Mae lefelau a threfniadau cyllido datblygu rhanbarthol wedi bod yn destun gwleidyddol a dadleuon dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr Adolygiad Gwariant yn gynharach eleni nododd Llywodraeth y DU brif fanylion ei Chronfa Twf Lleol arfaethedig newydd, a fydd yn disodli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin o fis Ebrill 2026. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r Gronfa Twf Lleol yng Nghymru.
Ar 7 Tachwedd, agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei chynlluniau ar gyfer y gronfa. Mae'r erthygl hon yn esbonio sut y bydd ei chynigion yn gweithio, sut maen nhw'n cymharu â chronfeydd datblygu rhanbarthol blaenorol, a beth sydd i'w benderfynu o hyd am y gronfa.
Sut y bydd y gronfa yn gweithredu?
Bydd y Gronfa Twf Lleol yn gweithredu ledled y DU, er y bydd trefniadau gwahanol ar gyfer cyflenwi ar draws gwledydd y DU.
Llywodraeth Cymru fydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli'r Gronfa yng Nghymru, a bydd yn atebol i Lywodraeth y DU ac i'r Senedd am ei pherfformiad o ran ei rheoli. Bydd cyllid yn cael ei ryddhau'n flynyddol gan Lywodraeth y DU, yn amodol ar broses adolygu flynyddol. Bydd hyn yn newid y broses o'r trefniadau presennol o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, lle mae Llywodraeth y DU wedi gweithio'n uniongyrchol ag awdurdodau lleol, gan osgoi Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu tair thema eang ar gyfer y gronfa – cymorth i fusnes; cymorth sgiliau a gwaith ar gyfer twf; a galluogi seilwaith twf lleol. Amcan Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yw "[c]efnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru".
Cyfalaf fydd y rhan fwyaf o'r cyllid, gyda swm llai o refeniw ar gael. Mae hyn yn wahanol i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gyda llawer o'r cyllid wedi bod yn refeniw a Llywodraeth flaenorol y DU yn defnyddio'r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer prosiectau cyfalaf lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau tair blynedd o gyllid refeniw a chyfalaf i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig bod gan y Gronfa Twf Lleol elfennau ar gyfer Cymru gyfan, elfennau rhanbarthol ac elfennau lleol. Mae'n bwriadu gweithio gyda phartneriaid i ganfod nifer o 'ymyriadau cenedlaethol', a bydd yn asesu'r achosion busnes a gyflwynir gan y rhain, a fydd yn cael eu cynllunio a'u cyflawni gan "y sefydliad mwyaf priodol".
Bwriad Llywodraeth Cymru yw y caiff mwyafrif y Gronfa Twf Lleol ei chynllunio, ei blaenoriaethu a’i rheoli ar lefel ranbarthol, er nad yw'r cydbwysedd rhwng cyllid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol wedi'i benderfynu eto. Mae'n bwriadu cefnogi'r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig i arwain y gwaith hwn, yn dilyn cyfnod pontio lle mae'n disgwyl defnyddio strwythurau cyflawni presennol y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig methodoleg ar gyfer dyrannu cyllid i wahanol ardaloedd o Gymru yn yr ymgynghoriad, ond mae'n galw am farn ar sut y dylid penderfynu ar hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun buddsoddi ar gyfer y tair blynedd o gyllid, gyda’r bwriad o’i gyflwyno i Lywodraeth y DU yn gynnar y flwyddyn nesaf fel y gellir trosglwyddo cyllid i Lywodraeth Cymru.
Sut y mae lefel y cyllid yn cymharu â mentrau blaenorol?
Mae Llywodraeth y DU yn darparu £547 miliwn i Gymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol rhwng 2026-27 a 2028-29, sydd tua £182 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn llai na’r hyn a gafwyd o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfeydd Strwythurol yr UE.
Mae mwy nag un ffordd o ystyried faint o gyllid sydd wedi'i leihau o'i gymharu â'r cyllid a gafwyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Un ffordd a gymerwyd yw edrych arno mewn perthynas â’r £585 miliwn a ddyrannwyd i Gymru o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin rhwng 2022 a 2025, a fyddai'n awgrymu gostyngiad o £38 miliwn, neu tua 6.5% mewn termau arian parod.
Un arall yw edrych ar y £343 miliwn a ddyrannwyd i Gymru drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2024-25, a chymharu hyn â'r dyraniad blynyddol o £182 miliwn gan y Gronfa Twf Lleol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am i Gymru gael yr uchaf o naill ai 22.5% o gyfanswm dyraniad y DU ar gyfer y gronfa, neu £343 miliwn y flwyddyn wedi'i uwchraddio ar gyfer chwyddiant drwy'r Gronfa Twf Lleol. Dyma lefel flynyddol y cyllid sydd ei angen i gynnal neu ragori ar y cyllid sydd wedi dod drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE wedi i chwyddiant gael ei ystyried.
Mae’r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol (ICA), sy'n cynrychioli awdurdodau lleol mewn ardaloedd diwydiannol ledled Prydain, yn cyfrifo bod y cyllid blynyddol y bydd Cymru'n ei gael drwy'r Gronfa Twf Lleol wedi cael ei leihau bron i hanner o'i gymharu â lefel y cyllid a gafodd Cymru drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2024-25.
Beth yw’r ymateb a gafwyd?
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y trefniant “yn cyflawni addewid Llywodraeth y DU i adfer y broses o wneud penderfyniadau ar y cyllid sy’n dod yn lle cronfeydd strwythurol yr UE i gynrychiolwyr Cymru.” Fodd bynnag, mae'r ICA wedi rhoi nodwedd ychydig yn wahanol i’r penderfyniad. Dywed, “there’s been a tussle between local authorities and the Welsh Government. This appears to have been resolved by the UK Government in favour of the Welsh Government with a role for Corporate Joint Committees at the sub-regional level”.
Mae nifer o sectorau wedi nodi eu barn ar y rolau y dylai gwahanol sefydliadau eu chwarae yn y Gronfa Twf Lleol. Mae Prifysgolion Cymru wedi dweud y gallai dull hollol leol o ddosbarthu cyllid fod yn "rhy dameidiog", a bod risg o allgau prifysgolion. Mae'n cefnogi dosbarthu cyllid yn rhanbarthol, wedi’i sianelu drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r ICA yn pryderu am y posibilrwydd o golli swyddi o ran staff sy'n ymwneud â rheoli prosiectau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin oherwydd y newidiadau arfaethedig i drefniadau cyflenwi. Mae hefyd wedi dweud bod awdurdodau lleol yn pryderu am fiwrocratiaeth ychwanegol, 'brigdorri' arian gan Lywodraeth Cymru, a cholli ffocws ar anghenion lleol.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw ar Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r Gronfa Twf Lleol i adfer cyllid cymorth i fusnesau mewn termau real i'r lefel a gafwyd pan oedd Cymru’n cael Cronfeydd Strwythurol yr UE. Mae CBI Cymru wedi dweud bod yn rhaid defnyddio'r gronfa yn strategol, ei rheoli'n drylwyr, ac alinio â chryfderau lleol er mwyn manteisio i’r eithaf ar fudd posibl y Gronfa Twf Lleol. “Success will depend on strong collaboration between partners and a relentless focus on rapid delivery”.
Beth sydd nesaf?
Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Gronfa Twf Lleol yn rhedeg tan 19 Rhagfyr, ac mae'n bwriadu cyflwyno cynllun buddsoddi i Lywodraeth y DU cyn gynted â phosibl y flwyddyn nesaf i sicrhau cyllid cyn i'r gronfa ddechrau yn 2026-27.
Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd hefyd yn cynnal ymchwiliad byr i'r Gronfa Twf Lleol dros yr wythnosau nesaf.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru