Ymwrthedd gwrthficrobaidd yw un o'r prif fygythiadau byd-eang o ran iechyd cyhoeddus a datblygu. Er mwyn cefnogi'r frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn arwain Wythnos Ymwybyddiaeth Fyd-eang Ymwrthedd Gwrthficrobaidd rhwng 18 a 24 Tachwedd.
Wrth i'r DU ddechrau ail gyfnod pum mlynedd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 20 mlynedd i frwydro’n erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae'r erthygl hon yn trafod y datblygiadau, y canlyniadau a’r targedau diweddaraf yng Nghymru a'r DU.
Beth yw ymwrthedd gwrthficrobaidd?
Pan na fydd micro-organebau, fel bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid, yn ymateb i feddyginiaeth mwyach, maent wedi esblygu i fod ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (‘antimicrobial resistance’ neu ‘AMR’ yn Saesneg). Mae ymwrthedd yn datblygu'n naturiol pan fydd micro-organebau’n dod i gysylltiad â chyffuriau gwrthficrobaidd, ond gellir cyflymu’r broses drwy ddefnydd amhriodol, fel cymryd gwrthfiotigau’n anghywir ar gyfer haint feirysol. Os na chymerir camau yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, bydd yn ein gadael yn agored i glefydau a heintiau yr oedd yn arfer bod yn hawdd eu trin. Mae rhai achosion o dwbercwlosis a gonorea eisoes yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a ddefnyddir pan fetho popeth arall. Fel y dywed Sefydliad Iechyd y Byd:
AMR puts many of the gains of modern medicine at risk. It makes infections harder to treat and makes other medical procedures and treatments – such as surgery, caesarean sections and cancer chemotherapy – much riskier.
Bob blwyddyn mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 7,600 o farwolaethau y gellid eu hatal yn y DU a dros miliwn ledled y byd. Mae gwyddonwyr wedi rhagweld y gallai hyn godi i 1.91 miliwn o farwolaethau erbyn 2050 ledled y byd, lle byddai 65 y cant o’r marwolaethau hynny ymhlith pobl 70 oed a hŷn.
Nid yw ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gyfyngedig i bobl yn unig; mae hefyd yn effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid, gan fygwth diogelwch bwyd ac iechyd ein hamgylchedd ehangach.
Wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu, mae'r risg o ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gynnydd, ac mae'r angen i’w reoli yn dod yn bwysicach fyth. Gall tymheredd uchel, tywydd eithafol a cholli bioamrywiaeth newid y ddynameg o ran trosglwyddo clefydau a’n gallu i fynd i’r afael â nhw.
Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem?
Fel y gwelsom yn ystod pandemig COVID-19, nid yw afiechydon yn parchu ffiniau, a gellir dweud yr un peth am ymwrthedd gwrthficrobaidd, sy'n broblem gynyddol ledled y byd. Mewn ymateb, datblygodd Sefydliad Iechyd y Byd gynllun gweithredu byd-eang. Yn dilyn hyn, creodd Llywodraeth y DU a’r tair llywodraeth ddatganoledig Gynllun Gweithredu Cenedlaethol 20 mlynedd yn cwmpasu pedwar cyfnod o bum mlynedd. Roedd cyfnod cyntaf y Cynllun yn para rhwng 2019 a 2024. Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi llunio papur briffio ymchwil sy’n nodi’r canlyniadau a’r targedau ar gyfer y cyfnod rhwng 2024 a 2029.
Dull Iechyd Cyfunol
Fel y'i diffinnir gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae’r Dull Iechyd Cyfunol ar gyfer rheoli clefydau yn cydnabod y cysylltiadau a’r gyd-ddibyniaeth rhwng iechyd pobl, anifeiliaid, planhigion a’r amgylchedd ehangach. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn digwydd mewn llawer o wahanol leoliadau a sefyllfaoedd, ac mae enghreifftiau o orgyffwrdd rhwng y cyffuriau a ddefnyddir i drin clefydau dynol, clefydau anifeiliaid a chlefydau planhigion. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio’r diagram isod i ddangos sut mae ein hiechyd yn gysylltiedig â rhannau eraill o’n bywydau a’r amgylchedd.
Er enghraifft, gall ysbytai ryddhau micro-organebau sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd i'r amgylchedd drwy ddŵr gwastraff. Gallant wedyn fynd i mewn i systemau dŵr ac, o bosibl, heintio phobl, anifeiliaid anwes, cnydau, neu anifeiliaid fferm, yn ogystal â phlanhigion ac anifeiliaid gwyllt.
Mae cyfnod y Cynllun sydd ar waith rhwng 2024 a 2029 yn parhau i ganolbwyntio ar ddull Iechyd Cyfunol. Mae naw canlyniad strategol i’r cyfnod hwn, sydd wedi’u trefnu o dan bedair thema sy’n cwmpasu iechyd pobl, iechyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd:
- lleihau'r angen am gyffuriau gwrthficrobaidd, â’r potensial i ddod i gysylltiad â nhw’n anfwriadol;
- optimeiddio'r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd;
- buddsoddi ar gyfer arloesi, cyflenwi a sicrhau mynediad; a
- bod yn bartner byd-eang da
Mae £19.2 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y prosiect gwyliadwraeth pathogenau ym maes amaethyddiaeth, bwyd a'r amgylchedd (PATH-SAFE), sy’n brosiect gwyliadwraeth Iechyd Cyfunol. Bydd yn para pedair blynedd, ac fe’i cefnogir gan dros 50 o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n cefnogi'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol drwy greu dilyniannau DNA i nodi mathau newydd o ficro-organebau sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a chanfod tarddiad achosion o glefydau. Mae wedi cael ei ariannu am flwyddyn ychwanegol ar gost o £4.7 miliwn.
Gwasanaeth tanysgrifio gwrthficrobaidd
Cafodd y gwasanaeth tanysgrifio gwrthficrobaidd cyntaf ei dreialu gan GIG Lloegr a NICE yn 2019. Nod y cynllun yw annog partneriaid yn y diwydiant i greu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd ac atal gorddefnydd. Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, mae’r GIG yn talu ffi danysgrifio flynyddol sefydlog i gwmni fferyllol i gael mynediad at wrthfiotigau sydd newydd gael eu datblygu. Mae’r cwmni fferyllol yn cael enillion gwarantedig, ac ni ddylai fod unrhyw gymhelliant i orddefnyddio (neu orwerthu) y meddyginiaethau hyn. Mae hyn wedi arwain at gytundeb £1.9 biliwn gyda chwmnïau fferyllol i bedair cenedl y DU.
Prosiectau arloesol yng Nghymru
Mae Cymru ar flaen y gad o ran rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhlith anifeiliaid fferm. Mae prosiect Arwain Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol (Arwain DGC) yn cysylltu diwydiant, ffermwyr, milfeddygon ac academyddion i fonitro a chefnogi defnydd cyfrifol o gyffuriau gwrthficrobaidd ar gyfer anifeiliaid fferm.
Mae Rhwydwaith Hyrwyddo Rhagnodi Milfeddygol Arwain, gyda Phrifysgol Aberystwyth a phartneriaid eraill Arwain DGC, wedi datblygu dau ymyriad stiwardiaeth gwrthficrobaidd cenedlaethol a chanllawiau clinigol ar gyfer chwe chlefyd arwyddocaol sy’n effeithio ar wartheg a defaid. Yn 2023, darparodd Llywodraeth Cymru £2.5 miliwn ychwanegol er mwyn i’r prosiect hwn barhau.
Cydweithiodd Llywodraeth Cymru â Phrifysgol Bangor i gynnal profion ymwrthedd gwrthficrobaidd ar ddŵr gwastraff ysbytai. Mae Prifysgol Bangor bellach wedi sicrhau partneriaeth ryngwladol a all gefnogi rhagor o waith profi ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn dŵr gwastraff. Tynnodd y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd (ERAMMP) sylw at y bwlch gwybodaeth yng Nghymru o ran effeithiau gorlifoedd carthffosiaeth gyfun ar ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd.
Faint o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
Ym mis Mai 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y pryd ddatganiad ar y cyd yn pwysleisio ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Ymwrthedd Gwrthficrobaidd. Mae'r datganiad yn nodi:
Mewn dyfodol lle mae gwrthfiotigau a gwrthficrobau yn aneffeithiol, byddai llawdriniaethau arferol yn rhy beryglus i'w cyflawni a byddai cemotherapi yn driniaeth risg uchel iawn.
Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed hyd yma, megis:
- sicrhau data am y defnydd o wrthfiotigau yn y sectorau llaeth, cig eidion a defaid;
- darparu canllawiau ar bresgripsiynau gwrthficrobaidd ar gyfer gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd drwy ddull cydweithredol gyda fferyllwyr ar draws y GIG yng Nghymru; a
- datblygu llyfrgell ddata gwrthficrobaidd ar gyfer GIG Cymru ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu'r Rhaglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhyddhau data gwyliadwraeth ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer meithriniadau wrin a gwaed yn flynyddol ac maent ar gael i'r cyhoedd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a nodau ymwrthedd gwrthficrobaidd 2024 i 2025 ar gyfer byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ym mis Medi 2024. Mae'r targedau'n adlewyrchu'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol a chynllun strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2023-2026.
Y targed 10 mlynedd blaenorol oedd gostyngiad o 25 y cant, o leiaf, o ddefnydd cyffuriau gwrthficrobaidd yn y gymuned o’i gymharu â llinell sylfaen 2013/2014. Cyflawnwyd gostyngiad o 19.8 y cant yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed 10 mlynedd newydd ar gyfer gostyngiad o 10 y cant yn y defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd erbyn 2029/2030 (o’i gymharu â llinell sylfaen 2019/2020). Nodir hyn hefyd yn Nangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024-2025 ar gyfer cyffuriau gwrthficrobaidd.
Dros y pum mlynedd nesaf bydd ail gyfnod y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn cael ei weithredu yng Nghymru a gweddill y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod “llwyddiant yn dibynnu ar amrywiaeth eang o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd.” Ar ôl dysgu gwersi o’r cyfnod cyntaf a chymryd camau gweithredu parhaus, y gobaith yw y gellir rheoli'r bygythiad treiddiol hwn i iechyd y cyhoedd.
Erthygl gan Mischa Emery, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Mischa Emery gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil.