Ddydd Mawrth 17 Ebrill, disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru (PDG) ac yn amlinellu’r camau nesaf ar ei gyfer. Ar hyn o bryd, mae’r PDG hefyd yn destun ymchwiliad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad (y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg) i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol. Yn ddiweddar, rhoes Kirsty Williams dystiolaeth ysgrifenedig (9 Mawrth, PDF 1.23MB) a thystiolaeth lafar (22 Mawrth) i ymchwiliad y Pwyllgor.
Un o bolisïau addysg blaenllaw Llywodraeth Cymru yw’r PDG a’i nod yw mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ac anfantais ar ganlyniadau addysgol. Mae gan y PDG gyllideb flynyddol o £94 miliwn, sef 6 y cant o gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg (ond dylid nodi bod cyllid craidd ar gyfer ysgolion yn dod o’r gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol ac felly mae’r gyfran yn llai o gyfrif hwnnw hefyd). Newidiodd Ysgrifennydd y Cabinet enw’r PDG o’r ‘Grant Amddifadedd Disgyblion’ i’r ‘Grant Datblygiad Disgyblion’ ym mis Ebrill 2017, ond cadarnhaodd y byddai’n cadw’r un pwyslais ar ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig (yn ei hateb i WAQ73368 ym mis Ebrill 2017 ac yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mehefin 2017 (PDF 340KB)).
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y PDG a faint sy’n cael ei dalu?
Cyflwynwyd y Grant Datblygu Disgyblion yn y flwyddyn ariannol 2012-13. Mae’n darparu arian ychwanegol i ysgolion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (disgyblion PYDd) ar eu cofrestr. Telir £1,150 fesul disgybl PYDd ym mlynyddoedd 1-11, sy’n cyfrif am £77 miliwn o’r gyllideb o £94 miliwn.
Yn 2015-16, estynnwyd y PDG i’r Blynyddoedd Cynnar (3-5 oed, hyd at a chan gynnwys plant dosbarth Derbyn) ar sail £300 fesul plentyn cymwys. Cododd hyn i £600 yn 2017-18, gan godi i £700 ar gyfer 2018-19. Dyrennir oddeutu £9.5 miliwn i PDG y Blynyddoedd Cynnar.
Mae Estyn wedi adrodd (PDF 383KB) fod tua dwy ysgol o bob tair yn defnyddio’u dyraniadau PDG yn effeithiol, a’r cyd-destun i hynny yn ôl yr arolygiaeth yw bod hyn yn cyfateb yn fras i nifer yr ysgolion lle mae’r arweinyddiaeth yn gyffredinol yn dda. Ceir rhywfaint o ddadansoddi ar gyrhaeddiad disgyblion PYDd yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.
Mae’r PDG hefyd yn daladwy ar gyfer plant PYDd sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac mae hynny’n costio ychydig dros £1 filiwn.
Yn olaf, mae’r Grant hefyd yn darparu arian i gonsortia rhanbarthol i’w wario ar blant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig, eto ar sail £1,150 y plentyn. Dyrennir £4.6 miliwn i’r pedwar consortiwm yn 2018-19 ar sail 4,037 o blant a gofrestrwyd fel rhai sy’n derbyn gofal. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion y dyraniadau PDG yn 2018-19.
Bellach mae gan bob consortiwm gynghorydd strategol ar gyfer y Grant, ond mae tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol yn awgrymu mai dim ond yn ddiweddar y datblygwyd y dull strategol ar gyfer y rhan o’r PDG sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal. Hefyd, tynnodd sylw at y cyfyngiadau o ran targedu’r PDG at blant mabwysiedig yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am weld gwelliant yn y maes hwn ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi disgrifio’r ystadegau diweddaraf ar gyfer cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal yn rhai hynod siomedig.
Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ICF Consulting ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i werthuso’r PDG ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn toriad haf 2018.
Beth yw effaith y Grant ar gyrhaeddiad disgyblion PYDd?
Mae’r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion PYDd a chyrhaeddiad disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gwerthusiad o’r PDG gan Ipsos MORI a WISERD (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017), wedi dangos i’r duedd hon ddechrau cyn i’r Grant gael ei gyflwyno, felly mae’n anodd dirnad faint y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r arian grant ei hun. Mae data a dadansoddiad ar gael yn ein Papur Briffio Ymchwil, Data Cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4, ond rhoddir crynodeb isod hefyd. Yn ôl y prif fesur perfformiad a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn - trothwy cynwysedig Lefel 2 (5 neu fwy TGAU gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol) - lleihaodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion PYDd a disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim o 33.9 o bwyntiau canran yn 2010 i 31.2 o bwyntiau canran yn 2016. O gyfrif unrhyw 5 TGAU gradd A*-C (mesur trothwy Lefel 2), lleihaodd y bwlch o 34.3 o bwyntiau canran yn 2010 i 17.4 o bwyntiau canran yn 2016.
Fodd bynnag, aeth y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion PYDd a disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim yn fwy yn 2017 wedi blynyddoedd o gynnydd yn ei leihau. Ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2, aeth yn 32.4 o bwyntiau canran, ac ar gyfer trothwy Lefel 2 bu iddo bron â dyblu i 32.3 o bwyntiau canran. Yn gyffredinol, ystyrir bod newidiadau Llywodraeth Cymru i’r ffordd y cofnodir mesurau trothwy Lefel 2 a throthwy cynwysedig Lefel 2 (gyda llai o gydnabyddiaeth o gymwysterau galwedigaethol) wedi effeithio ar ddisgyblion PYDd yn fwy na disgyblion eraill.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor ar 22 Mawrth 2017:
So, if you look at it—with the usual caveats about whether you can make direct comparisons on level 2 plus between the exams the year before and the exams that we had last summer—on the face of it, the gap has increased. (…)
I think there’s no one answer to why free-school-meal children were not so resilient last year. We continue to have discussions with Qualifications Wales to get a better understanding of this. At my next ministerial policy board, in May, we’ll be doing a deep dive into this particular subject.
Y PDG ar gyfer disgyblion PYDd mwy abl a thalentog
Cydnabuwyd ers tro bod angen i’r system addysg Gymraeg wella’r ffordd y mae’n ymestyn disgyblion mwy abl a thalentog a gwella’r gefnogaeth iddynt gyflawni eu potensial a sicrhau’r graddau gorau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y caiff y Rhwydwaith Seren ei ehangu i gynnwys disgyblion TGAU yn ogystal â £3 miliwn o gyllid i gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog.
O ran y PDG, mae Kirsty Williams wedi dweud eto wrth ysgolion bod y grant ar gyfer pob disgybl cymwys yn hytrach nag i’r rhai yn unig lle mae risg o gyrhaeddiad isel. Yn ei llythyr at ysgolion (PDF 206KB) i gyd-fynd â’r cyhoeddiad am ddyraniadau PDG 2018-19, ysgrifennodd Kirsty Williams:
Yr wyf am fod yn glir bod y GDD yn cefnogi pob dysgwr cymwys gan gynnwys ein dysgwyr mwyaf galluog. I fod yn wirioneddol deg a rhagorol mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob disgybl yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial.
Mae hyn yn dilyn tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol – yn cynnwys tystiolaeth gan WISERD, a arfarnodd y rhaglen ar y cyd, a chan Estyn – yn nodi bod ysgolion yn colli’r gwahaniaeth rhwng anfantais a chyrhaeddiad isel a bod defnydd annigonol o’r PDG ar gyfer disgyblion PYDd sydd â’r potensial i gael graddau uchaf. Cyfeiriodd yr Athro Chris Taylor o WISERD at ‘blurring of the targeted intervention to mitigate disadvantage with the wider school improvement funding and grants and priorities’, gan egluro:
Consequently, schools were using their money to raise low attainment, not necessarily raising the attainment of all children who are from disadvantaged backgrounds, which is kind of a fundamental misunderstanding of the conceptual basis of the policy. (…)
The point of the policy was to mitigate the structural inequalities that some of these children experienced living in poverty. It doesn’t matter what their levels of attainment are; they can be high-achieving pupils, for all I care. They also ought to receive the benefit, because the argument is that they should be doing better than where they are now. And I think schools have not really grasped that, partly again because there are other priorities in the school, particularly for many schools about raising levels of attainment.
Ysgrifennodd Estyn mai ‘ychydig iawn’ o ysgolion sydd wedi defnyddio’r PDG i gefnogi disgyblion dan anfantais sy’n fwy galluog a phrin iawn y mae hyn yn agwedd ganolog ar gynlluniau PDG ysgolion. Dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands, wrth y Pwyllgor:
Felly, os oes yna garfan o ddisgyblion sydd yn colli mas ar hyn, y plant mwy galluog sydd yn derbyn prydau bwyd am ddim yw’r rheini. Mae yna nifer o resymau am hyn, rwy’n meddwl. Un ohonyn nhw ydy bod yna dal rhywfaint o deimlad taw plant llai galluog ddylai fod yn cael y grant yma, plant sy’n tangyflawni. Nid yw’r ysgolion ddim bob tro yn adnabod tangyflawniad y plant mwy galluog. Maen nhw’n ymddangos fel eu bod nhw’n gwneud yn o lew, ond petaen nhw’n cael mwy o gymorth, bydden nhw’n gwneud hyd yn oed yn well.
Mwy o hyblygrwydd ac ymrwymiad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf
Dau o’r themâu eraill sy’n codi o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol, y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â hwy yn y cyfamser, yw:
- yr angen am fwy o hyblygrwydd fel y gall ysgolion y disgyblion dargedu’r PDG at, er enghraifft, ddisgybl a all fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddiwrnod cyfrifiad yr ysgol un flwyddyn ond yn anghymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim ar adeg cyfrifiad yn y flwyddyn ganlynol, ond i bob pwrpas yn wynebu’r un amgylchiadau.
- diffyg sicrwydd ymhlith ysgolion am eu hincwm yn y dyfodol o’r PDG a’r cyfyngiadau ar ysgolion o’r herwydd o ran cynllunio ar gyfer defnyddio’r arian grant.
Ar y pwynt cyntaf, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at ysgolion (Mawrth 2018) (PDF 206KB) yn nodi, er mwyn darparu ‘hyblygrwydd’, y dylid defnyddio PDG i gefnogi disgyblion sydd wedi bod yn ddisgyblion PYDd yn naill neu’r llall o’r ddwy flynedd flaenorol. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos y bydd ysgolion yn cael cynnydd yn y dyraniadau PDG i gyfrif am y garfan fwy o ddisgyblion y disgwylir iddynt ddefnyddio’r PDG i’w cefnogi. Bydd dyraniadau PDG yn parhau i gael eu seilio ar gyfrifiadau blwyddyn unigol o gyfanswm disgyblion PYDd ysgolion.
Mae’r Premiwm Disgyblion yn Lloegr, sy’n rhaglen debyg i’r PDG yng Nghymru, yn gweithredu Model ‘Ever 6’ sy’n golygu y bydd disgyblion yn gymwys am y grant os ydynt wedi bod yn disgybl PYDd ar unrhyw adeg yn y chwe blynedd diwethaf. Ymddengys i Ysgrifennydd y Cabinet ddiystyru’r posibilrwydd o ddefnyddio model tebyg yng Nghymru, gan nodi y byddai’n costio tua £40 miliwn ychwanegol, sydd bron hanner y gyllideb bresennol ar gyfer PDG.
O ran yr ail thema, sef rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd trefniadau presennol y PDG ar waith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, 2018-19 a 2019-20. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ymrwymiad ar y cyd i’r PDG tan ddiwedd y Cynulliad hwn, a dylai hyn roi sicrwydd i ysgolion o leiaf y cedwir y lefelau presennol o £1,150 a £700.
Sut i ddilyn datganiad Ysgrifennydd y Cabinet
Trefnwyd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chwestiynau gan Aelodau ar y datganiad ar gyfer dydd Mawrth 17 Ebrill 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru