Llun o grŵp o bobl mewn cylch gyda breichiau o amgylch ysgwyddau eu gilydd. Ymddengys fod y grŵp, sy’n amrywiol ei natur, yn hapus.

Llun o grŵp o bobl mewn cylch gyda breichiau o amgylch ysgwyddau eu gilydd. Ymddengys fod y grŵp, sy’n amrywiol ei natur, yn hapus.

Y llwybr at Gymru wrth-hiliol: cau'r bwlch gweithredu

Cyhoeddwyd 11/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn wynebu gwahaniaethau sylweddol ym meysydd tai, addysg, cyflogaeth a gofal iechyd. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud y bu meysydd o newid cadarnhaol wrth leihau anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd o’r farn bod llawer i'w wneud o hyd i sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn profi hiliaeth a gwahaniaethu yn eu bywydau bob dydd.

Mae dileu hiliaeth wedi bod yn amcan hirsefydlog i sawl un o Lywodraethau Cymru. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth bresennol Cymru yn gosod cyfeiriad newydd ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu, gan alw am ddim goddefgarwch tuag at anghydraddoldeb hiliol.

Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030’ ar 12 Mehefin, mae'r erthygl hon yn edrych ar y camau y mae rhanddeiliaid allweddol yn dweud y dylid eu cymryd i greu Cymru heb wahaniaethu. Mae ein herthygl o fis Hydref 2021 yn nodi'r grymoedd y tu ôl i'r Cynllun Gweithredu.

Dull 'gwrth-hiliol': Beth sy'n wahanol am y Cynllun?

Mae dulliau traddodiadol o ymdrin â chyfle cyfartal yn ceisio sicrhau bod unigolion yn cael cyfle teg a chyfleoedd i gymryd rhan mewn cymdeithas (er enghraifft, drwy wneud cais am swydd yn ddienw). Yn yr un modd, mae dulliau traddodiadol o hyrwyddo amrwyiaeth a chynhwysiant yn hyrwyddo’n rhyngweithiol brosesau i gynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol.

Mae gwrth-hiliaeth yn mynd y tu hwnt i'r ddau ddull ac mae'n safiad rhagweithiol. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dadlau bod gwrth-hiliaeth yn ddull mwy cynhwysfawr.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn esbonio bod gwrth-hiliaeth yn cynnwys:

… mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu polisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i grwpiau ethnig lleiafrifol. Mae’n golygu bod angen inni gydnabod, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy anwybyddu hiliaeth, y gallwn ganiatáu iddi barhau.

Nod y Cynllun Gweithredu yw sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 ac mae'n nodi'r amcanion polisi a'r camau gweithredu a gymerir rhwng 2022 a 2024 i gyflawni hyn.

Rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Gweithredu a daethant i'r casgliad bod angen gwneud rhagor o waith os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol. Roedd sefydliadau a rannodd eu safbwyntiau gyda'r Pwyllgor yn cymeradwyo gweledigaeth a chwmpas cynhwysfawr y Cynllun. Ond cododd y rhan fwyaf bryderon am weithrediad a chyfradd y cynnydd.

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer 2022-23 yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch “rhwng polisi ac ymarfer” y mae'n cytuno sydd wedi "wedi amharu ar y gallu i roi mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth blaenorol ar waith". Tra bod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn nodi materion gweithredol mewn tri maes polisi: iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol, roedd yn canolbwyntio ar weithredu'r Cynllun Gweithredu yn gyffredinol. Trwy ei waith nododd y Pwyllgor dri maes strategol lle mae angen gweithredu i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn cael ei weithredu'n llwyddiannus.

Ffigur 1: Meysydd allweddol i sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn cael ei weithredu'n llwyddiannus – a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Mae’r llun yn dangos tri maes allweddol (arwain, cydweithio a monitro) i sicrhau gweithrediad llwyddiannus ArWAP – a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

Ffynhonnell: Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac Ymchwil y Senedd

Arweinyddiaeth: a yw Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd?

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun Gweithredu yn gyffredinol.

Fodd bynnag, mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a darparwr addysg y GIG Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru hefyd arwain drwy esiampl a gweithredu fel model rôl i sefydliadau eraill.

Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn cwestiynu a oedd Llywodraeth Cymru wedi arwain drwy esiampl ac wedi cyrraedd ei thargedau ei hun i gynyddu amrywiaeth ei gweithle. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor i gynyddu ei hymdrechion i sicrhau bod ei gweithlu yn fwy amrywiol. Fodd bynnag, rhoddodd amod ar hyn gan nodi y byddai’r cynnydd yn dibynnu ar gyllidebau sefydliadol.

Roedd sefydliadau hefyd yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid angenrheidiol i weithredu'r cynllun. Honnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod ansicrwydd ariannol wedi arwain at lywodraeth leol yn gohirio bwrw ymlaen â’r camau gweithredu sy’n ddwys o ran adnoddau megis hyfforddiant nes bod safbwynt Llywodraeth Cymru ei hun yn dod yn glir.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad o'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r Cynllun Gweithredu ym mhob blwyddyn sydd i ddod. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn amhosib gwneud hynny gan fod y cynllun yn torri ar draws sawl maes polisi.

Cydweithredu: Pwy sy'n ymwneud â chyflawni'r Cynllun?

Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi bod angen ymdrech ar y cyd gan nifer o gyrff gwahanol i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl. Mae’n nodi bod y Cynllun yn “rhywbeth i bob gwasanaeth cyhoeddus, a sector arall ym mha le bynnag y gallwn ddylanwadu arnynt.”

Fodd bynnag, dywedodd sawl sefydliad, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Sir Fynwy nad oeddent yn sicr ynghylch eu rôl a’u cyfrifoldebau o ran cyflawni’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gwneud hyn yn gliriach drwy sicrhau bod gan bob cam gweithredu arweinydd dynodedig ac yn nodi'n glir pa sefydliadau fydd yn darparu cymorth.

Monitro: Sut ydym ni’n gwybod a oes cynnydd wedi'i wneud?

Mae'r Cynllun Gweithredu yn gosod nodau a chamau gweithredu ond nid yw'n cynnwys targedau mesuradwy allweddol i helpu i benderfynu a oes cynnydd yn cael ei wneud. Mae rhai sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni'r Cynllun wedi dweud eu bod yn ansicr ynghylch pa waith monitro y mae'n ofynnol iddynt ei gyflawni. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod “trefniadau ar gyfer monitro’r cynllun yn aneglur ar hyn o bryd”.

Mae’r Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil yn un o dair uned ddata a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i lywio polisïau cyhoeddus. Bydd yn allweddol wrth gasglu data y gellir eu defnyddio i fonitro cynnydd y Cynllun Gweithredu. Fodd bynnag, mae sawl sefydliad wedi dweud nad oedd yn glir iddynt pa ddata roedd yr Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi'u casglu. Dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) nad ydynt "yn ymwybodol o unrhyw gynnydd penodol a wnaed gan yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil o ran coladu data fel y mae’n ymwneud ag addysg uwch neu’n goleuo addysg uwch".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cynnydd wedi’i wneud yn y maes hwn ac mae'r Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil wedi datblygu fframwaith gwerthuso, gan ddisgwyl adroddiad erbyn mis Hydref 2024.

Y camau nesaf?

Fel y daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'r casgliad, mae maint a gweledigaeth y cynllun i'w groesawu ond bydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 yn cael eu tanseilio os bydd y Cynllun:

  • ddim yn dod â phawb sy'n gallu ysgogi newid at ei gilydd;
  • ddim yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gwneud gwahaniaeth;
  • ddim yn gosod targedau i fesur y cynnydd sy’n cael ei wneud.

Mae ymatebion i ymchwiliad y Pwyllgor yn awgrymu bod angen rhagor o waith i nodi'n well sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r uchelgais. Mae Adroddiad Blynyddol (2022-23) y Cynllun Gweithredu yn cydnabod bod “llawer o waith i’w wneud a bod heriau o’n blaen” ond mae'n dweud am Lywodraeth Cymru fod ei “hymrwymiad i hyrwyddo gwrth-hiliaeth yn gryf o hyd”.

Mae fersiwn nesaf y Cynllun Gweithredu, sy'n cwmpasu 2024-26, ar y gweill. Byddwn wedyn yn gweld sut mae'r llywodraeth yn bwriadu ymateb i’r pryderon a godwyd.

Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn fyw ar Senedd TV ar 12 Mehefin.

Os yw unrhyw un o’r materion a godwyd yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch a hoffech gael cymorth, sylwer bod cymorth cyfrinachol am ddim ar gael drwy linell gymorth BAME Cymru neu ewch i Mae casineb yn brifo Cymru | LLYW.CYMRU


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru