Llun tirlun o orsaf pŵer niwclear Trawsfynydd, gyda llyn a dafad yn y blaendir.

Llun tirlun o orsaf pŵer niwclear Trawsfynydd, gyda llyn a dafad yn y blaendir.

Ynni niwclear yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/10/2025

Caeodd Trawsfynydd ac Wylfa, dwy orsaf ynni niwclear Cymru, ym 1991 a 2015, yn y drefn honno. Er nad oes unrhyw ynni niwclear wedi'i gynhyrchu yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf, mae effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ynni niwclear yn parhau i fod yn sylweddol. Mae pŵer niwclear yn parhau i fod yn berthnasol i Gymru a'i phobl mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys datgomisiynu gorsafoedd, gweithgynhyrchu yn y gadwyn gyflenwi, a gwaredu gwastraff niwclear.

Mae'r briff hwn yn edrych ar effaith ynni niwclear sifil yng Nghymru, gan gynnwys datblygiadau yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Mae'r papur briffio’n ymdrin â’r canlynol:

  • etifeddiaeth gorsafoedd pŵer niwclear y gorffennol yng Nghymru;
  • prosiectau niwclear newydd yn Lloegr a’r potensial ar gyfer datblygiadau newydd yng Nghymru;
  • y sail wyddonol a thechnolegol ar gyfer ynni niwclear, gan gynnwys adweithyddion modiwlar bach;
  • polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ynni niwclear a sut y caiff ei reoleiddio;
  • diogelwch niwclear a gwastraff niwclear, gan gynnwys gwaredu gwastraff ymbelydrol lefel uchel yn y tymor hir mewn cyfleuster gwaredu daearegol, a
  • phwerau datganoledig sy'n berthnasol i’r maes niwclear, yn enwedig o ran swyddi a sgiliau, iechyd a rheoleiddio amgylcheddol.

 

Amserlen datblygiadau niwclear perthnasol yn y gorffennol a rhai posibl yn y dyfodol yng Nghymru

Erthygl gan Bryn Townley a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Bryn Townley gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol a alluogodd y papur briffio hwn i gael ei gwblhau.