Ymchwiliad Covid-19 y DU: sut y bydd yn ymchwilio i’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 29/03/2022   |   Amser darllen munudau

Cafwyd bron i 10,000 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ers mis Mawrth 2020. Mae’r pandemig a’r ymateb iddo hefyd wedi cael effaith ar bron bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, o iechyd ac addysg i fusnes a rhyddid personol.

Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r ymateb i Covid-19 ac effaith y pandemig, gan gynnwys yng Nghymru. Mae'r ymchwiliad wrthi’n ymgynghori ar gylch gorchwyl drafft.

Cafwyd galwadau proffil uchel am ymchwiliad ar wahân i’r ymateb datganoledig i’r pandemig yng Nghymru. Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn y mae ymchwiliad y DU yn bwriadu ei wneud a sut y gallai fynd ati i ymchwilio i’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru.

Ymchwiliadau cyhoeddus

Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn ymchwiliadau annibynnol sy’n cael eu sefydlu gan Weinidogion y Llywodraeth. Gellir eu sefydlu yn dilyn damweiniau mawr, trychinebau neu fethiannau cyhoeddus, i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd a pham, beth aeth o'i le, a beth y gellir ei ddysgu.

Gall ymchwiliadau cyhoeddus fod yn statudol neu’n anstatudol. Mae Deddf Ymchwiliadau 2005 yn darparu sail gyfreithiol ar gyfer ymchwiliadau statudol. Mae'n rhoi i ymchwiliadau o’r fath bŵer i orfodi tystion i ymddangos mewn gwrandawiadau cyhoeddus a darparu tystiolaeth ddogfennol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i sefydlu ymchwiliadau statudol. Mae modd i ddwy lywodraeth neu fwy hefyd gynnal ymchwiliad ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu un ymchwiliad statudol hyd yma, i'r achosion o E. coli yn 2005.

O dan y Ddeddf, nid yw Gweinidogion Cymru’n cael sefydlu ymchwiliadau i ddim heblaw materion y mae ganddynt swyddogaethau mewn perthynas â nhw (“materion Cymreig”). Mae ymchwiliadau Cymreig yn gallu gorfodi tystion i roi tystiolaeth neu ddarparu dogfennau am faterion Cymreig yn unig, neu at ddiben ymchwilio i faterion o'r fath. Ni allant orfodi tystiolaeth na dogfennau gan Lywodraeth y DU.

Pan fydd un o Weinidogion y DU am i gylch gorchwyl ymchwiliad gwmpasu materion Cymreig, rhaid i’r Gweinidog hwnnw ymgynghori â Gweinidogion Cymru yn gyntaf.

Gweinidogion sy'n penodi cadeirydd ymchwiliad a Gweinidogion sy’n pennu’r cylch gorchwyl. Ar ôl i ymchwiliad gael ei sefydlu, bydd y cadeirydd yn ei redeg yn annibynnol. Yna, ar ôl i ymchwiliad gymryd ac ystyried tystiolaeth, bydd yn llunio adroddiad gyda chasgliadau ac argymhellion. Fel arfer, Gweinidogion a fydd yn ymateb i’r argymhellion, ond nid oes proses ffurfiol ar gyfer mynd ar drywydd argymhellion. Mae’r Sefydliad Llywodraeth wedi dadlau y dylai hyn cael ei wneud hyn yn dasg graidd i bwyllgorau seneddol.

Ymchwiliad Covid-19 y DU

Mae Lywodraeth y DU wedi comisiynu ymchwiliad statudol i'r ymateb i bandemig Covid-19. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd mai’r Farwnes Heather Hallett, cyn-farnwr yn y Llys Apêl, a fydd yn cadeirio’r ymchwiliad.

Mae cadeirydd yr ymchwiliad wrthi’n ymgynghori ar gylch gorchwyl drafft yr ymgynghoriad. Mae’r cylch gorchwyl drafft yn nodi’r hyn y dylai’r ymchwiliad edrych arno a sut y dylai gyflawni ei waith. Mae’r cadeirydd hefyd wedi dweud y bydd yn teithio drwy’r DU i gasglu barn am y cylch gorchwyl drafft, gan gynnwys gan deuluoedd mewn profedigaeth.

Pan fydd y cadeirydd wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd yn gallu argymell newidiadau i'r cylch gorchwyl drafft i Brif Weinidog y DU.

Disgwylir i'r ymchwiliad ddechrau cymryd tystiolaeth eleni a dechrau cynnal gwrandawiadau cyhoeddus yn 2023.

Y cylch gorchwyl drafft

Mae’r cylch gorchwyl drafft yn nodi y bydd yr ymchwiliad yn ceisio edrych ar yr ymateb i Covid-19 ac effaith y pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a llunio adroddiad naratif ffeithiol, gan gynnwys:

  • ystod eang o agweddau ar broses penderfyniadau iechyd cyhoeddus a wnaed ar lefel ganolog, datganoledig a lleol, a chanlyniadau’r broses honno;
  • ymateb y sector iechyd a gofal ledled y DU; ac
  • yr ymateb economaidd i'r pandemig a'i effaith.

Mae’n dweud y bydd yr ymchwiliad yn ceisio nodi’r hyn sydd i’w ddysgu o hyn, er mwyn llywio paratoadau’r DU ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a yw’r cylch gorchwyl drafft yn cwmpasu’r holl feysydd y dylai’r ymchwiliad fynd i’r afael â nhw. Er enghraifft, mae’r bargyfreithiwr Adam Wagner eisoes wedi dweud mai hepgoriad nodedig o gylch gorchwyl yr ymchwiliad yw effaith y broses penderfyniadau yn ystod y pandemig ar hawliau dynol.

Roedd y cylch gorchwyl drafft hefyd yn nodi sut y bydd yr ymchwiliad yn mynd ati i gyflawni ei nodau. Fel rhan o hyn, mae’n dweud y bydd yr ymchwiliad yn gwrando ar brofiadau teuluoedd mewn profedigaeth ac ar bobl sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i'r pandemig. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl am sut y dylai’r ymchwiliad gael ei gynllunio a’i gynnal er mwyn sicrhau bod lleisiau o’r fath yn cael eu clywed.

Dywed y cylch gorchwyl drafft y bydd yr ymchwiliad yn llunio adroddiadau (gan gynnwys adroddiadau interim) ac argymhellion mewn modd amserol. Gall ymchwiliadau cymhleth gymryd amser hir. Er enghraifft, cafodd Ymchwiliad Chilcot i ryfel Irac ei gyhoeddi saith mlynedd ar ôl iddo ddechrau cymryd tystiolaeth. Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn am yr hyn y dylai’r ymchwiliad edrych arno yn gyntaf ac a ddylai’r ymchwiliad bennu dyddiad gorffen arfaethedig ar gyfer gwrandawiadau.

Edrych ar yr ymateb yng Nghymru

Yng Nghymru, mae cyfrifoldeb am ymateb i’r pandemig yn cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. I lawer, mae’r ffaith bod gwledydd y DU wedi defnyddio dulliau gwahanol o ymdrin â'r pandemig wedi rhoi mwy o sylw i bwerau datganoledig am y tro cyntaf.

Mae’r cylch gorchwyl drafft yn dweud y bydd ymchwiliad y DU yn ystyried materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig ledled y DU. Wrth wneud hynny, bydd yn ceisio peidio â dyblygu gwaith unrhyw ymchwiliad a sefydlir gan y llywodraethau datganoledig.

Cafwyd galwadau ers tro am ymchwiliad ar wahân i’r ymateb datganoledig i’r pandemig yng Nghymru, gan gynnwys o du'r Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, y Comisiynydd Pobl Hŷn, a'r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice (Cymru).. Mae’r cynigwyr wedi dadlau y gallai ymchwiliad Cymreig fod yn ffordd fwy effeithiol o ddal Gweinidogion Cymru i gyfrif am eu penderfyniadau, sicrhau dealltwriaeth o’r broses penderfyniadau yn y cyd-destun datganoledig, a bod yn hygyrch i bobl ledled Cymru.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod o’r farn mai ymchwiliad Covid ar gyfer y DU gyfan yw’r opsiwn gorau ar gyfer craffu ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru, am fod prosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi’u cysylltu’n annatod ag ystyriaeth o dirwedd gwyddoniaeth a pholisi ehangach y DU. Pleidleisiodd y Senedd o drwch blewyn yn erbyn cynnig ym mis Rhagfyr a alwodd ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad.

Ym mis Medi, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU i nodi ei farn na ddylai Cymru fod yn ôl-ystyriaeth nac yn droednodyn yn i ymchwiliad y DU, gan ddweud:

  • dylai tîm yr ymchwiliad ddod i Gymru i gymryd tystiolaeth;
  • dylai fod arbenigedd penodol i Gymru fod ar gael i’r ymchwiliad; a
  • dylai adroddiad yr ymchwiliad gynnwys pennod neu benodau ar Gymru.

Ym mis Mawrth, cadarnhaodd y Prif Weinidog iddo gael ei ymgynghori ar y cylch gorchwyl drafft cyn i hwnnw gael ei gyhoeddi, a’i fod hefyd yn bwriadu ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael eu clywed yn iawn.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi comisiynu ymchwiliad statudol ar wahân i’r ymateb datganoledig i’r pandemig, dan gadeiryddiaeth yr uwch-farnwr yr Arglwyddes (Anna) Poole. Ymgynghorodd Llywodraeth yr Alban ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn a’i bennu yn 2021. Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu'n ffurfiol ym mis Chwefror a disgwylir iddo gychwyn ar ei waith yn yr haf.

Y camau nesaf

Gallwch chi ymateb i’r ymgynghoriad ar gylch gorchwyl ymchwiliad Covid-19 y DU tan 7 Ebrill.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru