Delwedd o Lyfrau ar ddesg ysgol

Delwedd o Lyfrau ar ddesg ysgol

Yn y fantol? Y Senedd i drafod lefelau cyllid addysg

Cyhoeddwyd 19/09/2025

Yn y flwyddyn ariannol hon, bydd bron i £3.9 biliwn yn cael ei wario ar ysgolion Cymru, gan arwain at wariant o £8,616 fesul disgybl. Mae data’n dangos mai dyma’r swm uchaf fydd wedi cael ei wario mewn termau real yn ystod y cyfnod y mae data ar gael ar ei gyfer.

Eto yn gynharach eleni, clywodd y Pwyllgor Deisebau am alwad “i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol”. Dywed y Deisebydd fod “nifer o adroddiadau am awdurdodau lleol yn cyhoeddi ymgynghoriadau neu gyllidebau gwirioneddol gyda thoriadau enfawr i gyllideb addysg”. Cytunodd dros 11,000 o bobl â’r ddeiseb a’i llofnodi, sy’n golygu y bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod y materion hyn mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Medi.

Pwy sy'n ariannu ysgolion?

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer addysg oedran gorfodol i awdurdodau lleol. Mae'n rhan o'r hyn sy’n cael ei alw yn ‘setliad llywodraeth leol’ - swm o arian a ddefnyddir i gyfrannu at y gwasanaethau y mae cyngor yn eu darparu. Mae’n arian sydd ‘heb ei neilltuo’, sy’n golygu nad yw Llywodraeth Cymru yn dweud wrth gynghorau faint y mae’n rhaid iddynt ei wario ar wasanaethau unigol. Mater i bob cyngor yw penderfynu faint i'w wario ar beth — gan gynnwys ar ysgolion ac addysg.

Mae'r swm sylweddol hwn o gyllid 'uniongyrchol' awdurdodau lleol ar gyfer addysg yn cael ei ategu gan swm llawer llai o gyllid grant o gyllideb addysg ganolog Llywodraeth Cymru. I ddangos maint y rhaniad hwn, yn y flwyddyn ariannol 2025–26, bydd tua £3.5 biliwn o’r cyllid a glustnodwyd ar gyfer ysgolion yn dod drwy awdurdodau lleol, gyda £402 miliwn arall yn dod o gyllideb addysg ganolog Llywodraeth Cymru.

Sut mae awdurdodau lleol yn penderfynu faint i'w wario

Mae faint sy’n cael ei wario ar addysg oedran gorfodol yn cael ei benderfynu drwy gyfres o gamau:

Y ffactor cyntaf yw’r swm y mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ei wario ar addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio fformwlâu i benderfynu faint o arian i'w roi i bob awdurdod lleol bob blwyddyn ariannol. Ynghyd â refeniw treth gyngor gan drigolion lleol, mae'r cyllid hwn yn creu cyllideb a ddefnyddir gan gynghorau i ariannu eu holl wasanaethau. Yna, maent yn penderfynu faint o’r arian hwnnw sy’n cael ei ddefnyddio ar ysgolion ac addysg.

Yn ail, mae awdurdodau lleol wedyn yn penderfynu sut i rannu eu cyllid addysg. Unwaith y bydd cyngor yn penderfynu ar y cyfanswm i'w wario ar addysg, mae'n cymryd tri cham i rannu hyn ymhellach, yn unol â Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010:

  • Cyllideb addysg awdurdodau lleol yn ganolog: Dyma'r swm a gedwir gan y cyngor i'w wario ar ‘swyddogaethau addysg canolog’ fel darpariaeth amgen i ddysgwyr nad ydynt yn yr ysgol, gwasanaethau lles addysg, a chefnogaeth i helpu ysgolion i wella perfformiad. Mae'r pot hwn hefyd yn cynnwys gwariant ‘nad yw'n gysylltiedig ag ysgolion’ fel arian ar gyfer addysg bellach.
  • Cyllideb ysgolion: Dyma'r cyfanswm y bydd awdurdodau lleol yn ei wario ar wasanaethau ysgolion. Mae'n cynnwys pot o arian sy’n cael ei gadw’n ôl gan y cyngor ar gyfer pethau sy’n cael eu hystyried yn fwy effeithlon i’w gweinyddu’n ganolog, fel cefnogaeth i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, prydau ysgol a llaeth.
  • Cyllideb ysgolion unigol: Dyma’r cyllid a roddir yn uniongyrchol i ysgolion unigol.

Grant Addysg Awdurdod Lleol cyn-16 Llywodraeth Cymru

Er mai awdurdodau lleol sy'n cyfrif am y mwyafrif helaeth o'r cyllid y mae ysgolion yn ei gael, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o gyllid i ysgolion o'i chyllideb addysg drwy'r Grant Addysg Awdurdodau Lleol blynyddol. Mae’n cynnwys pedair elfen, sy’n gwneud cyfanswm o £402 miliwn yn 2025-26:

  • Diwygio Addysg: £67 miliwn
  • Safonau Ysgolion: £169 miliwn
  • Tegwch mewn Addysg (gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion): £156 miliwn
  • Cymraeg 2050: £8.8 miliwn.

Beth mae’r ffigurau’n ei ddweud wrthym

Mewn termau real, fel y dangosir yn y tablau isod, rhwng 2010-11 a 2025-26, bu:

  • cynnydd o 6.18% ar wariant gros a gyllidebwyd ar gyfer ysgolion
  • cynnydd o 7.43% o ddyraniad fesul disgybl

Gwariant gyllidebwyd ar gyfer ysgolion £ Biliwn

  Gwariant gros gyllidebwyd ar gyfer ysgolion £ Biliwn Termau real
(blwyddyn sylfaen 2025-26)
     
2025-26 3.870 3.870
2024-25 3.591 3.686
2023-24 3.343 3.571
2022-23 3.096 3.502
2021-22 2.913 3.527
2020-21 2.822 3.397
2019-20 2.657 3.370
2018-19 2.566 3.332
2017-18 2.543 3.371
2016-17 2.519 3.392
2015-16 2.496 3.436
2014-15 2.528 3.506
2013-14 2.519 3.536
2012-13 2.495 3.569
2011-12 2.470 3.599
2010-11 2.458 3.645

£ gwariant gyllidebwyd ar gyfer ysgolion fesul disgybl

  £ gwariant gros gyllidebwyd ar gyfer ysgolion fesul disgybl Termau real
(blwyddyn sylfaen 2025-26)
     
2025-26 8616 8616
2024-25 7926 8136
2023-24 7327 7827
2022-23 6773 7660
2021-22 6387 7733
2020-21 6203 7466
2019-20 5857 7428
2018-19 5675 7368
2017-18 5628 7461
2016-17 5570 7500
2015-16 5526 7609
2014-15 5607 7776
2013-14 5594 7853
2012-13 5520 7897
2011-12 5451 7942
2010-11 5409 8020

Beth mae awdurdodau lleol yn ei ddweud am gyllid ysgolion

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Rhybuddiodd am y pwysau chwyddiant sy'n wynebu ysgolion sy'n gysylltiedig yn bennaf â chyflog, gan adrodd bod “cyflog yn cyfrif am oddeutu 80% o’r pwysau ar ysgolion” yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn dweud mai un thema “a oedd yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro” gan awdurdodau lleol yw bod “cyllidebau ysgolion eisoes mewn sefyllfa fregus”.

Dywed CLlLC fod yna ddiffyg cyllidebol amcangyfrifedig ar draws holl wasanaethau'r cyngor o tua £400 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2024-25 a bod hynny “yn golygu penderfyniadau anodd iawn i wasanaethau anstatudol a mwy a mwy o ysgolion.” Mae’n cyfeirio at lythyr a anfonodd CLlLC at y Prif Weinidog lle dywedir mae ysgolion ac addysg yw ‘Maes Blaenoriaeth 1’. Mae’n mynd ymlaen i ddweud:

Mae cynghorau wedi adrodd bod pwysau ychwanegol o £92 miliwn yn ystod y flwyddyn ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2024-25, sydd dros ddwywaith yr hyn a adroddwyd yn yr arolwg pwysau ar gyfer y flwyddyn flaenorol[…]. Er bod hyn yn bryderus, yr hyn sy’n gwaethygu’r sefyllfa yw’r ffaith fod cronfeydd wrth gefn wedi lleihau, felly nid ydynt yn parhau i fod y dewis yr oeddent mewn blynyddoedd blaenorol[…]. Mae’r pwysau mae ysgolion yn ei wynebu yn y dyfodol yn ddifrifol, amcangyfrifir pwysau o £120 miliwn yn 2025-26, gyda £111 miliwn a £113 miliwn arall yn 2026-27 a 2027-28 yn y drefn honno.

Mae’r Ddeiseb hon yn canolbwyntio ar y mater o gael digon o gyllid i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Dywed CLlLC, er bod llawer o achosion o bwysau ariannol ar ysgolion, mai un thema sy’n codi dro ar ôl tro gan awdurdodau lleol yw bod “pob ysgol yn gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol a chymhlethdod yr anghenion hynny”. Dywed hefyd fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 “wedi’i nodi fel y prif reswm dros y cynnydd mewn costau.”

Yr hyn sydd wedi cael ei ddweud am y Ddeiseb hon hyd yn hyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dau ymateb i'r Pwyllgor Deisebau ac yn y diweddaraf dywedodd wrth y Pwyllgor:

Mae awdurdodau lleol ac ysgolion yn gyfrifol am ddarparu addysg addas i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Awdurdodau lleol sydd i benderfynu sut i wario'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt er mwyn diwallu eu hanghenion lleol orau.

Pwysleisiodd y deisebydd eu bod am weld arian sy’n cael ei glustnodi yn cael ei ddiogelu ar gyfer addysg o fewn cyllidebau awdurdodau lleol. Yna ym mis Ebrill 2025 nododd y Deisebydd bryderon ynglŷn â symiau sylweddol o arian sy’n cael eu gwario gan awdurdodau lleol ar dribiwnlysoedd addysg, y mae’r deisebydd yn dweud bod llawer ohonynt yn cael eu colli. Dywed y Deisebydd fod hyn yn ddefnydd pryderus o arian cyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd. Mae eisoes wedi clywed bod pwysau ariannu yn her allweddol ac wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu sut mae darpariaeth ADY yn cael ei hariannu mewn ysgolion prif ffrwd. Cynhelir y sesiwn dystiolaeth olaf ar weithredu diwygiadau addysg, gan gynnwys y system ADY newydd, ar 23 Hydref 2025, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn rhoi tystiolaeth.

Cyn hynny, bydd y Senedd yn trafod y Ddeiseb hon ar gyllido addysg yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Medi 2025. Gallwch wylio’n fyw ar Senedd.tv.

Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.