Ymgynghoriad ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: Un corff rheoleiddio a chyllido ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch?

Cyhoeddwyd 16/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 20 Mehefin 2017, bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad ynghylch ymgynghoriad ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae hyn yn debygol o fod yn achlysur cyhoeddi'r ymgynghoriad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithredu'n unol â'i hymateb i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn, sef Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru.

Roedd cynnal ymgynghoriad ar ganfyddiadau'r adroddiad yn un o ddeg blaenoriaeth Kirsty Williams o ran addysg, fel y nodwyd mewn llythyrau rhyngddi hi a'r Prif Weinidog cyn iddi ymuno â Llywodraeth Cymru. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei chynlluniau i ymgynghori ar y cynigion mewn datganiad ar 31 Ionawr 2017.

Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru (Adroddiad Hazelkorn)

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn comisiynu'r Athro Ellen Hazelkorn, Cynghorwr Polisi i'r Awdurdod Addysg Uwch a Chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Addysg Uwch, yn Sefydliad Technoleg Dulyn, i gynnal adolygiad o'r gwaith goruchwylio a rheoleiddio mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fel a ganlyn:

Comisiynodd y weinyddiaeth flaenorol yr adolygiad oherwydd pryderon ynglŷn â chymhlethdod cynyddol y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, dysgu sy’n seiliedig ar waith a’r addysg i oedolion yn y gymuned. Caiff yr amryw sectorau a darparwyr eu rheoleiddio a'u hariannu mewn ffyrdd gwahanol gan wahanol gyrff a gall hyn arwain at gystadleuaeth ddi-fudd rhwngdarparwyr addysg a hyfforddiant, dyblygu neu fylchau yn y ddarpariaeth, a dryswch i ddysgwyr.

Cyhoeddwyd adolygiad yr Athro Hazelkorn, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, ym mis Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad lefel uchel: Y rhain oedd:

  1. Datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y system addysg ôl-orfodol i Gymru sy’n seiliedig ar gysylltiadau cryfach rhwng polisi addysg, 14 darparwyr a darpariaeth, a nodau cymdeithasol ac economaidd er mwyn sicrhau y caiff anghenion Cymru eu diogelu at y dyfodol hyd y gellir.
  2. Sefydlu un awdurdod newydd – a gaiff ei alw’n Awdurdod Addysg Drydyddol – fel un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydgysylltu i’r sector ôl-orfodol.
  3. Rhoi anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg, drwy sefydlu llwybrau dysgu a gyrfa clir a hyblyg.
  4. Dylai ymgysylltu dinesig fod yn rhan ganolog o genhadaeth greiddiol a dod yn ymrwymiad sefydliad cyfan ym mhob sefydliad ôl-orfodol.
  5. Sicrhau gwell cydbwysedd rhwng darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan gyflenwad a darpariaeth addysg ac ymchwil a arweinir gan y galw gan symud i ffwrdd oddi wrth system a ysgogir gan alw yn y farchnad i gyfuniad o reoleiddio a chyllid sy’n seiliedig ar gystadleuaeth.
  6. Creu’r polisïau, y prosesau a’r arferion priodol i annog syniadaeth hirdymor a chydgysylltiedig well ynglŷn ag anghenion a gofynion addysgol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Am ragor o fanylion ynghylch yr adroddiad a'r ymateb gan randdeiliaid, gweler ein blog blaenorol ar y testun hwn ym mis Ionawr 2017.

Gwnaeth Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, ddatganiad ar 10 Mawrth 2016 pan gyhoeddwyd adroddiad yr Athro Hazelkorn. Dywedodd y Gwenidog ar y pryd ei fod yn cyhoeddi'r adroddiad er mwyn i randdeiliaid a phartïon eraill â diddordeb gael cyfle cynharach i ystyried yr adroddiad, ei ddadansoddiad, ei ganfyddiadau a'i argymhellion cyn etholiad y Cynulliad. Dywedodd Huw Lewis hefyd na fyddai'n gwneud sylw pellach ar yr adroddiad ar hyn o bryd ac mai mater i'r Llywodraeth newydd fyddai ei ystyried a phenderfynu ar ymateb.

Cynigion Llywodraeth Cymru

Ar 31 Ionawr 2017, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad yn ystod y Cyfarfod Llawn. Roedd y datganiad hwn yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Athro Hazelkorn. Yn y datganiad, nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod, ar y cyfan, yn cytuno â'r adroddiad ac yn cefnogi canfyddiadau'r Athro Hazelkorn.

Yn benodol, roedd Kirsty Williams yn teimlo bod yr argymhelliad i sefydlu un awdurdod strategol, â chyfrifoldeb dros oruchwylio holl agweddau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, 'wedi'i brofi mewn systemau llwyddiannus', a dywedodd ei bod am i Gymru 'fwynhau'r un manteision hynny'. O ganlyniad, bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod:

...cyfrifoldeb yn cael ei osod ar y corff newydd dros gynllunio, ariannu, contractio, sicrhau ansawdd, monitro ariannol, archwilio a pherfformiad, a bod y prif gyllidwr ar gyfer ymchwil. Yn unol ag argymhellion yr Athro Hazelkorn, byddai swyddogaethau presennol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod newydd, a fyddai'n gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bwriedir i'r awdurdod newydd hwn, a elwir dros dro yr Awdurdod Addysg Drydyddol gan yr Athro Hazelkorn, osod:

...anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg drwy sefydlu llwybr gyrfa a dysgu sy’n glir a hyblyg; a dylai fod parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd a chysylltiadau rhwng cymwysterau a'r farchnad lafur, ac mae'n rhaid eu gwella.

Yn ei datganiad ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori, yn nes ymlaen y flwyddyn hon, ar gynigion i sefydlu un awdurdod strategol, gan nodi fel a ganlyn:

Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ynglŷn â sut y mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn bodloni eu hanghenion a sut y gall fod yn rym cryfach fyth ar gyfer y symudedd cymdeithasol a’r ffyniant cenedlaethol y soniais amdanynt yn gynharach.

Mae'n debyg y bydd y datganiad ar 20 Mehefin 2017 yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad a ragwelir.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun: o Pixabay gan ulleo. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ymgynghoriad ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: Un corff rheoleiddio a chyllido ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch? (PDF, 192KB)