Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn creu Comisiwn y Cynulliad: corff sy’n darparu gwasanaethau i gefnogi Aelodau’r Cynulliad, ac yn endid cyfreithiol ar wahân i Lywodraeth Cymru.
Mae Deddf 2006 yn darparu ar gyfer proses sefydlu, aelodaeth a swyddogaethau y Comisiwn a darparu’r staff, yr eiddo a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad Cenedlaethol at ei ddibenion neu i drefnu bod y pethau hyn yn cael eu darparu iddo.
Penodi Aelodau’r Comisiwn
Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall.
Ar ôl etholiad y Cynulliad, rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol drafod cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes yn cynnig enwau’r pedwar Aelod sydd i’w penodi’n aelodau o’r Comisiwn o dan y Ddeddf.
Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i aelodau’r Comisiwn (heblaw’r Llywydd) berthyn i grwpiau gwleidyddol gwahanol.
Os oes pedwar neu fwy o grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, cyfrifoldeb arweinydd pob un o’r pedwar grŵp gwleidyddol mwyaf fydd rhoi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am enw yr Aelod a enwebir o’i grŵp gwleidyddol.
Os oes llai na phedwar grŵp gwleidyddol yn y Cynulliad, rhaid i arweinydd pob grŵp gwleidyddol roi gwybod i’r Pwyllgor Busnes am yr Aelod a enwebir o’i grŵp a bydd y Pwyllgor Busnes wedyn yn penderfynu ar enw unrhyw Aelod ychwanegol a fydd yn cael ei enwebu.
Os bydd gan ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un nifer o aelodau, rhaid i’r Llywydd benderfynu pa un ohonynt sydd i’w ystyried fel yr un mwyaf, gan ystyried lefel y gefnogaeth etholiadol sydd gan bob un o’r grwpiau gwleidyddol dan sylw.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Y Pumed Cynulliad: Penodi Comisiwn y Cynulliad
Cyhoeddwyd 06/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
6 Mai 2016
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru