Bob blwyddyn, mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cyhoeddi ystod o ddata amaethyddol. Mae'r rhain yn cynnwys Arolwg Amaethyddol Mehefin, yr Arolwg o Fusnesau Ffermio a'r Cyfrifon Amaethyddol Cyfun.
Mae’r papur briffio hwn yn crynhoi’r data hyn, gan gyflwyno ystadegau allweddol ynghylch strwythur a chyfraniad economaidd y sector ffermio yng Nghymru. Mae’n cymharu nodweddion amaethyddiaeth yng Nghymru â chenhedloedd eraill y DU ac yn archwilio rhai newidiadau dros amser.
Erthygl gan Katie Devenish, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Katie Devenish gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r papur briffio hwn gael ei gwblhau.