Mae’r system reilffyrdd yng Nghymru, a Phrydain Fawr, yn gymhleth:
- mae rhai elfennau o’r system reilffyrdd wedi’u datganoli, ond nid pob un ohonynt;
- mae rhai gwasanaethau teithwyr yn cael eu rhedeg gan gwmnïau gweithredu trenau preifat, ond nid pob un ohonynt;
- mae’r rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn eiddo i Network Rail.
Mae'r briff hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o'r system reilffyrdd yng Nghymru. Mae'n ystyried sut mae gwasanaethau teithwyr, seilwaith a chludo llwythi yn gweithredu. Mae'n edrych ar gyfrifoldeb am y system, dadleuon cyfredol, datblygiadau polisi, a chyfeiriad rheilffyrdd yn y dyfodol.
Erthygl gan Charlotte Lenton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Lenton gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei gwblhau.