Llun o fenyw a phlentyn

Llun o fenyw a phlentyn

“Y mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru” – mynd i'r afael â thlodi plant

Cyhoeddwyd 25/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae tlodi plant wedi bod yn her barhaus i Lywodraethau olynol Cymru, ac mae costau byw cynyddol ond wedi dwysáu’r her honno. Mae Comisiynydd Plant Cymru’n dweud mai tlodi “yw’r mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru, a thasg fwyaf Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael â thlodi’n effeithiol”.

Cyn i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ddechrau ei ymchwiliad i dlodi plant heddiw, beth mae'r data diweddaraf yn ei ddweud am dlodi plant? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi plant, a sut y bydd ei strategaeth newydd yn ceisio ymgodymu â’r broblem mewn cyfnod o bwysau cyllidebol?

Beth mae’r data diweddaraf ar gyfer tlodi plant yn ei ddweud wrthym?

Beth yw mesur swyddogol tlodi plant?

Ystyrir bod plentyn mewn tlodi cymharol os yw incwm yr aelwyd mae’n byw arni yn disgyn yn is na 60% o ganolrif y DU (sef y gwerth canol mewn rhestr o rifau sydd wedi'u trefnu o'r lleiaf i'r mwyaf).

Yng Nghymru, mae plant yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall, ac mae’r gyfradd tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn gyson uwch na’r ffigur yn yr Alban a Gogledd Iwerddon dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol ar ôl i gostau tai gael eu hystyried. Gostyngodd y gyfradd tlodi plant yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli, gan godi eto yn ystod argyfwng ariannol 2008, ac mae’r raddfa wedi amrywio ers hynny.

Canran y plant sy’n byw ar aelwydydd â llai na 60% o incwm canolrif cyfoes yr aelwyd ar ôl costau tai (cyfartaledd 3 blynedd), yn ôl gwlad, a rhanbarth yn Lloegr

Defnyddiwch y blychau ar y chwith i ddewis blynyddoedd gwahanol, neu gwasgwch chwarae i animeiddio.

Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau: Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog

Mae canran y plant sy’n byw mewn tlodi ar aelwyd lle mae o leiaf un oedolyn yn gweithio wedi cynyddu’n sylweddol ers argyfwng ariannol 2008. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae gan dros 80% o’r plant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi o leiaf un rhiant mewn gwaith.

Graff yn dangos canran y plant sy'n byw mewn tlodi sydd ag o leiaf un rhiant mewn gwaith.

Ffynhonnell: StatsCymru, Plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd (mae’r blynyddoedd yn ymwneud â blynyddoedd ariannol – h.y. mae 2008-10 yn golygu blynyddoedd ariannol 2007-08 i 2009-10)

Ar lefel leol, gwelwn mai plant sy’n byw yn y Rhondda, Cwm Cynon a Blaenau Gwent sydd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi cyn ystyried costau tai. Wedi ystyried costau tai, plant yn y Rhondda, Dwyrain Casnewydd a De Caerdydd a Phenarth sydd fwyaf tebygol o fyw mewn tlodi.

Dewiswch cyn neu ar ôl cynnwys costau tai (mae’r mapiau’n defnyddio ffynonellau data gwahanol):
Cyn costau tai
Ar ôl costau tai

Canran y plant o dan 16 oed sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel cymharol fesul etholaeth seneddol

 

Ffynhonnell: Adran Gwaith a Phensiynau, Plant mewn Teuluoedd Incwm Isel – ystadegau ardaloedd lleol

Canran y plant o dan 16 oed sy'n byw mewn tlodi (ar ôl costau tai) fesul etholaeth seneddol

 

Ffynhonnell: Ystadegau tlodi plant – y Glymblaid Rhoi Terfyn ar Dlodi Plant

Sut mae tlodi yn effeithio ar gyfleoedd bywyd plant?

Mae tlodi plant yn effeithio ar gyfleoedd bywyd plant, cyrhaeddiad addysgol, iechyd, a rhagolygon gwaith yn y dyfodol. Dyma rai o’r prif effeithiau:

  • Yn 2021-22, roedd disgyblion yng Nghymru a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 19 pwynt canran yn llai tebygol o gael A* neu A mewn TGAU na disgyblion nad oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Roedd disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim 28 pwynt canran yn llai tebygol o gael A* i C mewn TGAU na disgyblion nad oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Mae cyfradd marwolaethau plant yng Nghymru 70% yn uwch ar gyfer plant yn y grwpiau mwyaf difreintiedig nag y mae ar gyfer y plant lleiaf difreintiedig.
  • Mae Arolwg Carfan y Mileniwm yn dangos bod plant tlawd bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn iddynt droi'n 11 oed.
  • Mae cysylltiad clir rhwng amddifadedd plentyndod a diweithdra a/neu fyw mewn tlodi fel oedolyn; yn y DU, mae’r cysylltiadau rhwng y rhain gyda’r cryfaf ymysg gwledydd Ewrop.

Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi plant?

Mae Budd-dal y Dreth Gyngor a’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi’u datganoli i Gymru, ond mae ysgogiadau nawdd cymdeithasol allweddol wedi’u cadw yn ôl gan Lywodraeth y DU, ynghyd â chyfraith cyflogaeth. Er gwaethaf hyn, mae nifer o ysgogiadau eraill o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant.

Ers dechrau’r Senedd hon ym mis Mai 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, cynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ac ehangu mynediad at gynllun Dechrau’n Deg yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ac mae wedi dechrau ehangu gofal plant am ddim ar gyfer rhieni sy'n gweithio sydd â phlant 2 oed.

Fodd bynnag, daeth ei hadroddiad cynnydd diweddaraf ar y strategaeth tlodi plant i'r casgliad a ganlyn:

Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni i hyrwyddo ffyniant, i atal a lliniaru tlodi ac i leihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, mae tlodi'n parhau i fod yn fater treiddiol.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal ymchwil ar strategaethau, polisïau a rhaglenni effeithiol yn erbyn tlodi i gyfoethogi’r strategaeth tlodi plant ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Mehefin. Amlygodd yr ymchwil hon bum ystyriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru, sef: sut mae ei strategaeth yn blaenoriaethu ymdrechion presennol ac yn adeiladu arnynt; y cymysgedd polisi cywir i gyflawni'r blaenoriaethau hyn; sut y bydd cyrff yn cydweithio a bod yn atebol; sut y caiff cynnydd ei fonitro; a sut mae'n cynnwys y bobl y mae'n ceisio eu cefnogi.

Gwnaeth strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ymgynghori ar bum amcan drafft:

  • lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
  • sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Beth fu’r ymateb cychwynnol i’r strategaeth ddrafft?

Er i sefydliadau groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bolisïau sy’n lleihau tlodi plant, megis y prydau ysgol am ddim i bob plentyn, maent hefyd wedi awgrymu bod lle i wella yn y strategaeth ddrafft.

Mae Barnardo’s Cymru wedi mynegi siom “nad yw’r strategaeth wedi manteisio ar y cyfle i fod yn llawer mwy uchelgeisiol i gefnogi’r plant a’r teuluoedd sydd fwyaf ei angen”.

Daeth Sefydliad Bevan i’r casgliad bod y strategaeth ddrafft ar ei chryfaf wrth ddwyn ynghyd y rhaglenni presennol sydd eisoes yn cael eu gweithredu ac ar ei gwannaf o ran syniadau a mentrau newydd.

Nid yw'r strategaeth ddrafft yn cynnwys unrhyw dargedau mesuradwy: yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn defnyddio ei cherrig milltir cenedlaethol i fesur cynnydd a bydd yn ceisio cyngor annibynnol ar ddangosyddion tlodi ychwanegol. Dywedodd y Comisiynydd Plant:

Mae’n hynod o bwysig bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â dogfen strategaeth tlodi plant lefel uchel, yn cyhoeddi cynllun cyflawni penodol a mesuradwy. Mae hyn angen cynnwys targedau clir sy’n dangos sut a phryd bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ymyriadau penodol sy’n cyflawni amcanion eang eu strategaeth.

Beth sydd nesaf?

Yn ôl y Resolution Foundation, yn 2027-28, disgwylir i dlodi plant yn y DU fod ar ei uchaf ers 30 mlynedd, a bydd hyn yn effeithio’n arbennig ar deuluoedd mwy oherwydd y terfyn dau blentyn, y cap ar fudd-daliadau, a’r ffaith bod cyfraddau Lwfans Tai Lleol wedi’u rhewi. Gyda hynny o gefndir, bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol yn ei hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant. Ai ei ddull arfaethedig yw’r un gorau i leihau tlodi plant yng nghyd-destun ehangach y DU ac o fewn ei phwerau datganoledig?

Gallwch ddilyn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Senedd.tv.


Erthygl gan Gareth Thomas a Siân Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru