Yn dilyn y pandemig COVID-19, mae cleifion yn aros yn hirach am ofal y GIG a llawdriniaethau wedi’u cynllunio. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd tua 734,700 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros i ddechrau triniaeth ysbyty.
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn parhau i fonitro perfformiad yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru i adfer gofal a gynlluniwyd. Roedd yn ystyried ei drydydd adroddiad monitro ar amseroedd aros y GIG yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar y penderfyniad i eithrio rhai arbenigeddau o’r targedau adfer hynny a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i’r miloedd o gleifion sy'n dal i aros am driniaeth GIG.
Mae saith arbenigedd wedi’u heithrio o’r targedau am eu bod yn “hynod o heriol”
Nid yw targed adfer Llywodraeth Cymru i ddileu amseroedd aros o ddwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023 yn cynnwys saith arbenigedd sy'n cael eu cydnabod fel rhai “hynod o heriol”. Dywed Llywodraeth Cymru fod gan yr arbenigeddau hyn niferoedd mawr yn aros cyn y pandemig COVID-19.
Y saith arbenigedd yw dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol, offthalmoleg, wroleg, gynaecoleg, trawma ac orthopedeg, a’r glust, y trwyn a’r gwddf.
Ffigur 1: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros yn hirach na dwy flynedd i ddechrau triniaeth yn yr arbenigeddau sydd wedi'u heithrio o darged adfer Llywodraeth Cymru
Mae cleifion sy'n aros am ofal trawma ac orthopedig (sy'n cynnwys gosod pen-glin a chlun newydd) yn aros yr amser hiraf am driniaeth GIG. Roedd 31,349 o lwybrau cleifion yng Nghymru yn aros dros flwyddyn i gael eu trin ar ddiwedd mis Mawrth am drawma ac orthopedeg – roedd tua 10,070 ohonynt wedi bod yn aros yn hirach na dwy flynedd.
Mae trawma ac orthopedeg yn cyfrif am bron i draean (31.7 y cant) o gyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy'n aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth.
Cyhoeddodd Archwilio Cymru ei adroddiad Gwasanaethau Orthopedig yng Nghymru – Mynd i'r Afael ag Ôl-groniad y Rhestr Aros ym mis Mawrth 2023. Canfuwyd bod angen gweithredu ar frys mewn modd cynaliadwy i fynd i'r afael â'r amseroedd aros orthopedig hir, ac y gallai gymryd tair blynedd neu ragor i’r rhestr aros orthopedig ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi dweud y bydd yr arbenigeddau heriol hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu yn 2023/24:
Rydym yn newid ffocws y grwpiau clinigol cenedlaethol yn y rhaglen gofal a gynlluniwyd i ddarparu arweinyddiaeth a her i rannu arferion da a chefnogi gweithredu ffyrdd newydd o weithio i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau a lleihau amseroedd aros yn y meysydd hyn.
Mae'r cynnydd o ran lleihau amseroedd aros y GIG yn araf ar draws gwasanaethau'r GIG
Mae’r saith arbenigedd sydd y tu allan i gwmpas targedau Llywodraeth Cymru i adfer gofal a gynlluniwyd yn cyfrif am 86 y cant (27,400) o’r llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth GIG.
Ar ben y saith arbenigedd ‘hynod o heriol’, roedd 17 o arbenigeddau eraill â llwybrau cleifion yn aros yn hirach na dwy flynedd ym mis Mawrth 2023.
Yn ogystal â hyn, mae 52,925 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf (h.y. cleifion ag anhwylderau sy’n aros i gael eu hasesu cyn penderfynu a oes angen triniaeth ysbyty arnynt).
Effaith amseroedd aros y GIG ar gleifion
Comisiynodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyfres o gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl sy’n aros am driniaeth GIG fel rhan o ymchwiliad yn 2022.
Clywodd y Pwyllgor gan ddyn 83 oed â phroblemau gyda'i glun, a gafodd ei atgyfeirio'n gyflym gan ei feddyg teulu i weld ymgynghorydd a'i roi ar restr aros y GIG yn gynnar yn 2019. Cynigiwyd pigiad steroid iddo ar ddau achlysur gwahanol i helpu i leddfu'r boen, ond gwrthododd am fod ei lawfeddyg wedi dweud wrtho: “bydd eich lle yn y ciw yn symud i’r gwaelod, gan y bydd y bwrdd iechyd yn ystyried eich bod wedi cael eich trin”.
Dywedodd yr ysbyty wrtho yn gynnar yn 2021 ei fod wedi cael ei symud o'r rhestr arferol i’r rhestr frys. Ar adeg ymchwiliad y Pwyllgor, nid oedd wedi clywed dim byd arall gan y GIG. Roedd wedi cael ei adael yn aros mewn poen, gydag ansawdd bywyd gwaeth, iechyd meddwl gwael, a diffyg hyder yn gyffredinol. Dywedodd:
Mae’n rhaid i mi ddweud, ers y Nadolig, mae fy ngobeithion a’m dyheadau wedi gostwng yn aruthrol. Rydw i'n gwybod bod fy nghyflwr wedi gwaethygu, mae'n rhaid i mi gerdded drwy’r tŷ gyda ffon gerdded nawr. Mae'r boen yn gyson ac mae’n cyrraedd y pwynt lle mae hyd yn oed gwneud paned o de yn ymdrech gorfforol a meddyliol.
Clywodd y Pwyllgor hefyd gan fenyw 28 oed a gafodd ddiagnosis o endometriosis yn 17 oed. Roedd hi wedi talu'n breifat i weld gynaecolegydd gan ei bod hi'n profi symptomau'r coluddyn ac eisiau sgan.
Yna, cafodd ddiagnosis o endometriosis ar y coluddyn a chafodd ei hychwanegu at restr aros y GIG (ni allai fforddio talu'n breifat am y llawdriniaeth). Dywedwyd wrthi fod y rhestr aros yn chwe blynedd a hanner. Dywedodd mai ychydig iawn o gymorth rheoli poen oedd ganddi, a’iei bod wedi’i gadael yn cymryd cyffuriau lladd poen cryf. Yn ogystal, dywedodd:
Rydw i’n gwneud fy ngorau ac yn teimlo mor ffodus i gael partner a theulu mor gefnogol sy'n deall yn iawn. Ond dwi’n dal i deimlo llawer o euogrwydd, dwi’n aml yn meddwl tybed a allwn i fod yn rhiant gwell iddi [fy merch 4 oed] oherwydd alla i ddim mynd i’r parc gyda hi. Ni allaf fynd â hi allan am dro gan fy mod i mewn cymaint o boen y rhan fwyaf o'r amser. Rydw i’n teimlo ei bod hi’n colli allan ar bethau na ddylai hi fod yn colli allan arnyn nhw.
Nid oes amheuaeth bod GIG Cymru'n dal i wynebu pwysau sylweddol, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn atgof arall bod pob rhan o'r GIG yn ei chael hi'n anodd.
Y tu ôl i'r ystadegau hyn mae cleifion yn aros mewn poen neu'n profi aflonyddwch i'w bywydau bob dydd, a dyna pam mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i fonitro'r cynnydd wrth fynd i'r afael ag ôl-groniad rhestrau aros y GIG: Amseroedd Aros y GIG – Adroddiad Monitro Tymhorol (Mehefin 2023).
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru