Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
Roedd y dirwedd anghydraddoldeb a amlygwyd gan y pandemig yn dilyn amlinellau’r anfantais bresennol i raddau helaeth. Ond a fydd dulliau blaenorol i leihau anghydraddoldeb yn ddigon i wrthsefyll yr anghydbwyseddau amlwg hyn, neu a fydd angen strategaethau newydd? A pha rôl y mae data - neu ddiffyg data - yn ei chwarae?
Caiff iaith cydraddoldeb ei defnyddio ar draws y sbectrwm gwleidyddol, o 'symudedd cymdeithasol' i 'lefelu i fyny', a 'thegwch rhwng cenedlaethau' i 'gyfiawnder cymdeithasol'. Wrth wraidd hyn mae'r syniad bod rhai pobl, grwpiau, neu ardaloedd o dan fantais anghymesur neu annheg - boed yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol neu'n wleidyddol - oherwydd systemau a strwythurau sy'n galluogi hynny.
Mae'r pandemig wedi dangos yn greulon yr hyn y mae'r anghydraddoldebau hyn yn ei olygu i fywydau pobl ar raddfa na chafodd ei gweld o'r blaen. Mae ein siawns o farw, mynd yn ddifrifol wael, colli swyddi, wynebu camdriniaeth, neu fod ar ei hôl hi mewn addysg wedi cael ei bennu'n rhannol gan bwy ydym ni, ein sefyllfa ariannol, ein hiechyd, a ble rydyn ni'n byw.
Mae'r ffactorau hyn, sy'n cydblethu â ffactorau eraill fel tai o safon ddigonol, y gallu i weithio gartref, a mynediad at ofal plant, car, lle y tu allan, a rhyngrwyd dibynadwy, yn gweithredu i gynyddu neu leihau anfantais.
Ac mae'n ein harwain i ofyn cwestiwn sylfaenol: a yw hyn yn deg?
Os nad ydyw, pa fath o ymyriadau polisi a newidiadau systemig sydd eu hangen i gau'r bylchau?
Pam mae anghydraddoldeb yn broblem?
We often hear that a rising tide of economic growth lifts all boats. But in reality, a rising tide of inequality sinks all boats. […] From the exercise of global power to racism, gender discrimination and income disparities, inequality threatens our wellbeing and our future.
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres
Mae anghydraddoldeb yn broblem gynyddol i ni gyd. Amcangyfrifir ei fod yn costio £39 biliwn y flwyddyn i’r DU, gan fod rheoli'r canlyniadau, megis digartrefedd, fel arfer yn fwy costus na’u hatal. Ac er y cafodd ei amcangyfrif yn ddiweddar bod cam-drin domestig yn costio £66 biliwn y flwyddyn i'r DU, gallai sicrhau cydraddoldeb economaidd rhwng y rhywiau roi hwb o bron i £14 biliwn i economi Cymru.
Gallai anghydraddoldeb hefyd arafu’r adferiad ar ôl y pandemig. Mae'r niferoedd is sydd wedi dewis cael eu brechu ymhlith rhai grwpiau ethnig a'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn peri pryder arbennig. Mae camwybodaeth wedi'i thargedu, a diffyg ymddiriedaeth hirdymor mewn awdurdodau cyhoeddus yn gysylltiedig â hiliaeth a gwahaniaethu strwythurol a sefydliadol, yn achosion tebygol y bydd angen mwy nag ymgyrch ymgysylltu â'r cyhoedd i'w datrys.
Cyfraddau brechu yn ôl cwintel MALlC, grŵp ethnig ac oedran
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Wales COVID-19 Vaccination Enhanced Surveillance Report 2
Triniaeth gyfartal neu ganlyniadau cyfartal?
Gellir lleihau anghydraddoldebau naill ai drwy bolisïau cyffredinol sy'n trin pawb yr un fath, neu drwy eu targedu at y rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae cefnogwyr syniadau fel incwm sylfaenol cyffredinol (UBI) yn dadlau bod y pandemig wedi dangos y gellir dod o hyd i adnoddau ar gyfer amddiffyniad cymdeithasol cynhwysfawr i bawb. Mae eraill yn dadlau bod 'gweithredu cadarnhaol', sy'n ffafrio rhai grwpiau, yn helpu i gydraddoli canlyniadau drwy fynd i'r afael ag anfantais hanesyddol. Mae 'cyffredinoliaeth gymesur' rhywle yn y canol, lle mae gwasanaethau ar gael i bawb ond gydag ymdrech wedi'i thargedu lle mae ei hangen fwyaf.
Yn ystod y pandemig, targedwyd rhai polisïau at bobl sydd â risg uwch ar sail eu gwendidau. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen 'gwarchod', a oedd yn cydnabod amddifadedd ac ethnigrwydd fel ffactorau risg yn Lloegr, a'r adnodd asesu risg ar gyfer y gweithlu yng Nghymru, a oedd yn defnyddio demograffeg a chyflyrau iechyd i greu 'sgôr risg' ac yn awgrymu mesurau lliniaru.
Lansiodd Llywodraeth flaenorol Cymru hefyd ymgyrch budd-daliadau wedi'i hanelu at y rhai y mae angen cymorth ariannol arnynt fwyaf, a llinell gymorth yn benodol ar gyfer pobl o grwpiau ethnig y mae'r feirws yn effeithio'n anghymesur arnynt.
Beth nad ydym yn ei wybod?
Nid yw diffyg tystiolaeth yn dystiolaeth o ddiffyg. Os yw ymyriadau’n cael eu targedu at y rhai a gollodd fwyaf yn sgil yr argyfwng, mae'n bwysig nad oes unrhyw un yn cael ei adael heb ei gyfrif.
Yn 2020 mynegodd un o bwyllgorau’r Senedd bryderon ynghylch ansawdd gwael y data cydraddoldeb sydd ar gael yng Nghymru. Cafodd hyn ei adleisio gan Bwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Tŷ'r Cyffredin, a oedd yn galw'n benodol am gasglu data diswyddo wedi'u dadgyfuno yn ôl rhyw, ethnigrwydd a nodweddion eraill.
Rydym hefyd yn gwybod, lle mae'r ffactorau hyn yn croestorri, bod anghydraddoldebau'n cael eu chwyddo. Cafodd y cyfyngiadau symud effaith arbennig o fawr ar rai grwpiau, pan oedd 39 y cant o'r holl weithwyr benywaidd o dan 25 oed, a 44 y cant o weithwyr ethnigrwydd Bangladeshaidd, yn gweithio mewn sectorau a oedd wedi’u cau yng Nghymru.
Mae troshaenu'r data hyn yn caniatáu dealltwriaeth fwy cynnil o risg, pŵer, cyfoeth, diogelwch, angen a phrofiad, yn hytrach na thrin grwpiau demograffig eang yr un peth. Pwysleisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru dro ar ôl tro ei hagwedd groestoriadol tuag at gydraddoldeb. Ond mae diffyg data croestoriadol wedi'u dadgyfuno yn rhwystro’r gallu i ddarparu dadansoddiad ystyrlon.
Mae’r broses o gasglu data personol gan awdurdodau cyhoeddus yn un sensitif, ac mae gofyn am ymddiriedaeth. At hynny, gall targedu polisïau at rai grwpiau gael ei ystyried fel rhywbeth symbolaidd neu hyd yn oed yn fater o wahaniaethu. Gall y materion hyn gyflwyno heriau o ran dylunio polisi yn y blynyddoedd i ddod.
A yw'r adnoddau’n ddigon da?
Roedd lleihau anghydraddoldebau wrth wraidd cynllunio ar gyfer yr adferiad ar ôl COVID-19 gan Lywodraeth flaenorol Cymru. Roedd hefyd yn gosod uchelgeisiau beiddgar i ddod yn 'llywodraeth ffeministaidd', ac 'arweinydd byd eang dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau'.
Ym mis Mawrth 2021, cychwynnwyd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r mwyafrif o awdurdodau cyhoeddus ystyried sut y gallant wella canlyniadau i bobl ar incwm isel wrth wneud penderfyniadau strategol.
Bydd yn eistedd ochr yn ochr â dyletswyddau cydraddoldeb presennol y sector cyhoeddus, sy'n gorfodi awdurdodau cyhoeddus Cymru i wneud pethau fel cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, datblygu cynlluniau ac amcanion cydraddoldeb, a chasglu data cydraddoldeb. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau ar gydraddoldeb a chydlyniant.
Ond mae'n anodd mesur effeithiolrwydd y dyletswyddau hyn. Os nad yw anghydraddoldebau mewn maes polisi penodol yn lleihau, a yw'n dangos nad yw'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni, neu nad yw'n gweithio? Beth os nad yw’r ysgogiadau newid wedi’u datganoli? Ac os yw asesiad o effaith yn datgelu effaith annheg, a oes dyletswydd i weithredu arni? A yw'r dull hwn yn sicrhau ein bod yn casglu data o ansawdd?
Gydag anghydraddoldebau sydd mor ddiamwys ac eang yn chwarae rhan amlwg yn y ddadl wleidyddol, bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a fydd dulliau blaenorol yn gweithio yn y byd ar ôl y pandemig.
Bydd y Chweched Senedd hefyd yn hanfodol wrth herio Llywodraeth newydd Cymru i ddangos sut mae'n trosi uchelgeisiau mawr ar gydraddoldeb yn newid diriaethol.
Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru