Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig newydd

Cyhoeddwyd 16/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1816" align="alignnone" width="300"]This is a picture of the Houses of Parliament Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae aelodaeth lawn Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Faterion Cymreig wedi'i chyhoeddi. Mae gan y Pwyllgor newydd chwe aelod o'r blaid Geidwadol, tri aelod o'r blaid Lafur, ac un aelod yr un o Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bwriedir i'r aelodau adlewyrchu cynrychiolaeth y pleidiau yn y Senedd yn gyffredinol.

Mae'r Pwyllgor wedi newid yn sylweddol ers y Senedd ddiwethaf gyda dim ond dau aelod o Bwyllgor 2010-15 ar ôl: y Cadeirydd, David TC Davies (Ceidwadwyr) a Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol). Bydd dau o'r aelodau Ceidwadol newydd yn gyfarwydd i'r rheini sydd â diddordeb yng ngwaith Cynulliad Cymru: Byron Davies ac Antoinette Sandbach, yr oedd y ddau yn Aelodau'r Cynulliad cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Newidiodd y system ar gyfer penderfynu pwy sy'n cadeirio Pwyllgorau Dethol drwy gyflwyno etholiadau yn 2010. Caiff Cadeiryddion Pwyllgorau eu hethol gan siambr Tŷ'r Cyffredin ac yna caiff aelodau'r Pwyllgor eu hethol o fewn eu pleidiau. Cafodd David TC Davies AS ei ailethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Faterion Cymreig yn ddiwrthwynebiad ar 17 Mehefin.

Dyma aelodau newydd y Pwyllgor ar Faterion Cymreig:

David T. C. Davies (Cadeirydd), Ceidwadwyr, Mynwy

Byron Davies, Ceidwadwyr, Gŵyr

Chris Davies, Ceidwadwyr, Brycheiniog a Sir Faesyfed

Dr James Davies, Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd

Carolyn Harris, Llafur, Dwyrain Abertawe

Gerald Jones, Llafur, Merthyr Tudful a Rhymni

Christina Rees, Llafur, Castell-nedd

Antoinette Sandbach, Ceidwadwyr, Eddisbury

Liz Saville Roberts, Plaid Cymru, Dwyfor Meirionnydd

Craig Williams, Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd

Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol, Ceredigion

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg