Girl sitting on an adult’s shoulders and using her hands to make binocular shape

Girl sitting on an adult’s shoulders and using her hands to make binocular shape

Y Senedd i drafod hawliau plant yng Nghymru

Cyhoeddwyd 11/10/2024   |   Amser darllen munud

650,000 o blant, un Gweinidog, a Thrydedd Senedd Ieuenctid. Beth sydd gan y tri pheth hyn yn gyffredin?  

Gyda’i gilydd, maent yn rhoi rhywfaint o gyd-destun ar gyfer y ddadl yn y Senedd yr wythnos nesaf ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant. Yn yr adroddiad, mae Rocio Cifuentes yn datgan ei barn am y sefyllfa o ran hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2023-24. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi ei safbwynt ynghylch beth arall sydd angen ei wneud, a chan bwy.  

Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael cyfle i ddweud eu dweud am yr amrywiaeth eang o faterion hawliau plant a materion polisi sy’n cael eu codi yn yr adroddiad pan gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf, sef 15 Hydref. Mae'r erthygl hon yn amlinellu’r cyd-destun diweddar ar gyfer y ddadl ar hawliau plant. 

Plant a phobl ifanc: yr ystadegau 

Mae dadleuon yn y Senedd am blant a phobl ifanc yn aml yn cynnwys cyfeiriadau at y data sy’n cael eu cyhoeddi, a’r data nad ydynt yn cael eu cyhoeddi, am eu bywydau a'u canlyniadau hirdymor. Dyma rai o’r ffynonellau allweddol sydd ar gael i’w defnyddio: 

  • Yn 2023, nifer y bobl ifanc rhwng 0 a 18 oed a oedd yn byw yng Nghymru oedd 656,430 (y nifer rhwng 19 a 25 oed oedd 267,197). 
  • Mae’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion yn gasgliad electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir gan bob ysgol gynradd, ysgol ganol, ysgol uwchradd, ysgol feithrin ac ysgol arbennig yn y sector a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn. 
  • Mae 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol ar ôl i gostau tai gael eu hystyried. Gostyngodd y gyfradd tlodi plant yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli, gan godi eto yn ystod argyfwng ariannol 2008, ac mae’r gyfradd wedi amrywio ers hynny. Ystyrir bod plentyn mewn tlodi cymharol os yw incwm yr aelwyd y mae’n byw arni yn disgyn yn is na 60 y cant o ganolrif y DU (y canolrif yw’r gwerth canolog mewn rhestr o rifau sydd wedi'u trefnu o'r lleiaf i'r mwyaf). 

Mae adroddiad y Comisiynydd yn nodi ei bod hi a’i swyddfa “wedi ymgysylltu â 10,953 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru” yn 2023-24. Mae’r Comisiynydd yn dweud bod ei swyddfa wedi gweithio ar gyfanswm o 658 o achosion unigol, ac wedi darparu cymorth ar 985 o faterion. 

Portffolio gweinidogol newydd ar gyfer plant a gofal cymdeithasol 

Yn nyddiau cynnar datganoli, roedd rhai yn gweld Cymru fel gwlad a oedd ar flaen y gad o ran hawliau plant. Roedd materion plant a phobl ifanc i’w gweld yn amlwg yn strwythurau cynnar Cabinet Llywodraeth Cymru; er enghraifft, roedd y Cabinet yn cynnwys Gweinidog yr oedd ei bortffolio a’i deitl yn canolbwyntio’n llwyr ar blant a phobl ifanc. Yn ogystal, sefydlwyd is-bwyllgor penodol yn y Cabinet i benderfynu ar bolisïau a oedd yn effeithio ar blant a phobl ifanc.  

Yn dilyn cyfnod o saith mlynedd pan na fu unrhyw rôl yn y Cabinet â’r gair 'plant' yn ei theitl, gwnaeth Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd argymhelliad yn hwyr y llynedd y dylai Llywodraeth Cymru benodi “Gweinidog Babanod, Plant a Phobl Ifanc penodedig”, a hynny “pan fydd y cyfle cyntaf yn codi”. 

Gwrthododd Llywodraeth Cymru ar y pryd yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, wedi i Brif Weinidog Cymru newid ddwywaith ac wedi i’r Cabinet gael ei ad-drefnu sawl gwaith, cafodd Dawn Bowden AS ei phenodi yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mae ei chyfrifoldebau yn parhau i fod yn debyg iawn i’r rhai a oedd ganddi yn ei phortffolio blaenorol, pan fu’n gwasanaethu fel y Gweinidog Gofal Cymdeithasol. Felly, er bod disgwyl i randdeiliaid sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc groesawu’r ffaith bod y gair ‘plant’ wedi’i gynnwys yn nheitl y Gweinidog, maent yn debygol o ystyried pa wahaniaeth, os o gwbl, y bydd hyn yn ei wneud i bolisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru.  

Lleisiau plant a Thrydedd Senedd Ieuenctid  

Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant. Yn ganolog i hyn y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), sy’n cynnwys 54 o erthyglau sy’n nodi ystod eang o hawliau plant. Mae Erthygl 12, sy’n ymwneud ag oedolion yn parchu barn plant, yn cael ei chrynhoi fel a ganlyn gan UNICEF:  

Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i rywun wrando ar ei farn a chymryd y farn o ddifrif. Mae'r hawl hon yn berthnasol bob amser, er enghraifft yn ystod achosion mewnfudo, a phenderfyniadau ynghylch llety neu fywyd cartref bob dydd y plentyn. 

Yn ei hadroddiad, mae'r Comisiynydd yn dweud mai ei rôl yw “bod yma i bob plentyn” ac yn nodi mai dyna pam ei bod wedi “bwriadu cwrdd ag ystod amrywiol o blant a phobl ifanc”. Yn y flwyddyn a gwmpesir gan yr adroddiad, dywed y Comisiynydd ei bod wedi ymweld â phlant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Nododd Rocio Cifuentes hefyd fod ei swyddfa wedi lansio menter newydd ym mis Ionawr 2024, sef Materion Misol. Dywedodd y Comisiynydd ei bod wedi clywed gan “oddeutu 1500 o blant a phobl ifanc bob mis, ar bynciau gan gynnwys ciniawau ysgol, a blaenoriaethau ar gyfer y Prif Weinidog newydd.”  

Yn ogystal, dywedodd y Comisiynydd: 

Eleni, cyhoeddais hefyd ganfyddiadau fy arolwg cenedlaethol, Gobeithion i Gymru, yn seiliedig ar dros 10,000 o ymatebion, a lywiodd fy strategaeth tair blynedd newydd, ‘Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru’, gyda’r pedair blaenoriaeth strategol wedi’u nodi fel tlodi plant, iechyd meddwl, cydraddoldeb ac addysg/Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Yn ôl yn 2016, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig ei adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru, gan fynegi pryder nad yw safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn systematig wrth lunio polisïau ar faterion sy'n effeithio arnynt. Nododd nad oedd gan Gymru Senedd Ieuenctid, gan argymell y dylid sefydlu Senedd o’r fath fel blaenoriaeth. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cyffro yn y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer y Drydedd Senedd Ieuenctid ar ei anterth. Gall pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed gofrestru i bleidleisio tan 20 Tachwedd, a bydd y ffenestr ar gyfer yr etholiad ei hun ar agor rhwng 4 a 25 Tachwedd 2024. Gwnaeth y Senedd Ieuenctid Cyntaf a’r Ail Senedd Ieuenctid flaenoriaethu’r cwricwlwm, y diwrnod ysgol, iechyd meddwl a’r amgylchedd. Mater i aelodau’r Drydedd Senedd Ieuenctid fydd penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain wrth symud ymlaen. 

Mae Llywodraeth Cymru ei hun yn ariannu ffordd o ymgynghori â phlant a phobl ifanc, sef menter Cymru Ifanc. Yn ystod tymor yr hydref 2024, bydd yn gwahodd plant a phobl ifanc i ymuno â Sgwrs Fawr Cymru Ifanc. 

Barn y Comisiynydd am 2023-24  

Yn y rhagair i’w hadroddiad, mae’r Comisiynydd yn rhoi’r cyd-destun, gan nodi bod pwysau ariannol yn fater allweddol:  

Yn anffodus, eleni mae’r argyfwng costau byw wedi parhau i ddominyddu a difetha bywydau plant. O’r herwydd, rwyf wedi herio a siarad yn gryf ar y pwnc hwn, […]. 

Mae'r adroddiad yn nodi ei barn ac yn gwneud ystod eang o argymhellion ar gyfer newid ar draws meysydd polisi amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys y pedair blaenoriaeth a nodwyd ganddi, sef: cydraddoldebau; addysg / anghenion dysgu ychwanegol; tlodi plant; ac iechyd meddwl. Daw’r adroddiad i ben drwy edrych ymlaen at flaenoriaethau Rocio Cifuentes ar gyfer 2024-25, gan gynnwys: 

  • sut beth yw bod yn blentyn anabl yng Nghymru;  
  • lle mae plant yn byw yng Nghymru (tai a digartrefedd);  
  • parhau i gyflwyno adnoddau ‘Y Ffordd Gywir’ a chefnogi llawer mwy o gyrff cyhoeddus i weithredu dull hawliau plant;  
  • edrych ar systemau cwyno mewn ysgolion;  
  • gwaith Ymchwiliad Covid-19 y DU a fydd yn edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc;  
  • amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant mewn gofal amgen; a  
  • chwmpasu gweithdrefn gwyno enghreifftiol i blant gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Gallwch wylio Aelodau o’r Senedd yn trafod yr Adroddiad Blynyddol, a safbwynt y Comisiynydd ynghylch y gorffennol a'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ar Senedd TV ddydd Mawrth 15 Hydref.  

Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru