Peintio Gyda Llaw

Peintio Gyda Llaw

Y Senedd i drafod rhagor o welliannau i'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd 23/01/2025   |   Amser darllen munudau

Mae’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) wedi cyrraedd Cyfnod 3 o broses ddeddfwriaethol y Senedd. Mae’n  cynnwys nifer o ddarpariaethau, gan gynnwys:

  • cyfyngu ar yr elw a wneir gan ddarparwyr gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal; a
  • galluogi cyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.

Gellir cael manylion pellach am ei ddarpariaethau yn ein Crynodeb o'r Bil.

  • Yng Nghyfnod 1, bu tri o Bwyllgorau’r Senedd yn craffu ar y Bil.
  • Yn Nghyfnod 2, cyflwynwyd 97 o welliannau. Trefnwyd y rhain yn 17 o grwpiau a chawsant eu trafod yn y drefn honno gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 28 Tachwedd 2024.
  • Mae cofnodion cyfarfod y Pwyllgor yn dangos bod 43 o welliannau wedi'u cytuno, a bod pob un yn welliannau'r llywodraeth.
  • Caiff diben ac effaith arfaethedig y 43 o welliannau Llywodraeth Cymru, y cytunwyd arnynt, eu nodi yn y ddau dabl hyn: Tabl diben ac effaith y Llywodraeth - 11 Tachwedd 2024 a Tabl diben ac effaith y Llywodraeth - 18 Tachwedd 2024.
  • Ar 17 Rhagfyr, ysgrifennodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol (yr Aelod yn gyfrifol am y Bil) at y Pwyllgor Iechyd yn “nodi isod sut rwy'n bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon yr wyf yn credu sydd wedi arwain at nifer o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau.”
  • Mae’r Bil diwygiedig bellach yng Nghyfnod 3 (Cyfnod Diwygio yn y Cyfarfod Llawn). Mae'r broses diwygio bellach wedi cau. Mae Hysbysiad Terfynol o Welliannau a Rhestr o Welliannau wedi’u didoli ar gael ar wefan y Bil. Cynhelir trafodion Cyfnod 3 a phleidleisio yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Ionawr 2025.

Mae'r erthygl hon yn nodi'r hyn a ddigwyddodd wrth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried gwelliannau cyfnod 2.

Dileu elw a darpariaethau ynghylch plant sydd â phrofiad o ofal

Yng Nghyfnod 1, cyhoeddwyd erthygl gennym ynghylch y prif effeithiau y gallai'r Bil hwn eu cael ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ers hynny, yng Nghyfnod 2, trafodwyd a phleidleisiwyd ar y grwpiau canlynol o welliannau , sy'n berthnasol i blant sy'n 'derbyn gofal' gan awdurdodau lleol:

  • Eirioli a chymorth (7 o welliannau)
  • Darparwyr gwasanaethau presennol: ‘endid er elw rhesymol’ (7 o welliannau)
  • Y cyfnod trosiannol: amserlenni ar gyfer y cyfnod trosiannol (5 o welliannau)
  • Y cyfnod trosiannol: trefniadau trosiannol ar gyfer darparwyr gwasanaethau presennol (5 o welliannau)
  • Goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer y cyfnod trosiannol (5 o welliannau)
  • Amrywio neu ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth (10 o welliannau)
  • Lleoliadau y tu allan i’r ardal (4 o welliannau)
  • Cynlluniau digonolrwydd blynyddol (3 o welliannau)
  • Lleoliadau atodol (3 o welliannau)

Cytunwyd ar 20 o welliannau’r llywodraeth

O'r 43 o welliannau Llywodraeth Cymru ar y Bil cyfan, y cytunwyd arnynt i gyd, roedd 20 yn ymwneud yn uniongyrchol â 'phlant sy'n derbyn gofal'. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mae Gwelliant 15, yn mewnosod adran 75A(2)(b) newydd "to make clear that the local authority may not publish a plan unless the plan has first been approved by the Welsh Ministers". Mae hyn yn cyfeirio at ddyletswydd newydd ar awdurdodau lleol yn y Bil i baratoi a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol. Dylai'r cynllun gynnwys: y camau y bydd awdurdod lleol yn eu cymryd i sicrhau llety ar gyfer 'plant sy'n derbyn gofal'; amcangyfrif o nifer y plant na fydd yn gallu rhoi lle iddynt; ac asesiad o'r llety sydd ar gael ac i ba raddau y mae hwn o fewn ardal yr awdurdod lleol neu'n agos ato.
  • Mae Gwelliant 18, yn ymwneud â cheisiadau awdurdodau lleol sy'n ceisio cymeradwyaeth i leoli plentyn sy'n derbyn gofal yn rhywle heblaw am endid 'dielw', pan fo'r trefniadau trosiannol perthnasol wedi dod i ben. Cyfeirir at y rhain fel "lleoliad atodol" ac roedd y gwelliant hwn yn dileu'r geiriau 'sy'n darparu'r lleoliad' o adran 13 o'r Bil. Dywed Llywodraeth Cymru "It is possible that those words may create the impression that approval is a foregone conclusion, which is not the case."

Ni chytunwyd ar yr un o welliannau’r gwrthbleidiau

Cyflwynodd Mabon ap Gwynfor AS ac Altaf Hussein AS ystod o welliannau, a ni chytunwyd ar yr un ohonynt. Mae llythyr y Gweinidog i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi sut y mae hi'n "bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon yr wyf yn credu sydd wedi arwain at nifer o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau". Roedd gwelliannau'r gwrthbleidiau’n cynnwys:

  • Hawliau i 'blant sy'n derbyn gofal' y mae'r Ddeddf yn effeithio arnynt i gael cyngor a chymorth a’r hawl i ymweliadau gan wasanaethau eiriolaeth annibynnol cofrestredig. Gellir darllen ymateb y Gweinidog ym mharagraffau 40-50 o'r trawsgrifiad.
  • 15 o welliannau a gyflwynwyd yn ymwneud â'r cyfnod trosiannol. O'r rhain, roedd gwelliannau 68 a 69, a gyflwynwyd gan Altaf Hussein, yn ymwneud â'r amserlenni trosiannol i gyfyngu ar elw. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 28 Tachwedd, nodwyd bod y Gweinidog wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig: Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal - diweddariad ar yr amserlen a’r modelau a ganiateir y diwrnod blaenorol. Felly tynnodd Altaf Hussein un gwelliant yn ôl ac ni symudwyd y llall. Wrth wneud sylw ar y datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog nad yw 2030 yn ddyddiad targed. Dyma'r dyddiad gorffen llwyr. 
  • 4 gwelliant a gyflwynwyd yn ymwneud â'r gofyniad yn y Bil i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau llety o fewn, neu'n agos at, ardal yr awdurdod. Mae'r gwelliannau'n ceisio diffinio ystyr 'yn agos' fel "o fewn ardal un o'i awdurdodau lleol cyfagos" a bod yn rhaid i'r awdurdod lleol ystyried barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn wrth eu lleoli y tu allan i awdurdod y cartref.
  • O'r 8 gwelliant a gyflwynwyd yn ymwneud â lleoliadau atodol, dim ond 3 gwelliant y Llywodraeth a gytunwyd. Yn ystod y ddadl, cadarnhaodd y Gweinidog na fydd y Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi lleoliad anghofrestredig ac y byddai'r safbwynt hwn yn cael ei nodi'n glir yn y canllawiau statudol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithrediad y broses gymeradwyo atodol. Dywedodd y Gweinidog hefyd y dylai canllawiau o’r fath bwysleisio na ddylai defnyddio lleoliadau atodol ddod yn sefyllfa ddiofyn, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol.

Taliadau Uniongyrchol

Cytunwyd ar 2 o welliannau’r llywodraeth

O'r 43 o welliannau Llywodraeth Cymru ar y Bil cyfan, y cytunwyd arnynt i gyd, roedd 2 yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus: gwelliannau 27 a 28.

Ni chytunwyd ar yr un o welliannau’r gwrthbleidiau

Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynodd Aelodau'r gwrthbleidiau welliannau ar nifer o faterion, gan gynnwys: cynllunio i sicrhau bod digon o Gynorthwywyr Personol i ateb y galw; sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn rhan amlwg o ganllawiau; a gofynion i adolygu’r Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus. Roedd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Cynorthwywyr personol (2 welliant)
  • Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd: gwybodaeth, cyngor a chymorth (8 gwelliant)
  • Trosolwg o daliadau uniongyrchol mewn gofal iechyd, a chefnogaeth iddynt (9 gwelliant)
  • Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd: mân welliannau a gwelliannau canlyniadol (5 gwelliant)
  • Adolygu'r fframwaith Gofal Iechyd Parhaus (2 welliant)

Roedd un mater y cynigiodd y Gweinidog weithio gydag Aelodau arno i gyflwyno gwelliant diwygiedig yng Nghyfnod 3. Mewn ymateb i welliannau yn canolbwyntio ar wella gwybodaeth a chyngor a chefnogaeth ynghylch taliadau uniongyrchol (gan gynnwys hawl i gael cymorth a chyngor), dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS,:

I am happy to consider, as a matter of priority, an amendment at Stage 3 that works within the statutory framework created by the Bill to achieve the same ultimate aim regarding mandating the provision of information and support, and I would be keen to engage with Members regarding that amendment.

Roedd adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofla Cymdeithasol wedi argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys '‘hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth’ i unigolion sy’n awyddus i hawlio taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Roedd yn awgrymu y byddai'r hawl hon yn helpu rhywfaint i “liniaru’r ofn ynghylch yr anhysbys i’r rhai sy’n ystyried derbyn taliadau uniongyrchol am GIP”. Galwodd y Pwyllgor hefyd am ganllawiau i gynnwys gwybodaeth am y pontio rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus, ac i hyrwyddo gofal parhaus i unigolion sy'n symud rhwng y ddwy system.

Ewch i’n herthygl flaenorol i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallai'r Bil ei olygu i bobl anabl a phobl hŷn. 

Beth nesaf?

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 28 Ionawr.

Gwyliwch yn fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Amy Clifton a Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru