Llun o adeiladau'r Senedd a'r Pierhead, gyda cherflun yn y blaen.

Llun o adeiladau'r Senedd a'r Pierhead, gyda cherflun yn y blaen.

Y Senedd yn pleidleisio ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Cyhoeddwyd 09/01/2026

Ddydd Mawrth 13 Ionawr 2026, bydd y Senedd yn penderfynu a fydd Bil sydd â'r nod o gryfhau atebolrwydd Aelodau a mynd i'r afael â chamwybodaeth yn etholiadau'r Senedd yn symud ymlaen i'w gyfnod nesaf.

Mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cynnig system o 'adalw' Aelodau o’r Senedd, yn newid y broses safonau ar gyfer Aelodau o'r Senedd ac yn galluogi llywodraeth yn y dyfodol i wahardd datganiadau ffug neu gamarweiniol yn ystod etholiadau'r Senedd. Roedd ein herthygl flaenorol yn ystyried cynigion y Bil yn fanwl.

Mae'r Bil yn dod i ddiwedd cyfnod cyntaf y broses graffu deddfwriaethol, ac mae tri phwyllgor yn y Senedd yn cyhoeddi adroddiadau yn amlinellu eu barn ar gynigion y Bil. Bydd yr erthygl hon yn edrych ar rai o'r themâu allweddol sydd wedi deillio o waith craffu ar y Bil.

A yw'r dibenion yn cyfiawnhau'r modd?

Thema gyffredin drwy gydol adroddiadau Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau (MAB) a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (LJC) yw beirniadaeth o'r ffordd y mae'r Bil wedi'i ddatblygu, o’r ffordd yr ymgynghorwyd arno ac o'r amser a neilltuwyd ar gyfer craffu ar y Bil gan y Senedd.

Mae'r ddau bwyllgor yn cefnogi amcanion y Bil ac yn cydnabod pwysigrwydd cyflwyno system adalw ar gyfer y Senedd a chryfhau atebolrwydd. Fodd bynnag, mae’r ddau bwyllgor wedi dweud, os bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, y bydd angen ei wella a'i ddiwygio'n sylweddol cyn iddo ddod yn gyfraith.

Gellir diwygio'r Bil yn ystod dau gyfnod nesaf proses ddeddfwriaethol y Senedd. Mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud argymhellion i ddiwygio neu ddileu adrannau penodol o'r Bil.

Cael y cydbwysedd yn iawn

Mae adroddiadau'r pwyllgorau hefyd yn cwestiynu a yw'r cydbwysedd yn gywir ar hyn o bryd rhwng yr hyn y dylid ei nodi mewn cyfraith a'r hyn y dylid ei adael i'r Senedd ei benderfynu drosto'i hun.

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau, pwysleisiodd y Llywydd y gallai rhai o ddarpariaethau’r Bil fod yn gwrthdaro â’r egwyddor y dylai senedd fod “yn rhydd i’w llywodraethu ei hun, heb ymyrraeth allanol”.

Mae hyn yn ymwneud yn benodol â Rhan 2 o'r Bil, sy'n nodi newidiadau i broses safonau'r Senedd. Daeth y ddau bwyllgor i'r casgliad bod adrannau o'r Rhan hon yn rhy ragnodol ynghylch yr hyn y gall y Senedd ei wneud a'r hyn na all ei wneud i reoli ei materion ei hun. Fe wnaethant argymell y dylid dileu'r rhan fwyaf o adran 18 o'r Bil. Yn hytrach, maent yn awgrymu y dylid ei gyfyngu i ofyniad am Bwyllgor Safonau Ymddygiad a galluogi aelodau lleyg i gael eu penodi i'r Pwyllgor hwnnw.

Datblygu achosion troseddol

Maes egwyddor arall a ddilynwyd gan y ddau bwyllgor yw y dylid creu troseddau newydd mewn deddfwriaeth sylfaenol – sef Deddfau’r Senedd.

Mae'r ddau adroddiad yn feirniadol o'r ffordd y mae adran 22 o'r Bil wedi'i drafftio. Yn hytrach na nodi manylion y drosedd newydd o wneud neu gyhoeddi datganiadau ffug neu gamarweiniol, mae'r Bil yn darparu pŵer eang i Weinidogion Cymru greu'r drosedd hon drwy is-ddeddfwriaeth.

Nid oes dim manylion am y drosedd wedi'u nodi yn y Bil ar hyn o bryd, er enghraifft, i bwy mae'r drosedd yn gymwys, sef, a fyddai ar gyfer pawb neu ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau etholiad yn unig?

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn amlygu mai'r arfer gorau yn rhyngwladol yw bod yn glir ynglŷn â'r manylyn hwn, ac mae ymarferwyr cyfreithiol ac arbenigwyr yn dweud y dylid rhoi rhagor o fanylion ar wyneb y Bil, ac na ddylid eu gadael i lywodraeth yn y dyfodol benderfynu arnynt.

Ni chreffir mor fanwl ar is-ddeddfwriaeth â Deddf y Senedd. Ni all Aelodau o'r Senedd ei diwygio, a byddai'n arwain at fod yn destun pleidlais 'derbyn neu wrthod' ar y drosedd arfaethedig.       

Dywed Llywodraeth Cymru nad oedd ganddi ddigon o amser i ymgynghori ar drosedd newydd a'i datblygu. Mae'r ddau bwyllgor yn dweud bod hyn yn siomedig, ac yn eu rhoi mewn sefyllfa anodd. Maen nhw'n dweud y dylai cwmpas trosedd newydd fod yn glir. Mae mwyafrif o'r ddau bwyllgor yn dweud y dylai'r Llywodraeth nodi manylion allweddol y drosedd newydd arfaethedig ar wyneb y Bil.

Ffordd bell i fynd o hyd

Mae'r Bil yn wynebu amserlen dynn i'w basio cyn diwedd tymor y Senedd hwn ym mis Mawrth 2026. Ond os cytunir arno, gallai fod rhaid aros yn hir cyn bod ei gynigion yn weithredol.

Er enghraifft, mae nifer o gamau y mae angen eu cymryd cyn y gellid cynnal pôl adalw. Mae'r rhain yn cynnwys y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn datblygu ac yn ymgynghori ar ganllawiau adalw (y mae rhaid i'r Senedd eu cymeradwyo), a pharatoi a gwneud rheoliadau ynghylch cynnal polau adalw.

Gan ystyried y rhain, yn ogystal ag egwyddor Gould sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfraith fod ar waith chwe mis cyn digwyddiad etholiadol, daeth Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau (MAB) i'r casgliad na fydd adalw yn weithredol tan ymhell wedi dechrau'r Seithfed Senedd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil, ac yn pleidleislio arnynt, yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr. Os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen, Cyfnod 2 fydd y cyfle cyntaf i Aelodau o’r Senedd gyflwyno gwelliannau i’r Bil.

Ni wnaeth Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau (MAB) argymhelliad ynghylch a ddylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Argymhellodd, fodd bynnag, os bydd y Bil yn symud ymlaen i gyfnod nesaf y broses ddeddfwriaethol, bod rhaid diwygio a gwella pob Rhan cyn i'r Bil gael ei ddeddfu.

Gallwch wylio trafodion Cyfnod 1 y Bil ar Senedd.tv.

Erthygl gan Josh Hayman a Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru