Cyhoeddwyd 06/10/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
06 Hydref 2015
Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_3851" align="alignnone" width="640"]
Llun: Nigel Davies, Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Rydym wedi cael nifer o ymholiadau’n ddiweddar am dollau Pontydd Hafren, felly teimlais y byddai’n syniad da rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi.
Y cefndir
O dan
Ddeddf Pontydd Hafren 1992, Severn River Crossing Plc. (SRC) oedd yn gyfrifol am y bont wreiddiol, ac am adeiladu’r bont newydd. Caiff y ddwy eu hariannu drwy’r tollau.
Mater i Lywodraeth y DU yw’r pontydd a byddant yn ôl mewn perchenogaeth gyhoeddus wedi i’r cytundeb consesiwn ddod i ben.
Dyma’r tollau ar hyn o bryd:
- Cerbyd Categori 1 (hyd at 9 sedd) - £ 6.50
- Cerbyd Categori 2 (cerbydau cludo nwyddau hyd at 3,500kg) - £ 13.10
- Cerbyd Categori 3 (cerbydau cludo nwyddau dros 3,500kg) - £ 19.60
Nid oes raid i feiciau modur na deiliaid bathodynnau anabledd dalu toll ac nid oes tâl ychwanegol am lusgo carafán neu drelar.
Felly, pryd y bydd y consesiwn yn dod i ben?
"Mae'n dibynnu," yw’r ateb byr.
Daw'r consesiwn i ben naill ai ar ôl 30 mlynedd (1992-2022), neu pan fydd targed refeniw SRC wedi’i gyrraedd, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.
Mewn dadl Seneddol yn Neuadd San Steffan ar 21 Gorffennaf, 2015, dywedodd Andrew Jones AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU y dylai hyn ddigwydd yn 2018:
Members have asked when the concession will finish. That will happen when it has achieved total income of £1.029 billion at 1989 prices, so it is not possible to give an exact date for when it will finish. We are able to project ahead based on current usage but, as I mentioned earlier, usage is going up, so the date may come forward… We are looking at a potential end date for the concession of around 2018. It is a financial target, rather than a fixed date, which means that we have a requirement to plan appropriately, and I will address that next.
A fydd y tollau’n parhau pan ddaw’r consesiwn i ben?
Mae ansicrwydd ynglŷn â hyn yn y tymor hir, ond mae’n glir na ddaw’r tollau i ben yn syth ar ôl i’r consesiwn i ben, gan y bydd Llywodraeth y DU am adennill ei chostau ei hun, sef £88 miliwn, nad yw wedi’i gynnwys yn y cytundeb consesiwn
Yn y ddadl yn Neuadd San Steffan, dywedodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol:
Our intention is to continue tolling after the projected end of the concession in 2018 simply to recover the costs that have been incurred in relation to the crossings that fall outside the agreement. The current projection of those costs stands at £88 million. We have not made any decisions about the operation and tolling arrangements for the crossings once the current regime ends.
Mae gan Lywodraeth y DU hyd at 2027 i adennill ei chostau ei hun, ond
mae wedi dweud y bydd hyn yn debygol o gymryd blwyddyn neu ddwy.
Cewch ragor o fanylion am yr hyn y mae’r £88m yn ei gynnwys ar dudalen 4 o
lythyr a ysgrifennodd Stephen Hammond AS , yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth ar y pryd, at Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ym mis Ebrill 2013.
Beth yw’r gost o gynnal a chadw’r pontydd?
Ym mis Mawrth 2015,
cafwyd ateb ysgrifenedig gan John Hayes AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth ar y pryd, a dywedodd fod cyfrifon diweddaraf SRC yn dangos mai’r gost o weithredu a chynnal a chadw’r pontydd oedd £13.1m yn 2012 a £14.4m yn 2013. Dywedodd hefyd mai cyfanswm y gost i'r Asiantaeth Priffyrdd / Adran Drafnidiaeth oedd £512,000 yn 2012-13 a £632,000 yn 2013-14.
Wrth
ymateb yn ddiweddar i gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â’r gost flynyddol o gynnal a chadw’r ddwy bont ym mhob un o'r 10 mlynedd diwethaf rhoddodd yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon fanylion y "gwariant gweithredol (yn cynnwys cynnal a chadw)". Mae’n glir nad oes modd dangos y gost o gynnal a chadw’r ddwy bont ar wahân.
Felly, beth fydd yn digwydd i'r tollau yn y dyfodol?
Mae'r Canghellor wedi ymrwymo eisoes i nifer o newidiadau pan fydd y pontydd mewn perchnogaeth gyhoeddus unwaith eto, gan gynnwys eithrio’r tollau rhag TAW. Yn ôl "Llyfr Coch" Cyllideb y DU ym mis Mawrth 2015:
The government will, once the Severn River Crossings are in public ownership post-2018, abolish VAT and reduce tolls by the equivalent amount and, abolish Category 2 (small goods vehicles and small buses) and include those vehicles in Category 1 (motor cars and motor caravans), therefore reducing the toll paid by small goods vehicles and small buses.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai hi ddylai hi fod yn gyfrifol am y tollau ond, os dyna ddigwyddith, nid yw wedi ymrwymo i gael gwared arnynt.
Yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Hydref, 2014, dywedodd Prif Weinidog Cymru :
(rydym) yn credu y dylai'r doll fod yn nwylo Llywodraeth Cymru. Rydym yn credu y gallem ni leihau'r tollau. Ar yr un pryd, wrth gwrs, roedd yn bwysig codi digon o arian i gynnal a chadw'r pontydd—nid dim ond yr un bont, ond y ddwy bont gan eu bod yn dod gyda’i gilydd... (mae’n) gwbl hanfodol nad yw'n dod yn ôl i berchenogaeth gyhoeddus Whitehall yn unig.
Mae
Strategaeth Buddsoddi mewn Ffyrdd Highways England (yr hen Asiantaeth Priffyrdd) wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i ystyried dyfodol y pontydd:
This is an appropriate moment to think about the long-term future of the crossing, including how best to secure its continued maintenance, how to support the economies on both sides of the bridge, and whether the legal regime at the crossing can deliver this. The Department for Transport, working with the Company, the Welsh Assembly Government and other affected parties, will examine the future of the crossing in detail during this Road Period [2015/16 to 2019/20].
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg