Yr economi sylfaenol

Cyhoeddwyd 02/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

02 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae ymchwilwyr y Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol (CRESC) yn dadlau, fel yn y DU, bod Cymru wedi colli llawer o'i sylfaen gweithgynhyrchu ond yn cadw ei 'heconomi sylfaenol'. Er bod y maes 'cyffredin' ond hanfodol hwn o'r economi yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i lesiant dinasyddion, maent yn awgrymu ei fod yn cael ei gamreoli drwyddi draw. Ar 8 Mawrth, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod yr economi sylfaenol yn ystod Dadl gan Aelodau Unigol. Daw hyn yng nghyd-destun ehangach y gwaith gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth economaidd newydd ar gyfer Cymru yn ddiweddarach eleni. Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn clywed gan ymchwilydd CRESC, yr Athro Karel Williams, ar 15 Mawrth i drafod yr economi sylfaenol yn ystod sesiwn ar safbwyntiau amgen ynghylch cynnwys posibl y strategaeth.

Yr economi sylfaenol: yr hanfodion

Mae'r economi sylfaenol yn seiliedig ar y gweithgareddau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, ni waeth beth yw statws cymdeithasol y defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft: isadeiledd, cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, ac iechyd, addysg a lles.Nenfwd Siambr y Senedd Maent fel arfer yn cael eu darparu gan gyfuniad o'r wladwriaeth (yn uniongyrchol neu drwy ariannu gweithgareddau allanol), busnesau bach a chanolig gwmnïau, a chwmnïau llawer mwy fel cyfleustodau preifat neu ganghennau o gwmnïau symudol fel y prif archfarchnadoedd, sy'n aml yn dod o'r tu allan i Gymru.

Pwysigrwydd yr economi sylfaenol i Gymru

Yn wahanol i sectorau gweithgynhyrchu, lle mae gwaith cynhyrchu wedi'i grynhoi mewn ardaloedd penodol, mae'r economi sylfaenol yn cael ei dosbarthu'n genedlaethol yn ôl y boblogaeth. Fel y mae'r 'Manifesto for the Foundational Economy' (PDF, 435KB) gan CRESC yn ei nodi, yr economi sylfaenol yw'r unig beth sydd ar ôl mewn llawer o'r hen ardaloedd diwydiant trwm ledled Ewrop. Felly mae'n hanfodol i lawer o bobl yng Nghymru, nid yn unig er mwyn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt, ond hefyd fel cyflogwr. Mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod 37.8 y cant o weithlu Cymru wedi'i gyflogi mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu at yr economi sylfaenol yn 2013, o'i gymharu â 10.3 y cant ym maes gweithgynhyrchu. Yn Lloegr, roedd 33.2 y cant o'r gweithlu wedi'i gyflogi yn yr economi sylfaenol yn yr un flwyddyn. Mae adroddiad mwy diweddar gan ymchwilwyr CRESC ar gyfer y Ffederasiwn Busnesau Bach, sef 'What Wales Could Be', yn awgrymu bod busnesau bach a chanolig lleoledig a chyflogwyr sylfaenol mawr ar unrhyw gyfrif yn cyfrif am o leiaf 40 y cant o'r gweithlu yng Nghymru (tud.32). Mae llawer o sectorau'r economi sylfaenol yn cael eu 'cysgodi', oherwydd eu bod yn lleol yn eu hanfod, bod y gystadleuaeth ryngwladol yn gyfyngedig a’i bod yn anodd symud dramor. Mae nwyddau a gwasanaethau sylfaenol hefyd yn anystwyth, h.y. nid yw'r galw am yr hanfodion hyn yn newid yn sylweddol pan fydd newid yn eu prisiau neu yn incwm defnyddwyr. Gyda'i gilydd, mae'r effeithiau hyn yn golygu ei bod yn haws i'r economi sylfaenol wrthsefyll ergydion economaidd allanol, o'i gymharu â gweithgynhyrchu er enghraifft, lle gall allbwn y maes hwn ostwng yn sylweddol yn ystod dirwasgiad.

Yr heriau i economi sylfaenol Cymru

Mae ymchwilwyr CRESC wedi dadlau bod polisi diwydiannol ac economaidd Cymru a'r DU wedi anwybyddu'r ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau sylfaenol, gan dueddu i ganolbwyntio ar brosesau a sectorau technoleg uwch. Mae'r rhain yn aml yn dechnoleg-ddwys, ac yn cynhyrchu nwyddau at ddibenion masnachu ac allforio, ac eto maent yn rhan fach iawn o economïau Cymru a'r DU. Er enghraifft, dim ond tri o naw sector blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf – adeiladu, ynni a'r amgylchedd a bwyd a ffermio – sy'n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol. Ar ben hynny, maent yn tynnu sylw at y ffaith bod cyflogaeth technoleg isel a chyflog isel yn nodweddu'r economi sylfaenol, a bod hyn yn dod yn fwy cyffredin. Maent yn tynnu sylw at y ffaith bod sectorau fel lletygarwch a manwerthu – sy'n cael eu nodweddu gan waith cyflog isel a rhan amser – yn cyfrif am fwy na hanner y swyddi a grëwyd yn y sector preifat yn y DU ers 2010. Mater pwysig arall yw 'gwahanu galwedigaethol' yn y sectorau hyn, lle caiff menywod eu gorgynrychioli ac felly eu bod yn aml yn gaeth mewn gwaith cyflog isel neu ran amser. Mae'n hysbys bod hyn yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yng Nghymru. Mae adroddiad y Ffederasiwn Busnes Bach yn tynnu sylw at rai o'r materion penodol sy'n wynebu'r sectorau sylfaenol yng Nghymru. Ym maes bwyd, mae'n awgrymu bod archfarchnadoedd mawr cystadleuol wedi cymryd elw proseswyr bwyd ac wedi gadael ffermwyr llaeth a defaid Cymru yn agored i brisiau cyfnewidiol y farchnad. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod mentrau preifat â llawer o adnoddau ym maes gofal i oedolion yn gosod llety pwrpasol mawr yn lle cartrefi llai o faint sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, gan fodloni galw cyfranddalwyr am gyfraddau uchel o elw. Mae'n dadlau bod hyn wedi arwain at gynnydd mewn gweithlu gofal cymdeithasol sy'n cael tâl annigonol, gwariant mawr gan awdurdodau lleol a gwaethygu o ran ansawdd gofal.

Rhoi ffocws penodol ar yr economi sylfaenol

Mae ymchwilwyr CRESC yn galw am ail-lunio'r economi mewn ffordd radical er mwyn cyfrif yn well am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol, gan ystyried hunaniaethau lluosog dinasyddion fel cynhyrchwyr, trethdalwyr a defnyddwyr (tud.70). Mae byrdwn y neges hon yn mynd y tu hwnt i edrych ar sectorau allweddol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeinameg y sectorau (er enghraifft, rhwng cwmnïau o wahanol feintiau), yn ogystal ag ymddygiad sefydliadau yn y sectorau hyn. O ystyried eu harwyddocâd fel darparwyr a chyflogwyr, drwy ganolbwyntio ar ansawdd y gwaith yn y sectorau sylfaenol, maent yn dadlau y gallai Llywodraeth Cymru gael dylanwad sylweddol ar ganlyniadau economaidd a chymdeithasol. Yn benodol, maent yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i'r syniad o greu amgylchedd generig sy'n hwylus i fusnesau, gan ddefnyddio polisïau ansafonol sy'n cael eu haddasu i nodweddion sectoraidd a gofynion busnesau penodol. Er enghraifft, ym maes bwyd gallai hyn olygu trafod gyda chyflenwyr ynghylch ymrwymiadau ffurfiol ar gyfer cyrchu, hyfforddiant a chyflogau byw (tud.70). Yn anad dim, mae'r ymchwilwyr yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru annog busnes cyfrifol drwy hyrwyddo parhad o berchnogaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig a chodi'r gofyniadau cymdeithasol ar sefydliadau busnes mawr yn yr economi sylfaenol (tud.7).
Erthygl gan Jack Miller, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jack Miller gan Brifysgol Sussex, a alluogodd i'r blog hwn gael ei gwblhau.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Yr economi sylfaenol (PDF, 188KB)