Y Pumed Cynulliad: Penodi’r Prif Weinidog a Gweinidogion

Cyhoeddwyd 06/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

6 Mai 2016 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o adeilad Llywodraeth Cymru Parc Cathays Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”), fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014, yn nodi mai Llywodraeth Cymru yw cangen weithredol y system wleidyddol ddatganoledig yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru. Penodi Prif Weinidog Cymru Yn dilyn pleidlais yn y Cynulliad, caiff Prif Weinidog Cymru ei benodi gan y Frenhines ar argymhelliad y Llywydd. Rhaid i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod. Os bydd y Cynulliad yn methu â gwneud enwebiad o fewn y cyfnod hwn, yna bydd yn ofynnol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gynnig dyddiad ar gyfer cynnal etholiad cyffredinol eithriadol. Yn 2011, oherwydd y gwnaeth Llafur ddatgan ar unwaith y byddai’n llywodraethu ar ei phen ei hun, cafodd Cafodd Carwyn Jones ei enwebu yn Brif Weinidog Cymru ar yr un diwrnod â’r Llywydd yn y Cyfarfod Llawn cyntaf. Yn 2007, fodd bynnag, o ganlyniad i drafodaethau hirfaith rhwng y pleidiau yn dilyn yr etholiad, ni chafodd Rhodri Morgan ei enwebu tan 25 Mai, 22 diwrnod ar ôl yr etholiad. Yn gyntaf, ffurfiodd Llywodraeth Lafur leiafrifol, ond cytunwyd ar glymblaid gyda Phlaid Cymru yn ddiweddarach. Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru Ar ôl iddo gael ei benodi gan y Frenhines, gall y Prif Weinidog, gyda chymeradwyaeth y Frenhines, benodi Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru o blith Aelodau’r Cynulliad. Mae Deddf 2006 yn pennu terfyn o 12 o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion, heb gynnwys y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol. Gall y Prif Weinidog ddiswyddo Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion ar unrhyw adeg ac ni fyddant yn parhau i fod yn Weinidogion os byddant yn ymddiswyddo o fod yn Aelodau Cynulliad. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu nad oes ganddo hyder bellach yng Ngweinidogion Cymru, mae’r Ddeddf yn darparu bod holl Weinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru yn ymddiswyddo ar unwaith. Penodi’r wnsler Cyffredinol Mae Deddf 2006 yn darparu ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru sy’n gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol iddi ac yn ei chynrychioli yn y llysoedd. Mae’r rôl hon yn cyfateb i rôl y Twrnai Cyffredinol a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn Llywodraeth y DU. Caiff y Cwnsler Cyffredinol ei benodi gan y Frenhines ar argymhelliad y Prif Weinidog, ond rhaid i’r argymhelliad hwn gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes yn rhaid i’r unigolyn a benodir fod yn Aelod Cynulliad, er y gallai Aelod Cynulliad fod yn Gwnsler Cyffredinol. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn glir y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei drin yr un fath â Gweinidogion Cymru yn ystod trafodion y Cynulliad. Yr un eithriad yw’r ffaith na fydd Cwnsler Cyffredinol nad yw’n Aelod Cynulliad yn gallu pleidleisio. Yn y Trydydd Cynulliad, bu Aelodau’r Cynulliad yn gweithredu fel Cwnsler Cyffredinol. Fodd bynnag, yn y Pedwerydd Cynulliad, cafodd Theodore Huckle QC, unigolyn allanol, ei benodi. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg