Ymagwedd gydgysylltiedig tuag at deithio llesol?

Cyhoeddwyd 21/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 27 Chwefror bydd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwneud datganiad ar Fapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol. Y Mapiau hyn yw'r ail o ddwy gyfres o fapiau y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu cynhyrchu i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Mae'r blog hwn yn gosod cefndir i'r Ddeddf a'r broses fapio, ac yn tynnu sylw at rai materion allweddol a godwyd gan randdeiliaid ar y broses fapio.

Beth yw "teithio llesol" a beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Mae'r term "teithio llesol" yn cyfeirio at gerdded a seiclo. Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a seiclo at ddiben, megis teithio i'r ysgol neu waith, yn hytrach nag er hamdden yn unig.

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Medi 2014 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fapio a gwella llwybrau a chyfleusterau teithio llesol yn yr hyn a elwir yn "ardaloedd dynodedig".

I ddechrau, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu dau fap i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru:

  • "Mapiau Llwybrau Presennol" o'r llwybrau a'r cyfleusterau presennol. Er bod y Ddeddf yn mynnu bod y rhain yn cael eu cyflwyno o fewn blwyddyn i'r Ddeddf yn dod i rym, estynnodd Llywodraeth Cymru y terfyn amser o fis Medi 2015 i fis Ionawr 2016 er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer ymgynghori; a
  • "Mapiau Rhwydwaith Integredig" o'r llwybrau a'r cyfleusterau newydd a gwell sydd eu hangen i greu rhwydweithiau teithio llesol integredig. Unwaith eto, estynnwyd y terfyn amser statudol ar gyfer cyflwyno o fis Medi 2017 i 3 Tachwedd 2017.

Rhaid cyflwyno Mapiau Rhwydwaith Integredig diwygiedig bob tair blynedd, ynghyd â Map wedi'i ddiweddaru o'r Llwybrau Presennol.

Rhaid cyhoeddi'r ddau fap a'u gwneud ar gael i'r cyhoedd. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i'r Mapiau Rhwydwaith Integredig wrth baratoi cynlluniau a pholisïau trafnidiaeth, ac mae'n ofynnol iddynt barhau i wella llwybrau a chyfleusterau bob blwyddyn. Llun yn dangos olwynion beic Ochr yn ochr â'r dyletswyddau mapio a gwella, rhaid i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru "gymryd camau rhesymol" i wella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth gynnal, gwella neu adeiladu priffyrdd. Rhaid iddynt hefyd hyrwyddo teithiau teithio llesol a rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol sy'n nodi i ba raddau y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud teithiau teithio llesol yng Nghymru. Hyd yma, mae dau adroddiad blynyddol wedi'u cyhoeddi ar gyfer 2015 a 2017, ynghyd â datganiadau ystadegol blynyddol yn nodi lefelau cerdded a beicio yng Nghymru (yn fwyaf diweddar ym mis Ionawr 2018 ar gyfer y flwyddyn 2016-17).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar ôl cyflwyno'r Ddeddf, ynghyd â chanllawiau dylunio manwl ar gynllunio a dylunio llwybrau.

Ochr yn ochr â'r Ddeddf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Teithio Llesol anstatudol wedi'i ddiweddaru yn 2016. Mae'n nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i alluogi pobl i gerdded neu seiclo mwy, a sut y bydd yn cydweithio ag eraill i sicrhau newid mewn ymddygiad a monitro cynnydd.

Pam cynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig?

Er y bwriedir i Fapiau Llwybrau Presennol yn bennaf hysbysu'r cyhoedd am lwybrau teithio llesol diogel ac addas, mae canllawiau darparu Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai Mapiau Rhwydwaith Integredig:

… gyflwyno cynlluniau’r awdurdod lleol am y 15 mlynedd nesaf. Offeryn i awdurdodau lleol yw’r map rhwydwaith integredig yn bennaf, i’w helpu i flaengynllunio teithio llesol yn well a chysoni eu cynlluniau ar draws eu gwahanol adrannau. Bydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn gyffredinol a bydd angen iddo felly fod ar gael ac yn hygyrch iddynt. Fodd bynnag, bwriedir iddo gael ei ddefnyddio’n bennaf i hwyluso’r gwaith o gynllunio datblygiadau seilwaith.

Mae Rhan 3 o'r canllawiau darparu yn disgrifio'r broses fapio, gan gynnwys yr ymagwedd tuag at ymgynghori. Ar gyfer y Mapiau Rhwydwaith Integredig, mae'r canllawiau'n pwysleisio rôl cynlluniau a strategaethau presennol awdurdodau lleol y gallai'r broses fapio ddwyn at ei gilydd i fanteisio i'r eithaf ar fuddiannau a lleihau dyblygu. Mae'r canllawiau'n nodi y dylai mapiau geisio cysylltu ardaloedd preswyl â gwasanaethau, yn ogystal ag ystyried sut y mae ardaloedd dynodedig yn cael eu cysylltu.

Cyhoeddodd Sustrans Cymru, elusen gerdded a seiclo, ymateb trosfwaol i ymgynghoriadau Mapiau Rhwydwaith Integredig, gan nodi'r elfennau y teimlir y dylent fod yn gyffredin i unrhyw Fap Rhwydwaith Integredig.

Roedd yn argymell gosod targedau a dangosyddion yn gysylltiedig â strategaethau allweddol y cyngor, yn ogystal â datblygu ymagwedd gydweithredol ar draws adrannau'r cyngor a chydag asiantaethau allanol. Roedd yr ymateb hefyd yn nodi nifer o elfennau seilwaith allweddol y dylai Sustrans eu hystyried.

Felly sut y mae'r broses wedi mynd rhagddi?

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal archwiliad ôl-ddeddfwriaethol o'r Ddeddf, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor yn cynnig cipolwg o sut y mae'r broses fapio wedi mynd rhagddi. Er enghraifft, dywed tystiolaeth gan yr elusen "cerdded bob dydd" Living Streets (PDF 675KB) :

The letter of the Active Travel Act, to produce maps is on track, with some small delays. However the vision to transform our country into an active travel nation is not being realised by the Act and those responsible for its implementation.

Mae'r elusen yn awgrymu bod gwendidau wedi bod yn y broses ymgynghori a bod y gynulleidfa darged ar gyfer y mapiau yn aneglur:

If they are for planners and local authorities then this was an expensive and time consuming exercise. If they are meant for public use it needs to be clear how and why they would access the maps. The mapping is at worst an exercise that has raised expectations with communities that there will be infrastructure improvement, which may not be the case due to funding.

Aeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (PDF 224KB) i'r afael hefyd â'r risg o godi disgwyliadau drwy'r broses Mapiau Rhwydwaith Integredig a chyhoeddi'r mapiau:

One issue with the public facing maps is that LAs have been wary of raising expectations about what can be delivered in the short to medium term. This perhaps has resulted in a lack of ambition shown in the development of plans for the future but where LAs have little confidence that resources will be available they have not unreasonably planned accordingly.

Mae Adroddiad Blynyddol Teithio Llesol 2017 Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi dyrannu £200,000 o'i Chronfa Trafnidiaeth Leol er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynhyrchu eu Mapiau Rhwydwaith Integredig. Mae hefyd yn cyfeirio at gyfanswm o £11 miliwn a ddyfarnwyd i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau teithio llesol yn 2016-17. Roedd papur cyllideb ddrafft (PDF 720KB) Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn nodi fel a ganlyn:

Bydd Awdurdodau Lleol yn cyflwyno eu mapiau teithio integredig ym mis Tachwedd eleni. Ar hyn o bryd, nid yw’n synhwyrol dyrannu symiau cyfalaf sylweddol ar gyfer gwariant y flwyddyn nesaf gan ei bod yn debygol y bydd angen gwneud llawer o waith cynllunio a pharatoi contractau manwl ar gyfer y cynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Ar ôl adolygu’r cynlluniau, byddaf yn gallu blaenoriaethu fy nghyllideb o’r newydd a dyrannu symiau priodol. Fel cam cyntaf, rwyf eisoes wedi nodi £5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith cynllunio hwn.

Gan bwyntio at y ffaith bod cyllid ar gyfer teithio llesol yn gymhleth, daeth papur y gyllideb i'r casgliad a ganlyn:

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal adolygiad manwl o’r dull o ariannu teithio llesol, a byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwn maes o law. Rwy’n awyddus i gynyddu’r gwariant crynswth ar Deithio Llesol dros y blynyddoedd nesaf, a bydd fy natganiad yn nodi sut y byddaf yn cyflawni hynny.

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru