senedd cymru

senedd cymru

Y Senedd mewn undod ag Wcráin

Cyhoeddwyd 03/03/2022   |   Amser darllen munud

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi cael ei gondemnio’n rhyngwladol.

Mae seneddau ledled y byd wedi rhoi stop ar eu trafodion i gondemnio ymosodiad Rwsia, wedi goleuo eu hadeiladau mewn undod ac wedi cymeradwyo protestwyr yn Wcráin a Rwsia.

Ar 1 Mawrth, ychwanegodd Senedd Cymru ei llais. Mewn Neges Dydd Gŵyl Dewi, galwodd y Llywydd ar y Senedd i “oedi ac ystyried digwyddiadau rhyngwladol, a chydnabod gydnabod pwysigrwydd ein strwythurau democrataidd ac eto pa mor fregus maent yn gallu bod”.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi ymatebion Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Rydym yn crynhoi pa bwerau sydd gan Gymru yng nghyd-destun materion sydd wedi codi yn sgil y gwrthdaro. Mae'r erthygl yn trafod y camau nesaf ac yn disgrifio uchelgais ddatganedig Llywodraeth Cymru i ddod yn “genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang” ac yn “genedl noddfa sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch”.

Cwestiwn Brys

Yr eitem gyntaf yng nghyfarfod llawn y Senedd ar 1 Mawrth oedd cwestiwn brys ar yr effaith ar ddinasyddion a busnesau yng Nghymru yn sgil ymosodiad Rwsia. Dywedodd y Prif Weinidog:

Mae pobl Cymru wedi'u dychryn gan yr ymosodiad ar Wcráin, ac, fel cenedl noddfa, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl Wcráin. Mae Cymru yn agored i roi croeso a diogelwch i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth.

Aeth ymlaen i ddweud:

Mae gennym ni gannoedd o bobl o Wcráin yn byw yng Nghymru sydd â ffrindiau a theulu bellach ar y rheng flaen, ac mae gwaith y gallwn ni ei wneud yma i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod bod ganddyn nhw, yng Nghymru, gefnogaeth ein cenedl gyfan wrth iddyn nhw wynebu'r dyddiau gofidus dros ben hynny o'n blaenau.

Eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn:

  • Darparu £4 miliwn mewn cymorth ariannol a dyngarol;
  • Asesu pa offer meddygol nas defnyddir y gellid eu darparu;
  • Barod i groesawu pobl sydd angen ac eisiau gadael Wcráin ar yr adeg hon;
  • Annog Llywodraeth y DU i’w gwneud yn haws i bobl Wcráin ddod i’r DU; ac
  • Annog pawb sy’n gallu i gyfrannu at y Groes Goch Brydeinig, UNICEF y DU neu UNHCR y DU.

Bu’r Prif Weinidog yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru ag arweinwyr yr UE ym Mrwsel ddydd Mercher. Yn flaenorol roedd wedi dweud bod yn rhaid i bobl Cymru fod yn barod i wneud ambell aberth er mwyn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS, sydd â chysylltiadau agos â’r Wcráin:

A gaf i ddiolch yn bersonol i holl bobl Cymru am eu negeseuon o gefnogaeth, eu undod a'u haelioni dros yr wythnos ddiwethaf, i mi ac yn enwedig i'r gymuned Wcrainaidd yng Nghymru. […]
Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi troi'n rhyfel yn erbyn pobl Wcráin, ac mae ein holl feddyliau gyda'r bobl hynny sydd wedi codi arfau i amddiffyn democratiaeth ac i ymladd dros ryddid, gan gynnwys aelodau o'm teulu fy hun.

Rhoddodd Aelodau'r Senedd gymeradwyaeth wrth iddynt rannu eu profiadau personol, eu cefnogaeth i Wcráin ac i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel. Roedd rhai wedi mynd i rali y tu allan i'r Senedd ar 28 Chwefror, ynghyd ag aelodau o'r cyhoedd.

Holl bleidiau gwleidyddol y Senedd yn condemnio’r ymosodiad

Mae arweinydd pob plaid yn y Senedd wedi codi eu llais yn erbyn yr ymosodiad.

Galwodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar y Gorllewin i sefyll ynghyd â chenhedloedd y byd wrth amddiffyn Wcráin, ac i filwyr Rwsia gael eu hanfon yn ôl y tu hwnt i’r ffiniau rhyngwladol.

Ysgrifennodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru, na allwn ni beidio ag ysgwyddo dim cyfrifoldeb. Aeth ymlaen i ddweud na allwn ddiystyru Wcráin i fod yn wlad dramor arall nad ydym yn gwybod dim amdani. Dywedodd y bydd yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin yn atseinio ledled y byd am flynyddoedd i ddod. Galwodd i nifer o fesurau gael eu cymryd, gan gynnwys embargo economaidd ar Rwsia.

Dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei fod yn ddiwrnod tywyll i Ewrop a’r byd.

Sut mae materion rhyngwladol yn cael eu trin gan y Senedd?

Mae’r Senedd yn ystyried effaith materion rhyngwladol ar draws ystod eang o faterion, megis Brexit, newid hinsawdd a ffoaduriaid.

Dyma’r pwyllgorau sy’n gyfrifol am faterion posibl sy’n codi yn sgil y gwrthdaro:

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud?

O dan setliad datganoli Cymru, mae agweddau allweddol ar unrhyw ymateb i’r gwrthdaro yn cael eu cadw i Lywodraeth y DU ac felly mae Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig yn yr hyn y gall ei wneud o ran gweithredu ar ei phen ei hun yn llwyr.

Serch hynny, mae llawer y gall ei wneud ac y mae am ei wneud.

Er bod cysylltiadau rhyngwladol yn cael eu cadw i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi bod yn awyddus i gymryd safiad ar faterion byd-eang, fel y nodir yn ei strategaeth ryngwladol 2020. Mae’r strategaeth yn disgrifio “cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang” a “chenedl noddfa sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch”.

Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw mewnfudo, ond mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus a chymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn dod yn 'Genedl Noddfa' gyntaf y byd; cynllun wedi ei ardystio gan y Cenhedloedd Unedig.

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn meysydd datganoledig. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei gweithredoedd yn parhau i fod yn gydnaws, gan gynnwys â chytundebau hawliau dynol a chytundebau sy'n diogelu ffoaduriaid. Ar 1 Mawrth, roedd datganiad y Prif Weinidog yn cyfeirio at rwymedigaethau moesol a chyfreithiol y DU o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid 1951. Gofynnodd i Brif Weinidog y DU “sicrhau ffyrdd syml, cyflym, diogel a chyfreithiol o gael noddfa yn y DU, a hynny ar frys.”

Mae’n bosibl y caiff Llywodraeth Cymru ei thynnu i elfennau eraill o'r gwrthdaro yn Wcráin, fel y gwelir yn adroddiadau'r BBC am long yn cario cargo o Rwsia yn cael ei dargyfeirio o borthladd Aberdaugleddau, neu effeithiau sancsiynau economaidd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r Senedd yn debygol iawn o ystyried y datblygiadau sy’n codi yn y dyfodol wrth i’r sefyllfa yn Wcráin ddatblygu. Mae cynnig wedi ei gyflwyno ar gyfer dadl ar 9 Mawrth gan Darren Millar AS i gondemnio’r ymosodiad, i fynegi undod â phobl Wcráin ac i groesawu gweithredoedd Llywodraeth Cymru.

Yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at roi’r cynlluniau a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar waith, gan gynnwys paratoi i groesawu ffoaduriaid i Gymru. Lansiodd ymatebion tebyg i'r sefyllfaoedd diweddar yn Afghanistan a Syria.

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn un difrifol. Dyma ryfel modern ar bridd Ewrop sydd wedi chwalu’r drefn fyd-eang mewn ychydig ddyddiau. I Gymru a’r DU, mae ei heffeithiau’n debygol o fod yn bellgyrhaeddol ac yn debygol o atseinio’n fyw iawn yn ein plith am gyfnod hir.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru