Y gorgyffwrdd rhwng Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Deddf Cynllunio (Cymru) a Bil yr Amgylchedd (Cymru);
Cyhoeddwyd 16/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munudau
16 Gorffennaf 2015
Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynuliad Cenedlaethol Cymru
Dyma ein hail mewn cyfres o ffeithluniau sy'n ceisio ymchwilio i sut y gall rhai o ofynion adrodd a chynllunio allweddol tri darn blaenllaw o ddeddfwriaeth Gymreig, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gynllunio a Bil yr Amgylchedd weddu a gweithio gyda'i gilydd.
Yn ein neges, a gyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf, fe wnaethom geisio nodi, dros linell amser o ddeng mlynedd, dilyniant y dyletswyddau adrodd a chynllunio newydd. Yn y ffeithlun hwn, rydym yn ceisio dangos dau beth. Yn gyntaf, y cysylltiadau sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yn y ddeddfwriaeth ac yn ail, y cysylltiadau y mae rhanddeiliaid yng Nghymru wedi awgrymu y dylid eu cynnwys, yn eu tystiolaeth i'r Cynulliad. Mae cysylltiadau pendant sydd eisoes yn y ddeddfwriaeth neu wedi eu cadarnhau fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu dynodi gan saethau solet tra bod cysylltiadau posibl a awgrymwyd gan randdeiliaid yn cael eu dangos fel llinellau dotiog. Mae'r ffeithlun yn dangos y byddai sefydliadau ar y cyfan yn hoffi gweld cysylltiadau mwy pendant yn cael eu gwneud rhwng y ddeddfwriaeth nag sy’n cael eu cynnwys ar hyn o bryd.
Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dal i gasglu tystiolaeth a llunio ei farn ar Fil yr Amgylchedd ac mae'n awyddus i glywed gan gymaint o bobl sydd â diddordeb ag y bo modd. Os nad ydych wedi rhoi eich barn eto, gallwch wneud hynny drwy'r arolwg y mae’r Pwyllgor yn ei gynnal. Bydd ar agor tan 10 Awst 2015.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg