Ar 28 Chwefror, lansiodd Israel a’r Unol Daleithiau ymosodiadau ar Iran, a wnaeth ddial gydag ymosodiadau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Kuwait, Bahrain, Arabia Saudi, Oman, Gwlad yr Iorddonen a Libanus.
Mae tîm Dwyrain Canol a Gogledd Affrica Llywodraeth Cymru wedi'i leoli ar draws dwy swyddfa yn Dubai (Emiradau Arabaidd Unedig), a Doha (Qatar). Mae’r ddwy swyddfa wedi'u lleoli y tu mewn i Lysgenadaethau Prydain.
Mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) wedi creu tudalen we gyda'r cyngor teithio diweddaraf ac yn annog y rhai yr effeithir arnynt i gofrestru i gael diweddariadau uniongyrchol.
Mae adroddiadau’n dweud bod Llywodraeth y DU yn paratoi cynlluniau i alluogi ‘o leiaf 200,000’ o wladolion Prydeinig i adael y rhanbarth os nad oes hediadau masnachol ar gael.
Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at ymatebion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r sefyllfa, rhwymedigaethau rhyngwladol Cymru, a materion masnach.
Y Prif Weinidog yn ymateb
Ar 28 Chwefror, ymatebodd y Prif Weinidog i'r sefyllfa ar X:
Mae'r sefyllfa bresennol yn Iran yn peri pryder mawr.
Mae pobl Iran wedi dioddef cyfundrefn ormesol ers amser maith - rwy'n glir na ddylai byth feddu ar arfau niwclear.
Rhaid i'n blaenoriaeth uniongyrchol fod ar ddad-ddwysáu, amddiffyn bywydau, ac adnewyddu diplomyddiaeth.
Mae ansefydlogrwydd yn y rhanbarth yn anochel yn cael effaith yma yng Nghymru. Rwy'n cefnogi gwaith Llywodraeth y DU i geisio llwybr tuag at heddwch. Mae cynnal cyfraith ryngwladol yn parhau i fod yn hanfodol.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth rhaglen Sunday Supplement BBC Wales ar 1 Mawrth:
The situation in Iran is deeply concerning, there will be people across Wales today who are following events really closely and some will have links with the region, some may even be visiting the region as we speak […]
It's clear that the people in Iran have endured a oppressive regime for several decades and I'm very clear that they should never be able to develop a nuclear weapon. But I think our priority now should be to deescalate. We need to protect civilian life andI think we've got to be clear that instability in the Middle East will have an impact here in Wales. I'm very clear that upholding international law should remain a red line for us. […]
There will certainly be an economic impact if you think about the Strait of Hormuz and the fact that there may be a blockage in terms of trade and the price of oil and things and that obviously will have a knock on effect. But I’m very clear that that is not the responsibility of the Welsh Government […]
Dywedodd y Prif Weinidog fod ganddi bryderon sylweddol am gydlyniant cymunedol, gan ychwanegu:
I want to make sure that there is protection for all our communities and we will all have a role in playing to make sure that we don't see those kind of tensions arise within our communities in Wales.
Yn ogystal ag adroddiadau o brisiau olew yn codi, mae adroddiadau am darfu ar y cyflenwad o nwy naturiol hylifol ym mhorthladd Aberdaugleddau yn dod i'r amlwg hefyd.
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi crynodeb o gyngor cyfreithiol
Ar 2 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog grynodeb o safbwynt cyfreithiol Llywodraeth y DU ar 'gyfreithlondeb gweithredu amddiffynnol mewn perthynas ag ymosodiadau rhanbarthol Iran':
The UK condemns in the strongest terms the Iranian regime’s reckless and ongoing indiscriminate attacks against countries in the region. Such actions demand a united response to restore peace and security and prevent further escalation of the conflict.
As well as defending itself and its position in the region, the UK is acting in the collective self-defence of regional allies who have requested support. The UK and its allies are permitted under international law to use or support force in such circumstances where acting in self-defence is the only feasible means to deal with an ongoing armed attack and where the force used is necessary and proportionate.
Accordingly, the UK has military assets flying in the region to intercept drones or missiles targeting countries not previously involved in the conflict. In addition, the UK has responded to a US request which will facilitate specific and limited defensive action against missile facilities in Iran which were involved in launching strikes at regional allies.
The UK’s actions and related support to its allies is solely focussed on ending the threat of air and missile attacks against regional allies unlawfully attacked by Iran and who have not been involved in hostilities from the outset. It does not signal the UK having any wider involvement in the broader ongoing conflict between the US, Israel and Iran.
The UK remains of the view that a negotiated solution should be supported, and that further escalation into a wider regional conflict should be avoided.
The Government will notify the United Nations Security Council of relevant actions taken under Article 51 of the United Nations Charter.
Mae Erthygl 51 o Siarter y Cenhedloedd Unedig yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau hysbysu'r Cyngor Diogelwch wrth arfer yr hawl i hunanamddiffyn yn unigol neu ar y cyd cyn iddo gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i gynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.
Datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol
Er bod cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gedwir yn ôl, mae modd i Lywodraeth Cymru weithredu ar lefel ryngwladol. Er enghraifft, gall gwblhau cytundebau nad ydynt yn rhwymol gyda llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig, a gall gynnal swyddfeydd rhyngwladol a chael cyfarfodydd â swyddogion cyfatebol o wledydd eraill.
Mae erthygl arall yn egluro’r rhan hon o ddatganoli a pham y gall llywodraethau datganoledig ymgymryd â gweithgarwch rhyngwladol.
Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a’u rhoi ar waith. Mae rhwymedigaethau rhyngwladol yn cwmpasu dyletswyddau ac ymrwymiadau cyfreithiol y mae'r DU wedi cytuno iddynt, neu reolau cyffredinol cyfraith ryngwladol.
Ac er nad yw'n ddyletswydd gyfreithiol, mae Cod Gweinidogol Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytuniadau.
Masnach
Marchnadoedd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yw’r Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Saudi Arabia, Kuwait, Oman, a Bahrain. Mae'r gwladwriaethau hyn yn ffurfio bloc masnach, Cyngor Cydweithredol y Gwlff sydd ar hyn o bryd mewn trafodaethau masnach gyda'r DU. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, yn bresennol yng nghyfarfod nesaf Gweinidogion y DU ar fasnach â'r Unol Daleithiau a Chyngor Cydweithredol y Gwlff ar 4 Mawrth. Bydd hi hefyd yn mynd i gyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyfer sesiwn graffu ar fasnach ar 5 Mawrth ochr yn ochr â'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies AS.
Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar a Saudi Arabia sy’n cyfrif am y mwyafrif o fasnach Cymru â'r rhanbarth. Mae’r ystadegau masnach nwyddau diweddaraf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, yn dangos mai allforion mwyaf gwerthfawr Cymru i wladwriaethau’r Cyngor oedd peiriannau ac offer cynhyrchu pŵer. Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig oedd ei fewnforion â’r gwerth mwyaf.
Mae'r tabl isod yn dangos safle pob un o wladwriaethau’r Cyngor ymhlith partneriaid masnach Cymru.
Partneriaid masnach Cymru: Safleoedd gwladwriaethau Cyngor Cydweithredol y Gwlff (yn ôl allforion/mewnforion a gwerth)
|
Partner masnachu |
Safle: allforion |
Safle: mewnforion |
|
Emiradau Arabaidd Unedig |
12 |
17 |
|
Qatar |
13 |
25 |
|
Saudi Arabia |
16 |
30 |
|
Kuwait |
63 |
14 |
|
Oman |
37 |
36 |
|
Bahrain |
84 |
99 |
Ffynhonnell: Ystadegau Llywodraeth Cymru:Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol blwyddyn yn gorffen Ch3 2025
Mae'r graff isod yn cymharu'r gwerth diweddaraf mewn masnach rhwng Cymru a phob gwladwriaeth unigol Cyngor Cydweithredol y Gwlff â chyfnodau blaenorol.
Masnach gyda gwladwriaethau Cyngor Cydweithredol y Gwlff: cyfanswm gwerth nwyddau yn ôl blwyddyn

Mae masnach Cymru gydag Israel, Gwlad yr Iorddonen a Libanus yn llawer llai. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, cyfanswm gwerth y nwyddau a oedd yn cael eu masnachu gydag Israel oedd £87.5 miliwn. Gyda Gwlad yr Iorddonen, y ffigur oedd £40.8 miliwn a’r ffigur ar gyfer Libanus oedd £7.0 miliwn. Nid yw Cymru'n masnachu ag Iran, sy'n destun dros 600 o sancsiynau yn y DU.
O'r gwladwriaethau sy'n rhan o'r gwrthdaro, yr Unol Daleithiau yw partner masnach mwyaf Cymru o bell ffordd. Roedd masnach nwyddau rhwng Cymru ac UDA yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025 yn werth cyfanswm o £5.9 biliwn. O blith y gwledydd unigol sy'n mewnforio i Gymru, yr Unol Daleithiau yw'r mwyaf o ran gwerth, gyda ffigur sydd gryn dipyn yn uwch na Tsieina.
Bydd yr erthygl hon yn parhau i gael ei diweddaru wrth i'r gwrthdaro ddatblygu.
Erthygl gan Sara Moran, Madelaine Phillips a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru