Mae un o’r pethau mwyaf sylfaenol y mae pobl yn ei ddisgwyl gan y GIG yn syml: os ydyn nhw’n deialu 999 mewn argyfwng, maen nhw eisiau gwybod y bydd ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym.
Bydd defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru yn ein mesur ni ac yn mesur ein llwyddiant ar ba mor gyflym rydyn ni’n troi i fyny – Jason Killen, cyn-Brif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae ymateb amserol gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn un o’r dangosyddion mwyaf gweladwy o berfformiad y GIG. Ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn fwyfwy anodd bodloni’r disgwyliad hwnnw. Mae oedi ambiwlans, aros hir y tu allan i ysbytai, a’r galw cynyddol wedi rhoi pwysau dwys ar y system. Mae hyn wedi bod yn destun gwaith craffu yn y Senedd, gan gynnwys gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r erthygl hon yn edrych y tu ôl i’r goleuadau glas ar yr ymdrech drwy ddiwygiadau newydd i symud y ffocws o gyflymder yn unig—pan fo gwasanaethau ambiwlans wedi cael trafferth cyflawni targedau ymateb brys—i ganlyniadau cleifion a gofal mwy diogel.
System dan bwysau: Ydy help yn dal ar y ffordd?
Ar gyfer yr argyfyngau “coch” mwyaf difrifol — fel ataliad y galon — mae amseroedd aros am ambiwlans yn parhau i fod yn her fawr. Ym mis Mai 2025, daeth ambiwlans o fewn y targed 8 munud yn dilyn hanner y galwadau coch yn unig. Roedd y perfformiad yn amrywio ledled Cymru, o 46.0% ym Mhowys (yr isaf) i 53.7% ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan (yr uchaf) – ymhell yn is na’r targed cenedlaethol o 65%.
Ym mis Mai 2024, dywedodd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WASUT) wrth Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd mai oedi wrth drosglwyddo i’r ysbyty yw un o’r achosion mwyaf o oedi o ran amseroedd aros am ambiwlans. Ym mis Rhagfyr 2022, nid oedd dros draean o ambiwlansys ar gael oherwydd bod criwiau yn aros i drosglwyddo cleifion i ofal ysbyty. Flwyddyn yn ddiweddarach, cadarnhaodd adroddiad WASUT 2023/24 fod y broblem prin wedi gwella. Yn aml, gwelir ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau brys, yn methu dychwelyd i’r gymuned.
Amlygodd cyn-Brif Weithredwr WASUT yr effaith ganlyniadol, gan nodi bod WASUT yn colli tua 20-25% o’i gapasiti fflyd bob mis oherwydd tagfeydd GIG ar draws y system. Esboniodd fod miloedd o gleifion yn parhau mewn gwelyau ysbyty er eu bod yn feddygol ffit i’w rhyddhau, sy’n rhwystro derbyniadau newydd – problem a ystyriwyd yn fanwl gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2022.
Ar yr un pryd, ym mis Rhagfyr 2023, gwnaeth bron i 10,000 o gleifion ganslo eu galwadau eu hunain am ambiwlans a gwnaethant eu ffordd eu hunain i’r ysbyty — nid oherwydd nad oedd angen help arnynt mwyach, ond oherwydd bod yr aros yn teimlo’n rhy hir.
Mae Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi cydnabod fod yr oedi yma yn achosi “niwed y gellir ei osgoi”.
Daeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r casgliad na all ychwanegu mwy o ambiwlansys i’r fflyd ddatrys yr argyfwng. Roedd yn cydnabod bod y pwysau yn deillio o faterion systemig dyfnach a bod ambiwlansys sy’n ciwio yn symptom gweladwy o system ehangach dan straen. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Pwyllgor fod rhaid i WASUT “chwarae ei ran i sicrhau ei fod yn rheoli ei adnoddau ei hun yn effeithiol.”
Goleuni ar y gofal: newid strategol mewn gwasanaethau ambiwlans?
Mae gwaith craffu’r Senedd wedi amlygu bod angen i WASUT ddatblygu ei rôl ymhellach – nid yn unig fel darparwr cludiant cleifion, ond fel gwasanaeth gofal iechyd rheng flaen allweddol. Mewn ymateb, mae WASUT wedi ehangu ei rôl glinigol – gan ddarparu rhagor o ofal yn y fan a’r lle, cefnogi iechyd meddwl, a lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ail-lunio’r ffordd y mae gwasanaethau ambiwlans yn cael eu mesur, yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae diwygiadau a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2025 yn nodi newid sylfaenol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cleifion ac ansawdd clinigol, yn hytrach nag amseroedd ymateb yn unig.
Materion allweddol a nodwyd gan y Pwyllgor:
- Dibynnu’n ormodol ar un targed sy’n seiliedig ar amser: Nid oedd y targed 8 munud ar gyfer galwadau coch wedi’i gyflawni’n gyson ers mis Gorffennaf 2022. Cwestiynodd y Pwyllgor a oedd cyflymder yn unig yn ffordd deg o fesur gofal a galwodd am adolygiad ffurfiol.
- Diffyg gwahaniaethu o fewn argyfyngau: Yn flaenorol, roedd pob galwad ddifrifol yn cael ei thrin yr un fath. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi dull gwahanol, sef dull brysbennu clinigol cynharach a chategoreiddio mwy manwl.
- Angen am fesurau perfformiad clinigol ystyrlon: Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth ambiwlans yn esblygu o ddarparwr cludiant i wasanaeth gofal iechyd rheng flaen. Pwysleisiodd yr angen i werthuso’r newid hwn o ran gwerth clinigol ac effaith, gan nodi bod rhaid asesu perfformiad yn ôl canlyniadau cleifion.
- Diffyg canolbwyntio ar niwed a achosir gan oedi: Gall oedi arwain at niwed difrifol. Canfu’r adroddiad fod 1 o bob 10 claf wedi dioddef niwed cymedrol neu ddifrifol — neu farwolaeth hyd yn oed — o ganlyniad i aros hir.
- Oedi wrth drosglwyddo i’r ysbyty: Nododd y Pwyllgor mai hon yw’r her fwyaf a galwodd am ffordd well o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion a buddsoddi mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Fframwaith Perfformiad newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans
Wedi’i lansio ym mis Gorffennaf 2025, mae’r fframwaith newydd yn cyflwyno categorïau newydd ar gyfer galwadau 999:
- Galwadau porffor: bellach yn cwmpasu ataliad y galon neu ataliad anadlol – pan fo’r galon neu’r anadlu eisoes wedi stopio. Y rhain yw’r argyfyngau mwyaf critigol. Rhaid cyrraedd cleifion o fewn 6-8 munud, ond y prif ffordd o fesur llwyddiant yw a yw curiad calon y claf yn cael ei ailgychwyn ac yn aros yn sefydlog nes cyrraedd yr ysbyty. Mae’n symud ffocws o gyflymder yn unig i ganlyniadau clinigol, gan geisio gwella cyfraddau goroesi (llai na 5% yng Nghymru ar hyn o bryd).
- Galwadau coch: yn dal i gwmpasu argyfyngau difrifol fel trawma mawr neu salwch critigol – pan fo’r claf mewn perygl mawr o ataliad y galon neu ataliad anadlol. Mae’r targed yn parhau i fod yn 6–8 munud, ond mae’r pwyslais ar rwystro ataliad drwy gyrraedd cleifion cyn i’w cyflwr waethygu.
Mae’r canlyniadau cyntaf o dan y model newydd hwn, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025, yn dangos addewid ond bod yr heriau yn parhau. Ym mis Gorffennaf, roedd 814 o alwadau porffor a 4,449 o alwadau coch. Roedd amseroedd ymateb canolrifol yn dal i fod yn arafach na’r nod 6–8 munud, ond gwelwyd gwelliant yng nghyfraddau goroesi ataliad y galon.
Rolau newydd, adnoddau newydd
Cefnogir y diwygiadau gan:
- Ymatebwyr cyntaf cymunedol: gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i ddarparu asesiadau yn y fan a’r lle a gofal cynnar, gan helpu parafeddygon i flaenoriaethu.
- Llywyr clinigol: parafeddygon a nyrsys mewn ystafelloedd rheoli sy’n monitro aros, yn brysbennu galwadau, ac yn defnyddio’r adnodd cywir.
- Rhagor o gyllid ar gyfer diffibilwyr: helpu’r claf i oroesi ataliad y galon.
Y nod yw arbed ambiwlansys rhag cael eu hanfon i bob digwyddiad. Mae hyn yn golygu sicrhau bod yr adnodd mwyaf priodol — boed yn ymatebwr cymunedol, yn llywiwr clinigol, neu’n gludiant wedi’i drefnu — yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar anghenion y claf, gan helpu i gadw ambiwlansys ar gael ar gyfer yr argyfyngau mwyaf critigol.
Mireinio pellach
Yn ogystal â gwahanu’r galwadau coch mwyaf brys, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd hefyd newidiadau pellach i’r ffordd y caiff galwadau 999 eu categoreiddio:
- Galwadau oren: Bydd categori oren newydd, a gaiff ei gyflwyno y gaeaf hwn, yn creu haen ganol ar gyfer cyflyrau sy’n sensitif i amser fel achosion posibl o strôc. Mae’r achosion hyn yn gofyn am ymateb ambiwlans cyflym a gofal clinigol, ond yn hanfodol, mae’r driniaeth ddiffiniol yn digwydd yn yr ysbyty. Mae’r system newydd yn blaenoriaethu asesiad cyflym a chludo i ofal arbenigol. Er na fydd targed amser ynghlwm wrth y categori oren newydd, bydd yr amseroedd ymateb cyfartalog a hiraf yn cael eu cofnodi.
- Galwadau Ambr, Melyn a Gwyrdd: mae’r categorïau hyn yn cael eu hadolygu. Mae galwadau ambr, sy’n cyfrif am tua 70% o holl weithgarwch 999, yn cwmpasu achosion difrifol ond nid achosion sy’n peryglu bywyd ar unwaith, hyd at faterion nad ydynt yn rhai brys. Mae cleifion yn y categorïau hyn yn aml yn cael eu cyfeirio at wasanaethau eraill neu gludiant wedi’i drefnu, gan ategu’r pwynt nad oes angen ambiwlans ar gyfer pob galwad 999.
Y tu hwnt i’r amseru: sut i feithrin ymddiriedaeth yn y ffordd o’n blaenau?
Mae’r ffordd o fesur llwyddiant gofal ambiwlans Cymru yn newid. Nid yn unig: “Pa mor gyflym cyrhaeddodd yr ambiwlans?” ond “a oroesodd y claf? A ddarparwyd y gofal cywir? A ellid osgoi derbyn i’r ysbyty?”
Mae’r cwestiynau hyn yn cael eu holrhain drwy Ddangosyddion Ansawdd Gwasanaeth Ambiwlans newydd, gan fesur canlyniadau, profiad ac effeithlonrwydd. Ond mae her yn parhau o ran cyfathrebu. Mae’r cyhoedd yn debygol o barhau i feddwl bod cyflymder yn golygu diogelwch. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi rhybuddio y gall pobl weld oedi fel methiant — hyd yn oed pan fydd cleifion yn cael gofal gwell, oni bai bod eu disgwyliadau yn cael eu newid.
Mae’r Pwyllgor wedi pwyso am negeseuon cyhoeddus cliriach, gan fynnu bod hyder yn y gwasanaeth ambiwlans yn gonglfaen ymddiriedaeth yn y GIG. Mae Cymru yn wynebu cydbwysedd cain: tawelu’r cyhoedd wrth ail-lunio gwasanaethau o amgylch canlyniadau yn hytrach na thargedau amser.
Nid yw gofal ambiwlans yng Nghymru yn ymwneud â’r ras yn erbyn y cloc yn unig erbyn hyn. Mae’n ymwneud â thriniaeth ddiogel, wrth ddefnyddio adnoddau’n ddoeth. Wrth i Lywodraeth Cymru ailddiffinio sut olwg sydd ar lwyddiant mewn gofal ambiwlans, mae hanes yr hyn sy’n digwydd ar ôl ichi ddeialu 999 yn newid ac yn dod yn fwyfwy cymhleth.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.