cy

cy

Yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol: cam cyfansoddiadol arwyddocaol ymlaen?

Cyhoeddwyd 25/03/2022   |   Amser darllen munudau

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, derbynnir yn gyffredinol fod yn rhaid i Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig gydweithio'n agosach, yn enwedig o ran:

Yn 2018, aeth Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ati i gomisiynu adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol i sicrhau eu bod yn addas at y diben yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Ym mis Ionawr 2022, daeth y llywodraethau i gytundeb ar yr adolygiad.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd fod y cytundeb ar yr adolygiad yn gam cyfansoddiadol arwyddocaol ymlaen, a disgrifiodd y broses datrys anghydfodau newydd fel proses arloesol. Fodd bynnag, dywedodd fod y cytundeb wedi dibynnu ar fod pob un o'r pedair llywodraeth yn gweithio yn yr ysbryd hwnnw.

Y sail ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol

Yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Ddatganoli (2013), cytunodd y llywodraethau i gydweithio drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion. Disgrifiwyd y Cydbwyllgor Gweinidogion fel corff ymgynghorol: roedd modd iddo wneud cytundebau, ond nid penderfyniadau rhwymol.

Yn 2017, dadleuodd Llywodraeth Cymru y dylid newid y Cydbwyllgor Gweinidogion i fod yn ‘Gyngor Gweinidogion’, ac y dylai fod yn gallu gwneud penderfyniadau drwy gonsensws, neu drwy bleidlais pe bai Llywodraeth y DU ac un o'r llywodraethau datganoledig o’r un farn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y dylai cysylltiadau rhynglywodraethol fod â sail statudol

Mae'r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol (“yr Adolygiad”) yn nodi y dylai'r llywodraethau wneud penderfyniadau ar y cyd, ond drwy gonsensws. Nid yw'n darparu ar gyfer rhoi sail statudol i gysylltiadau rhynglywodraethol.

Strwythurau rhynglywodraethol newydd 

Mae'r llywodraethau wedi cytuno i sefydlu tair haen newydd ar gyfer ymgysylltu ar lefel weinidogol i gymryd lle'r Cydbwyllgor Gweinidogion:

  • grwpiau rhyngweinidogol ar lefel portffolio neu ar lefel adrannol (rhai sy’n bodoli eisoes, a rhai sydd i’w sefydlu o’r newydd);
  • Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i drafod materion trawsbynciol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid; a
  • Chyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig (y Cyngor) i oruchwylio’r system lywodraethu aml-lefel a grëwyd yn sgil datganoli.

Cytunodd y llywodraethau i gynnal cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid a’r Cyngor ar gyfnodau rheolaidd, ac i newid cadeiryddion a lleoliadau’r cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar batrwm cylch. Cytunwyd hefyd i gyhoeddi canllawiau ar newid cadeiryddion a lleoliadau ar batrwm cylch, ac amlder y cyfarfodydd ar gyfer y grwpiau rhyngweinidogol.

Bydd ysgrifenyddiaeth ar y cyd yn cael ei sefydlu, a fydd yn cynnwys swyddogion o bob llywodraeth, ond bydd yn atebol i'r Cyngor.

Nid yw’n eglur faint o amser fydd hi’n gymryd i’r strwythurau rhynglywodraethol newydd gael eu sefydlu’n llawn. Cynhaliodd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ei gyfarfod cyntaf yr wythnos hon. Nid yw’r Cyngor wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf hyd yma.

Diagram yn dangos y Cyngor yn yr haen uchaf yn cysylltu i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol a’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn yr haen ganol. Hefyd yn yr haen ganol mae pwyllgorau rhyngweinidogol sy’n gyfyngedig o ran amser, yn cysylltu i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Mae’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn cysylltu i’r lefel portfolio sy’n cynnwys grwpiau rhyngweinidogol ar gyfer busnes a diwydiant; yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig; masnach; iechyd; cyfiawnder; sero net; cysylltiadau rhwng y DU a’r UE; addysg; a thrafnidiaeth.

Y meysydd allweddol ar gyfer cydweithio

Mae'r adolygiad yn nodi ffyrdd newydd y bydd y llywodraethau'n cydweithio ar draws ystod o feysydd allweddol lle rennir cyfrifoldeb.

Rheoli Marchnad Fewnol y DU a'r fframweithiau cyffredin

Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol newydd yn gyfrifol am:

  • oruchwylio'r rhaglen fframweithiau cyffredin; a
  • thrafod materion sy'n effeithio ar safonau rheoleiddio ledled y DU ar gyfer masnach fewnol.

Gallai hyn gynnwys goruchwylio gweithrediad Deddf Marchnad Fewnol y DU a sut y bydd y llywodraethau yn gwneud penderfyniadau ar gytuno ar eithriadau i'r Ddeddf.

Materion rhyngwladol

Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn trafod materion rhyngwladol trawsbynciol a’r gwaith o weithredu a datblygu rhwymedigaethau rhyngwladol mewn meysydd datganoledig.

Bydd Gweinidogion hefyd yn ymwneud â materion rhyngwladol ar lefel portffolio drwy'r grŵp rhyngweinidogol ar fasnach a grwpiau rhyngweinidogol perthnasol eraill.

Materion y DU a'r UE

Bydd y llywodraethau'n trafod y broses o roi cytundebau’r DU a’r UE ar waith drwy grŵp rhyngweinidogol ar Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU a'r UE. Bydd hyn ochr yn ochr ag ymrwymiadau a wnaed ar wahân gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig yn fforymau'r DU a’r UE.

Cyllid

Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn ystyried materion economaidd ac ariannol. Bydd gan y Pwyllgor hwn ysgrifenyddiaeth a phroses datrys anghydfodau ar wahân.

Mae'r llywodraethau wedi cytuno mai mater i Drysorlys y DU yw penderfyniadau ariannu. Dim ond os oes rheswm i gredu y gallai un o egwyddorion y Datganiad o Bolisi Ariannu fod wedi cael ei thorri y gellir codi anghydfodau ynghylch ariannu.

Maent hefyd yn cytuno y bydd anghydfodau ynghylch fframweithiau cyllidol Cymru a'r Alban yn parhau i gael eu rheoli drwy'r prosesau a nodir yn y fframweithiau hynny.

Datrys anghydfodau

Roedd gan y Cydbwyllgor Gweinidogion broses ar gyfer datrys anghydfodau.

Fodd bynnag roedd y llywodraethau datganoledig a phwyllgorau seneddol yn beirniadu’r broses, ac yn dadlau bod Llywodraeth y DU yn cael penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag anghydfodau ai peidio. Dadleuodd Llywodraeth Cymru yn 2017 y dylai ‘Cyngor Gweinidogion' diwygiedig ddatrys anghydfodau ac y dylid gwneud y penderfyniadau hynny mewn modd rhwymol.

Mae’r adolygiad yn amlinellu bod y llywodraethau wedi cytuno ar broses tri cham newydd ar gyfer datrys anghydfodau, o lefel portffolio i'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, ac yn olaf i Gyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig. Mae'n gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r broses bresennol o ddatrys anghydfodau, yn enwedig drwy:

  • gyflwyno meini prawf ar gyfer trosglwyddo materion i lefel uwch: os bydd anghytundeb ar lefel portffolio, gellir ei gyfeirio at yr ysgrifenyddiaeth. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn asesu a yw'r anghytundeb wedi'i drafod yn helaeth eisoes ac a oes ganddo oblygiadau y tu hwnt i'w briod faes polisi cyn trosglwyddo’r mater.
  • cyflwyno terfynau amser: rhaid i anghydfodau a gyfeirir at y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael eu hystyried gan uwch-swyddogion rhynglywodraethol o fewn deg diwrnod gwaith, a chan y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid o fewn deg diwrnod arall, oni chytunir fel arall. Rhaid ystyried anghydfodau a gyfeirir at y Cyngor o fewn mis.
  • cyflwyno gofyniad na chaniateir i gadeirydd cyfarfod fod yn gynrychiolydd llywodraeth sy'n rhan o'r anghydfod;. Ni fydd gan y cadeirydd rôl gwneud penderfyniadau. Os bydd anghydfod yn cyrraedd y Cyngor, y Prif Weinidog fydd y cadeirydd.
  • cyflwyno gofyniad y dylid ceisio cyngor trydydd parti neu gyfryngu cyn trosglwyddo mater i'r Cyngor, oni bai bod pob parti'n cytuno i beidio â gwneud hyn; a
  • chyflwyno gofyniad o ran adrodd: bydd llywodraethau'n cyflwyno adroddiad ar ganlyniad anghydfodau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol neu'r Cyngor i'w deddfwrfeydd (gan gynnwys cyngor gan drydydd partïon).

Mae anghytundebau heb eu datrys rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dros ddeddfwriaeth ar ôl Brexit ar reoli cymorthdaliadau ac ar gymwysterau proffesiynol. Nid yw’n glir a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin ag unrhyw un o'r rhain drwy'r broses newydd o ddatrys anghydfodau.

Tryloywder ac atebolrwydd seneddol

Yn 2018, argymhellodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bumed Senedd y dylai cysylltiadau rhynglywodraethol fod yn dryloyw ac yn atebol. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiadau rheolaidd i'r Senedd ar gysylltiadau rhynglywodraethol.

Yn yr adolygiad, mae'r llywodraethau'n cytuno i lefel uwch o adrodd ar waith rhynglywodraethol, gyda'r ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol.

Fodd bynnag, mynegwyd pryderon nad yw'r ymrwymiadau hyn o ran tryloywder yn gymesur â pha mor bwysig yw gwaith rhynglywodraethol ar ôl Brexit.

Ym mis Chwefror, argymhellodd Pwyllgor Cyfansoddiad Senedd yr Alban  na ddylai unrhyw ymgynghori cyhoeddus na gwaith craffu seneddol gael eu gwanhau o gwbl o ganlyniad i fframweithiau cyffredin a gwaith rhynglywodraethol.

Caiff Seneddau hefyd geisio gwella gwaith craffu o ran cysylltiadau rhynglywodraethol drwy gynyddu cydweithio rhyngseneddol. Ar 25 Chwefror, cyfarfu seneddwyr o bob rhan o'r DU mewn Fforwm Rhyngseneddol. Mewn datganiad ar y cyd, gwnaethant gytuno i:

anelu at “wella gwaith craffu drwy gyfnewid gwybodaeth ar y cyd a thrwy geisio dull cyson o wella tryloywder ac atebolrwydd ar lefel Gweinidogion a rhynglywodraethol”.

Gydag anghytundebau rhwng y llywodraethau’n parhau, ac amserlenni ar gyfer rhoi’r adolygiad ar waith yn aneglur, amser a ddengys sut y bydd y strwythurau rhynglywodraethol newydd yn datblygu, a sut y creffir arnynt.

Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru