Cyn y ddadl yn y Senedd ar Cyfoeth Naturiol Cymru (6 Hydref), rydym yn cynnig rhywfaint o gefndir perthnasol ac yn darparu lincs i wybodaeth allweddol.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar uwch-swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru bob blwyddyn ac yn cyhoeddi adroddiad gydag argymhellion. Cyhoeddwyd yr adroddiad craffu ar gyfer 2024-25 ym mis Mai gydag 11 o argymhellion.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argymhellion.
Mae CNC wedi rhoi 'Achos dros Newid' ar waith i adolygu cyflawni ac arbed £12 miliwn. Mae hyn yn cynnwys CNC yn rhoi'r gorau i redeg caffis a siopau yn ei ganolfannau ymwelwyr. Galwodd y Pwyllgor am gynllun i ailagor y canolfannau. Mae ymateb CNC yn nodi'r camau y mae'n eu cymryd i ganfod gweithredwyr amgen.
Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch toriadau cyllidebol ar gyfer llifogydd a llygredd amgylcheddol. Mae CNC wedi mabwysiadu “goddefgarwch uwch o risg” wrth reoli digwyddiadau llygredd. Ymatebodd CNC drwy ddweud ei fod yn blaenoriaethu gwaith llifogydd mewn ardaloedd sydd â'r perygl llifogydd mwyaf a bod ganddo ddull cymesur sy’n seiliedig ar risg ar gyfer ymateb i lygredd.
Gallwch ddarllen mwy am Achos CNC dros Newid yn ein herthygl: Mae CNC yn canfod £12 miliwn o arbedion. Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer ei wasanaethau?
Mae CNC wedi galw am drefniant ariannu aml-flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru ers rhai blynyddoedd. Mae'r Pwyllgor yn cytuno y byddai trefniant o’r fath yn helpu CNC i reoli cyllidebau yn y tymor hir. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mewn egwyddor ond yn nodi cyfyngiadau megis cylchoedd digwyddiadau cyllidol ac etholiadau’r DU sy’n effeithio ar y gallu i ddarparu setliadau aml-flwyddyn.
Ym mis Hydref 2024, cafodd CNC fenthyciad gwerth £19 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer atebolrwydd trethi dyledus, yn dilyn ymchwiliad gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Roedd y bil treth yn ymwneud â materion cydymffurfio hanesyddol o ran gweithwyr nad oedd ar y gyflogres. Mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor, nododd CNC a Llywodraeth Cymru sut y byddai'r benthyciad yn cael ei ad-dalu a’r gwersi fyddai'n cael eu dysgu.
Mae heriau CNC yn digwydd yr un pryd â newid yn yr uwch-dîm arwain. Mae cyfnod y Cadeirydd presennol, Syr David Henshaw, yn dod i ben a bydd y Cadeirydd newydd, Neil Sachdev, yn cychwyn ar y rôl ar 1 Tachwedd 2025. Cynhaliodd y Pwyllgor wrandawiad cyn penodi gyda Neil Sachdev ym mis Mehefin 2025.
Ymddeolodd Prif Weithredwr blaenorol CNC, Claire Pillman, ym mis Mawrth 2025. Galwodd y Pwyllgor am i olynydd parhaol gael ei benodi o fewn chwe mis (i’w adroddiad ym mis Mai 2025). Mae'r rôl yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref 2025.
Gallwch wylio dadl y Senedd ar Cyfoeth Naturiol Cymru ar Senedd.tv ar 6 Hydref.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru