyfaint. Dywedodd y dylai pedair gwlad y DU symud tuag at weithredu sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu gyda darpariaeth gwasanaeth integredig ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn argymhelliad UKNSC mewn egwyddor, a dywedodd ei bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio sut y dylid cynnal profion sgrinio ysgyfaint yng Nghymru. Dywedodd ei bod hefyd yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i nodi'r llwybr gorau posibl.

Pam nad yw sgrinio weithiau'n cael ei argymell?

Un egwyddor allweddol o sgrinio poblogaeth yw y dylid cyflwyno rhaglen sgrinio dim ond os yw tystiolaeth yn dangos y bydd y llwybr sgrinio arfaethedig, gan gynnwys profion pellach a thriniaeth, yn gwneud mwy o les na niwed ac am gost resymol.

Mae'r profion a ddefnyddir i sgrinio nifer fawr o bobl yn tueddu i fod yn syml yn hytrach nag yn gywir iawn. Gallant nodi a oes risg uwch o glefyd/cyflwr. Fel arfer, bydd angen profion ychwanegol i gadarnhau ei bresenoldeb neu ei absenoldeb.

Nid oes unrhyw brawf sgrinio yn berffaith. Gall canlyniadau negyddol ffug neu ganlyniadau positif ffug olygu bod pobl naill ai'n anghywir yn dawel eu meddwl neu'n poeni heb fod angen. Gall canlyniad positif ffug arwain at rywun yn cael profion neu driniaethau ymyrol neu niweidiol nad oes eu hangen arnynt mewn gwirionedd. Gall canlyniad negyddol ffug olygu na chynigir profion diagnostig na thriniaeth bellach i rywun.

Gall rhai profion sgrinio hefyd fod â risg fach o niwed corfforol, er enghraifft cysylltiad ag ymbelydredd o famogram mewn prawf sgrinio ar y fron.

Enghraifft: canser y prostad

Nid yw sgrinio’r boblogaeth ar gyfer canser y prostad yn cael ei argymell ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig. Y ffordd fwyaf cyffredin o sgrinio ar gyfer canser y prostad yw mesur lefelau protein o'r enw antigen prostad-benodol (PSA) yn y gwaed. Nid yw UK NSC yn argymell sgrinio ar gyfer canser y prostad am y rhesymau a ganlyn:

  • Mae effaith sgrinio am PSA ar nifer y marwolaethau oherwydd canser y prostad yn aneglur, o'i gymharu â dim sgrinio neu ofal arferol.
  • Mae annibynadwyedd y prawf PSA yn golygu y gallai llawer o ddynion gael profion a thriniaeth bellach heb fod angen, a allai gael sgil-effeithiau niweidiol. Gall y prawf hefyd golli rhai mathau o ganser.
  • Mae angen rhagor o ymchwil i nodi a oes profion gwell na PSA y gellir eu defnyddio ar gyfer sgrinio.
  • Mae effeithiolrwydd triniaethau ar gyfer camau cynnar canser y prostad yn aneglur, o ystyried cydbwysedd y niwed / buddion.

Yn hytrach na rhaglen sgrinio genedlaethol, mae dull 'dewis gwybodus' o brofi PSA yn y GIG. Nod y rhaglen rheoli risg canser y prostad yw darparu gwybodaeth glir, gytbwys i ddynion 50 oed a hŷn (nad oes ganddynt symptomau clefyd y prostad) sy'n gofyn yn rhagweithiol i'w meddyg teulu am brofion PSA. Os bydd claf yn penderfynu profi ei lefelau PSA wedi hynny, gall y meddyg teulu drefnu hyn.

Mae UK NSC yn nodi’r hyn a ganlyn:

while screening can have huge benefits, it’s not always the answer to helping people with a particular health condition and resources might be better used elsewhere. For instance, it might be more effective for the government to invest in treatment services, or awareness campaigns so that people with symptoms visit their GP.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru