Ar 31 Mawrth 2025, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) i’r Senedd. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro bod y Bil:
… yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o broses ddiwygio ehangach “un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn” ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y Bil yn ail-reoleiddio’r sector. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn dweud mai’r “bwriad yw rhagdybio mai masnachfreinio fydd y prif fecanwaith ar gyfer darparu gwasanaethau”.
Gall masnachfreinio fod ar sawl ffurf gwahanol. Ond yn gyffredinol mae awdurdodau cyhoeddus yn dyfarnu contractau unigryw i weithredwyr bysiau sy'n bidio i ddarparu gwasanaethau yn gyfnewid am ffi.
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. Cyhoeddwyd adroddiadau gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Pam mae angen y Bil?
Mae gwasanaethau bysiau ym Mhrydain, y tu allan i Lundain, wedi cael eu dadreoleiddio ers 1986. Mae gweithredwyr yn cynllunio'r rhan fwyaf o wasanaethau bysiau, tocynnau a phrisiau eu hunain. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau rhwydwaith effeithiol ond mae ganddynt bwerau cyfyngedig i wneud hynny.
Mae cyflwr presennol gwasanaethau bysiau Cymru wedi cael ei godi fel pryder gan deithwyr, yn ogystal â chynrychiolwyr y diwydiant bysiau. Yn 2023, gwnaethom gyhoeddi erthygl yn tynnu sylw at y ffaith bod teithiau teithwyr bws wedi gostwng ym Mhrydain Fawr (y tu allan i Lundain) ers dau ddegawd. Mae Cymru wedi gweld gostyngiad hirdymor yn y pellter a deithir gan fysiau lleol tra bod costau gweithredu wedi goddiweddyd refeniw.
Mae achosion hirdymor y gostyngiad hwn yn cynnwys costau gweithredu cynyddol, a newidiadau yn y galw sy'n cael eu gyrru gan ffactorau fel siopa ar-lein, perchnogaeth ceir, prisiau cynyddol ac effaith tagfeydd / lleihad mewn cyflymder bysiau ar economeg gweithrediadau bysiau. Gwnaeth COVID-19 hefyd effeithio ar wasanaethau bysiau yng Nghymru yn fwy na gweddill Prydain Fawr, ac mae’r adferiad wedi bod yn arafach.
Beth mae’r Bil yn ei wneud?
Nod y Bil yw cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u nodi yn ei Phapur Gwyn 2022. Dywed y Memorandwm Esboniadol ei fod yn “rhan o broses ddiwygio ehangach “un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn” ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru”. Mae ganddo dri amcan:
- Cyflwyno masnachfreinio ledled Cymru, gyda Gweinidogion Cymru fel yr ‘awdurdod masnachfreinio’, datblygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru yn manylu ar lwybrau, a chontractio â gweithredwyr. Yn ymarferol, Trafnidiaeth Cymru fydd yn rheoli'r broses a bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig awdurdodau lleol yn helpu i gynllunio’r rhwydwaith.
- Dileu cyfyngiadau statudol ar awdurdodau lleol i sefydlu cwmnïau bysiau ‘cyngor’, a allai olygu mwy o gwmnïau bysiau sy'n eiddo i'r cyngor fel Bws Caerdydd a Bws Casnewydd.
- Sefydlu darpariaethau rhannu data newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sicrhau bod data ar gael i Weinidogion Cymru ac i'r cyhoedd.
Mae'r Bil yn cyfeirio at ‘gontractau gwasanaeth bysiau lleol’, yn hytrach na ‘masnachfreintiau’. Fel y mae’r papur diweddar hwn a gomisiynwyd gennym gan Brifysgol Leeds yn dangos, gall contractau gwasanaeth bysiau fod ar sawl ffurf. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bwriadu gweithredu model cost gros gyda chymhellion – sy'n golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn refeniw prisiau, gan dalu ffi i weithredwyr gyda chymhellion i annog perfformiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd masnachfreinio yn darparu mwy o sefydlogrwydd, prisiau gwell ac integreiddio â dulliau eraill, ac yn caniatáu croes-gymorthdaliadau ar gyfer gwasanaethau, gyda llwybrau a rhanbarthau mwy proffidiol yn cefnogi rhai llai proffidiol.
Er mai masnachfreinio fydd y prif fecanwaith cyflawni, mae'r Bil yn cynnwys trefniadau i wasanaethau weithredu o dan drwyddedau. Gallai'r rhain fod naill ai ar ysgogiad Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswyddau, neu gan y gweithredwyr eu hunain. Er enghraifft, gellid defnyddio'r rhain ar gyfer rhan Gymreig o wasanaeth trawsffiniol Lloegr neu i roi cynnig ar wasanaeth arloesol newydd.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru weithredu gwasanaethau'n uniongyrchol (yn ymarferol drwy Trafnidiaeth Cymru). Bwriedir i hyn fod yn berthnasol fel opsiwn ‘Gweithredwr y Dewis Olaf' pe bai contract masnachfraint yn methu.
Beth wnaeth pwyllgorau’r Senedd ei ganfod?
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cydnabod yr angen am y Bil, ac argymhellodd y dylai'r Senedd gefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Fodd bynnag, cododd nifer o faterion.
Dywedodd ei fod yn rhannu pryderon rhanddeiliaid bod y Bil yn brin o fanylion, heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer canllawiau statudol. Amlygodd rhanddeiliaid lawer o feysydd nad oeddent yn glir amdanynt, a lle roeddent yn teimlo bod angen arweiniad.
Dywedodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd, wrth wneud sylwadau ar bwerau penodol, ei fod yn “yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a’r hyn sydd i’w gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth.”
Cododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith bryderon ynghylch fforddiadwyedd masnachfreinio, a nododd yr angen am “gapasiti sefydliadol sylweddol yn TrC” i gyflawni’r dull newydd. Ymwelodd y Pwyllgor â Manceinion, y lleoliad cyntaf ym Mhrydain Fawr i symud o ddadreoleiddio i fasnachfreinio. Clywodd pa mor ddrud, cymhleth a heriol y bu’r broses o ddarparu Rhwydwaith Bee Manceinion – ac yn enwedig yr anhawster o ymgysylltu â gweithredwyr bysiau busnesau bach a chanolig sydd mor gyffredin yng Nghymru ac yn hanfodol i wasanaethau bysiau cyhoeddus a bysiau ysgol.
Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor Cyllid ei fod yn “fodlon, ar y cyfan”, â’r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil. Fodd bynnag, nododd hefyd heriau o ran rhagweld tymor hir yn ogystal â goblygiadau i fusnesau bach a chanolig, a galwodd am fwy o eglurder mewn rhai meysydd megis cost “rhwydwaith dyheadol” Trafnidiaeth Cymru.
Tynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith sylw at bryderon rhanddeiliaid ynghylch rôl awdurdodau lleol yn y dyfodol. Roedd tystiolaeth llywodraeth leol yn dadlau dros rôl fwy canolog i gynghorau, sy’n gyllidwyr allweddol ar gyfer gwasanaethau bysiau, sydd â gwybodaeth leol a bydd ganddynt rôl barhaus hefyd wrth reoli priffyrdd a seilwaith bysiau lleol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn credu y bydd masnachfreinio yn caniatáu mwy o reolaeth dros gyllid, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon. Pwysleisiodd, yn ymarferol, y bydd gan awdurdodau lleol rôl llawer mwy na’r hyn y mae nifer o bobl hyd yn hyn wedi’i werthfawrogi.
Roedd teithio gan ddysgwyr yn faes pryder eang arall. Er enghraifft, nododd y Comisiynydd Plant, yn 2023 fod adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud y byddai masnachfreinio yn caniatáu i ysgolion a cholegau gael eu hystyried wrth gynllunio'r rhwydwaith. Ond nid oedd hyn yn glir yn y Bil.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod teithio gan ddysgwyr y tu allan i gwmpas y Bil, gan barhau i fod yn gyfrifoldeb awdurdod lleol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y gallai Trafnidiaeth Cymru ystyried a oes unrhyw gyfleoedd o gwbl i weithio ochr yn ochr â darpariaeth teithio i ddysgwyr.
Gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gyfanswm o 39 argymhelliad mewn ystod o feysydd, gan gynnwys:
- cynnig Siarter Teithwyr;
- y dylai datganiad polisi nodi sut y bydd teithio gan ddysgwyr yn cael ei ystyried mewn masnachfraint;
- ffurfioli rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r Cynllun Rhwydwaith Bysiau;
- camau i helpu busnesau bach a chanolig i ymgysylltu â masnachfraint;
- sut y bydd croes-gymorthdaliadau yn gweithredu;
- manylion sut y bydd trwyddedu a darpariaeth uniongyrchol yn gweithredu; a
- nodi meysydd lle byddai canllawiau yn cael eu croesawu.
Beth sydd nesaf?
Mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Ein Map Ffordd i Fasnachfreinio sy’n manylu ar yr hyn a gynlluniwyd a sut y caiff ei weithredu.
Os bydd y Senedd yn cytuno ar y Bil, disgwylir i fasnachfraint bysiau gael ei chyflwyno mewn pedair ‘ardal fasnachfraint’ ranbarthol rhwng 2027 a 2030. Clywodd y Pwyllgor gan Trafnidiaeth Cymru am y gwaith helaeth sydd eisoes ar y gweill, ond mae'r dasg o'n blaenau yn enfawr.
Bydd y Senedd eisiau bodloni ei hun yn y ddadl yng nghyfnod 1, a thrwy'r camau dilynol, fod y Bil hwn yn darparu'r fframwaith i adeiladu rhwydwaith uchelgeisiol arno.
Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddeunyddiau ar wasanaethau bysiau, masnachfreinio a'r Bil sydd ar gael ar ein tudalen Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru): tudalen adnoddau.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru