Ymyrwyr Endocrin: adolygiad yr UE o’r meini prawf ar gyfer eu dynodi

Cyhoeddwyd 20/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

20 Tachwedd 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru   [caption id="attachment_1873" align="aligncenter" width="640"]Delwedd Flickr gan Justus Blümer. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Delwedd Flickr gan Justus Blümer. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption]

Cemegolion mewn cynhyrchion fel plaladdwyr a bioladdwyr yw ymyrwyr endocrin a gallant ymyrryd â hormonau pobl. Ar 25 Medi 2014, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd ymgynghoriad i gael barn am y modd y dylid diffinio meini prawf newydd i reoleiddio ymyrwyr endocrine.

Beth yw ymyrwyr endocrin?

Gall ymyrwyr endocrin amharu ar iechyd pobl ac anifeiliaid drwy newid y modd y mae hormonau’n gweithio. Drwy gynnal asesiadau gwyddonol, gwelwyd y gallant amharu ar ffrwythlondeb a chreu abnormaledd atgenhedlu. Mae’r canlyniadau’n dangos y gall dos isel ohonynt gael effaith niweidiol ac maent yn arbennig o beryglus yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod plentyndod. Gellir gweld yr effeithiau ymhell ar ôl i bobl ddod i gysylltiad â’r sylwedd ac ar ôl iddo ddiflannu o’u cyrff. Gall effaith cyfuniadau o’r sylweddau fod yn whanol i effaith un sylwedd ar ei ben ei hun. Darganfuwyd ymyrraeth endocrin tuag 20 mlynedd yn ôl ac, ers hynny, cynhaliwyd gwaith ymchwil helaeth. Mae bylchau mawr o hyd yn y wybodaeth wyddonol sydd ar gael am ffenomena ymyrraeth endocrin a, chan hynny, ceir amrywiaeth barn yn y gymuned wyddonol ac ymhlith rheoleiddwyr am bwyntiau penodol.

Mae ymyrwyr endocrin yn cynnwys diocsinau, biffenyl polyclorinedig, ffthaladau, parabenau a bisffenol A. Mae’r rhain i’w cael mewn plastigion (gan gynnwys poteli babanod a phecynnau bwyd), caniau bwyd, dodrefn, colur, siampŵ, eli haul, cynhyrchion fferyllol, plaladdwyr a bioladdwyr.

Ymgynghoriad yr UE

Mae pryder cynyddol yn yr UE ac yn fyd-eang am y posibilrwydd y gall ymyrwyr endocrin niweidio iechyd pobl a’r amgylchedd. Mae’r UE wedi cyflwyno rhwymedigaethau deddfwriaethol penodol i leihau ymyrwyr endocrin yn raddol mewn dŵr, cemegolion diwydiannol, cynhyrchion diogelu planhigion a bioladdwyr.

Er bod deddfwriaeth bresennol yr UE yn cyfeirio at ymyrwyr endocrin, nid oes unrhyw feini prawf ffurfiol, unedig wedi’u sefydlu ar gyfer eu diffinio, yn rhyngwladol nac ar lefel yr UE. O dan y rheolau presennol ar gyfer plaladdwyr a bioladdwyr, sef Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (CE) Rhif 1107/2009 a Rheoliadau Cynhyrchion Bioladdol (CE) Rhif 528/2012 mae gan y Comisiwn Ewropeaidd bwerau i ddiffinio meini prawf gwyddonol i ddynodi’r ymyrwyr endocrin. Mae’r Comisiwn yn awr yn ymgynghori ynghylch manylion y meini prawf i ddynodi ymyrwyr endocrin. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 19 Ionawr 2015. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi dogfen yn rhoi manylion y meini prawf arfaethedig.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Yn ei wrandawiad yn Senedd Ewrop ar 30 Medi 2014, dywedodd Comisiwn Iechyd nesaf yr UE, Vytenis Adriukaitis, wrth Aelodau Senedd Ewrop, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn o safbwynt meddygol gan y gallai’r mater effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yn cytuno â’r Comisiwn Ewropeaidd fod angen diffinio meini prawf gwyddonol ar gyfer ymyrwyr endocrin. Mae’r EFSA yn cadarnhau diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o ymyrrwr endocrin ac yn tanlinellu nad yw pob sylwedd endocrin gweithredol yn ymyrrwr endocrin. Mae’n dibynnu a oes digon o dystiolaeth resymol yn dangos y gall y sylwedd gael effaith niweidiol wrth iddo ryngweithio â’r system endocrin.

Mae’r corff amgylcheddol anllywodraethol, Pesticide Action Network (PAN), yn pryderu am yr ymgynghoriad gan ddweud bod y cwestiynau’n rhy dechnegol ac, oherwydd hynny, ni chaiff pobl gyffredin eu cynnwys yn y ddadl. Maent yn dadlau mai dim ond lleisiau arbenigwyr ymchwil a’r rhai sydd ynghlwm wrth y diwydiant y bydd y Comisiwn yn eu clywed.

Mae PAN hefyd wedi beirniadu’r ymgynghoriad yn hallt ac yn credu bod y ddogfen a gyhoeddwyd yn cynnwys yr holl fygythiadau i ddileu effeithiolrwydd y rheoliadau’n ymwneud â phlaladdwyr a bioladdwyr i ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd. Dywedodd Angeliki Lysimachou, arbenigwr PAN ym maes ymyrwyr andocrin,

we are highly concerned with the possibility of adding risk-assessment and socioeconomic elements in the evaluation of EDCs [endocrine disruptors] as the adverse effects of these compounds upon human health and the environment should not be evaluated with economic terms, since economy is not constructed to protect human health and as tiny exposures at the wrong moment in life may induce dramatic consequences.

Mae gwybodaeth gefndir am yr ymgynghoriad a dogfennau ategol i’w cael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.