Llun o apwyntiad therapydd

Llun o apwyntiad therapydd

Y galw cynyddol am asesiadau ADHD ac awtistiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 07/11/2024   |   Amser darllen munud

Mae nifer gynyddol o bobl yng Nghymru yn ceisio cael diagnosis ar gyfer ADHD neu awtistiaeth. Mae llawer o fyrddau iechyd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau at wasanaethau niwroddatblygiadol, gydag adroddiadau bod atgyfeiriadau misol mewn un ardal wedi dyblu dros y 4 blynedd diwethaf.

Ym mis Gorffennaf 2022, ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r galw cynyddol hwn drwy sefydlu rhaglen wella genedlaethol ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol dros dair blynedd ar gyfer pobl o bob oedran.

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r prif faterion y mae’r rhaglen wella yn ceisio mynd i’r afael â hwy, ac yn crynhoi rhai o’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i bwysau cynyddol ar wasanaethau niwroddatblygiadol.

Galw cynyddol am asesiadau diagnostig

Bu cynnydd yn nifer y bobl ledled y DU sy’n cael diagnosis o ADHD neu awtistiaeth. Mae'r rhesymau y tu ôl i'r cynnydd hwn yn gymhleth ac yn ddadleuol. Mae rhanddeiliaid wedi cyfeirio at ystod o ffactorau posibl sy’n cyfrannu, gan gynnwys: mwy o ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroddatblygiadol; meini prawf diagnostig ehangach; camddiagnosis neu orddiagnosis posibl; a’r posibilrwydd bod y cyflyrau hyn yn dod yn fwy cyffredin.

Yng Nghymru, mae llwybrau atgyfeirio a gwasanaethau niwroddatblygiadol gwahanol ar gyfer oedolion a phlant. Mae hyn yn golygu bod prosesau casglu data a thargedau perfformiad gwahanol ar waith yn dibynnu ar y gwasanaeth. Gall hyn ei gwneud yn anodd deall y darlun llawn o'r galw cynyddol am asesiadau.

Er bod Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn cyhoeddi data am asesiadau iechyd meddwl, nid yw’n cyhoeddi data rheolaidd eto ar nifer y bobl sy’n aros am asesiad niwroddatblygiadol.

Mae data a gyhoeddwyd drwy ddatgeliadau Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi syniad o'r pwysau cynyddol ar wasanaethau. Mae’n dangos cynnydd o 87 y cant yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n aros am asesiad ADHD neu ASD (anhwylder yn y sbectrwm awtistig) rhwng mis Chwefror 2022 a mis Rhagfyr 2023.

Ffigur 1: Nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn aros i ddechrau asesiad niwroddatblygiad ADHD neu ASD ym mis Chwefror 2022 a mis Rhagfyr 2023

Tabl yn dangos nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n aros i ddechrau asesiad niwroddatblygiadol ADHD neu ASD ledled Cymru, fesul bwrdd iechyd. Cododd y nifer a oedd yn aros am asesiad yng Nghymru 87 y cant rhwng mis Chwefror 2022 a mis Rhagfyr 2023, gyda chynnydd i’w weld ym mhob bwrdd iechyd.

 

Ffynhonnell: Dadansoddiad y Senedd o ddata a gasglwyd mewn cipluniau cyfrifiad a gymerwyd ar ddiwedd mis Chwefror 2022 a mis Rhagfyr 2023, ac a gyhoeddwyd drwy ddatgeliadau Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai 'gwybodaeth reoli' yn unig yw'r data hyn, sy'n golygu nad yw’r ansawdd yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cyhoeddi oherwydd, er enghraifft, anghysondebau yn y ffordd y mae byrddau iechyd yn dehongli ac yn cymhwyso’r diffiniadau sy’n cefnogi’r broses casglu data.

Amseroedd aros hir

Canfu adolygiad gan Lywodraeth Cymru, a gynhaliwyd rhwng 2019 a 2022, fod y galw am asesiadau diagnostig wedi bod yn fwy na chapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol yn ystod y cyfnod hwn, gan adael oedolion a phlant yn wynebu amseroedd aros hir. Canfu’r adolygiad, yn fras, mai dim ond un asesiad oedd wedi'i gynnal am bob dau berson a atgyfeiriwyd am asesiad diagnostig.

Mae mynd i'r afael â'r galw cynyddol hwn yn flaenoriaeth o fewn rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru, gyda ffrydiau gwaith yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghenion brys a datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Mae Uned Gyflawni'r GIG wedi ymgymryd ag adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol plant a phobl ifanc ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Y bwriad yw y bydd yr adolygiad yn llywio camau gweithredu cenedlaethol i fynd i'r afael â phwysau uniongyrchol ar amseroedd aros ar gyfer asesiadau, yn ogystal â rhoi argymhellion i fyrddau iechyd unigol mewn perthynas â gwasanaethau niwrowahaniaeth i blant.

Mae’r data sydd ar gael yn awgrymu nad yw gwasanaethau’n cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod 80 y cant o blant a phobl ifanc gael asesiad o fewn 26 wythnos. Ym mis Mehefin 2023, roedd 67 y cant o blant a phobl ifanc wedi bod yn aros am 26 wythnos neu fwy am asesiad ADHD neu ASD, gyda 45 y cant wedi aros dros flwyddyn. Mae sawl gwasanaeth niwroddatblygiadol yn nodi ar eu gwefan y gall gymryd hyd at ddwy neu dair blynedd i gael yr apwyntiad cyntaf.

Ar hyn o bryd nid oes polisi na tharged ar gyfer amseroedd aros i oedolion. Gwnaeth y rhai a oedd yn ceisio diagnosis awtistiaeth drwy'r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yn chwarter olaf 2022-23 wynebu amser aros cyfartalog o 95.1 o wythnosau.

Mae rhai byrddau iechyd wedi nodi bod diffyg adnoddau ariannol yn rhwystr rhag lleihau amseroedd aros a datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Mae gwasanaethau eraill wedi awgrymu mai recriwtio staff a rhoi ffyrdd newydd o weithio ar waith yw'r prif heriau er mwyn ateb y galw cynyddol.

Symud tuag at wasanaethau wedi’u harwain gan anghenion ar gyfer plant a phobl ifanc

O ystyried yr amseroedd aros, bu ffocws o’r newydd ar roi mynediad at gymorth a chefnogaeth gynnar – yn enwedig i blant a phobl ifanc. Yn 2022, canfu’r Comisiynydd Plant fod plant a theuluoedd yn cael “ychydig iawn o gefnogaeth, os o gwbl” wrth aros i gael asesiad am gyflwr niwroddatblygiadol.

Yn 2020, mae Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cymorth a gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru. Roedd yn amlinellu dull lle darperir adnoddau addysgol a chymdeithasol yn unol ag anghenion plentyn yn hytrach na dull sy’n gwbl ddibynnol ar ddiagnosis. Nododd y gallai’r dull hwn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n methu â chyrraedd y trothwyon diagnostig yn dal i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn ôl adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau niwroddatblygiadol, mae’n bosibl y gallai mynediad cynnar at gymorth a chefnogaeth leihau'r galw am asesiadau diagnostig.

Nod Llywodraeth Cymru yw cefnogi datblygiad gwasanaethau cymorth a chefnogaeth cynnar i blant a theuluoedd fel rhan o’r rhaglen gwella niwrowahaniaeth. Mae enghreifftiau o gefnogaeth gynnar yn cynnwys gwasanaethau cyswllt teulu, sy'n rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau cyfeirio cyn diagnosis, neu offer i helpu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol nodi pa gymorth y gallai fod ei angen ar blentyn neu berson ifanc.

Fodd bynnag, ar draws yr ystod o wasanaethau cymorth, mae’n bosibl bod cryn dipyn i’w wneud o hyd yng Nghymru i sicrhau dull sydd wedi’i arwain gan anghenion. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n newid sut mae dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi. Mae Gweinidogion wedi dweud dro ar ôl tro nad yw'r hawl honno i gymorth o fewn y system hon yn dibynnu ar ddiagnosis. Ond cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Gorffennaf 2024 a ddaeth i'r casgliad:

Gwyddom fod y diwygiadau ADY i fod i gael eu harwain gan anghenion, yn hytrach na chan ddiagnosis… ond mae’n amlwg nad yw hyn yn digwydd yn ymarferol. Felly mae’r cyfuniad o amseroedd aros hir a chymorth nad yw’n cael ei roi ar waith nes bod plentyn wedi cael diagnosis clir yn cael effaith fawr.

Canfu hefyd fod teuluoedd yn talu am asesiadau preifat drud (cyfeirir at eu statws yn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth). Amlygwyd y mater hwn o awdurdodau lleol yn gwrthod derbyn diagnosis preifat, ynghyd ag astudiaethau achos eraill, gan y Comisiynydd Plant ym mis Mawrth 2023 a dangosodd fod rhai teuluoedd yn dal i gael trafferth cael cymorth heb ddiagnosis.

Heriau eraill o ran cael mynediad at asesiadau a chymorth

Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at nifer o heriau eraill o fewn gwasanaethau cymorth niwroddatblygiadol.

Mae amseroedd aros hir wedi arwain at sefyllfa lle mae rhai teuluoedd yn talu i ddefnyddio gwasanaethau asesu preifat. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd meddygon teulu neu ddarparwyr addysg yn derbyn diagnosis preifat, gan arwain at anawsterau o ran cael mynediad at driniaeth drwy'r GIG. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bwriadu adolygu canllawiau ar dderbyn diagnosis preifat ac y bydd yn datblygu dull cenedlaethol o gontractio, derbyn a gweithredu ar asesiadau preifat.

Mae’r cymhlethdodau ychwanegol sydd weithiau’n gysylltiedig â chael asesiad cyfrwng Cymraeg wedi cael eu hamlygu yn y Senedd a chan y Comisiynydd Plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn ystyried sut i sicrhau mynediad teg ar gyfer y rhai y mae angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt.

Yn olaf, nid oes cymorth cyson ar gael ar hyn o bryd i oedolion â chyflyrau niwroddatblygiadol ar wahân i awtistiaeth. Un o'r camau gweithredu allweddol a awgrymwyd yn adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau niwroddatblygiadol oedd datblygu cynnig cymorth cenedlaethol ar gyfer oedolion a phlant. Argymhellodd y dylai’r cynnig hwn nodi pa fathau o gymorth y mae angen asesiad diagnostig cyn y gellir eu cyrchu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried gwasanaethau cymorth i bob oedran ar gyfer ADHD a syndrom Tourette ac yn datblygu manylebau ar gyfer dull cenedlaethol o ddiwygio gwasanaethau.

Ar hyn o bryd disgwylir i’r rhaglen wella ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol barhau hyd at 2025.


Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru