Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Dyma’r drydedd flwyddyn i ddysgwyr sefyll arholiadau wedi’u marcio’n allanol ers eu canslo yn 2020 a 2021 oherwydd Covid-19. Dyma’r flwyddyn gyntaf pan fydd graddio’n dychwelyd i’r dulliau cyn y pandemig. Ers canslo arholiadau, bu dychweliad graddol i’r arferion safonol.
Mae’r canlyniadau cyffredinol eleni yn fwy cyson â'r rhai a gyflawnwyd yn 2019. Er bod y canlyniadau’n is na’r blynyddoedd 2020 i 2023, maent ychydig yn uwch nag yn 2019 ym mhob gradd ac eithrio graddau A*-E.
Sut y mae pethau’n wahanol i’r llynedd?
Ar anterth y pandemig Covid-19, cafodd arholiadau a osodwyd yn allanol eu canslo yn 2020 a 2021. Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd trefniadau gwahanol ar gyfer dyfarnu graddau Safon Uwch a TGAU. Roedd hyn yn golygu bod y canlyniadau ar y cyfan yn llawer uwch na’r blynyddoedd yn union cyn y pandemig. Er enghraifft, yn 2019, cafodd 8.9 y cant o ddysgwyr radd A*, a chanran y dysgwyr a enillodd A* yn 2020 oedd 16 y cant ac 21 y cant yn 2021.
Pan ddechreuodd dysgwyr sefyll arholiadau allanol eto, roedd rhywfaint o gymorth ar gael gan y byrddau arholi a gwnaed addasiadau hefyd i’r ffordd y graddiwyd arholiadau. Ceir esboniad o’r rhain yn ein herthygl canlyniadau arholiadau o 2021.
Dywedodd Cymwysterau Cymru fod y dull graddio arholiadau yn adlewyrchu’r ffaith bod 2022 yn ‘flwyddyn bontio’ o’r graddau uwch na’r arfer yn 2020 a 2021, gyda’r canlyniadau cyffredinol hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau 2021 a 2019. Roedd hyn yn golygu bod graddau’n fwy ffafriol i ddysgwyr nag yn 2019, ond yn llai ffafriol na’r ddwy flwyddyn flaenorol.
Yn yr un modd, diben y dull graddio ar gyfer 2023 oedd sicrhau canlyniadau arholiadau a fyddai’n disgyn, yn fras, hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022. Bwriad hyn oedd ystyried yr amhariad ar addysg a achoswyd gan y pandemig ac osgoi’r hyn a ddisgrifiodd Cymwysterau Cymru fel “sefyllfa ddyrys” o unioni yn ôl i safonau 2019.
Mae cymwysterau a gymerwyd rhwng mis Tachwedd 2023 a haf 2024 wedi dychwelyd i’r dulliau graddio cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd yn monitro CBAC (y corff dyfarnu arholiadau) wrth iddo benderfynu ffiniau graddau. Dywedodd Cymwysterau Cymru y canlynol:
Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith tymor hir ar ddysgu i rai, felly bydd rhywfaint o ddiogelwch i osgoi canlyniadau pynciau unigol ymhell islaw canlyniadau’r blynyddoedd cyn y pandemig, i ddarparu rhwyd ddiogelwch, os oes angen.
Beth yw canlyniadau haf 2024?
Mae’r data yn y tabl isod yn dangos canlyniadau 2024 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys yr wyth prif ddarparwr cymwysterau yn y DU). Mae’r data yn rhai dros dro, ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi’r canlyniadau. Mae’n amodol ar wirio cyn cyhoeddi data terfynol ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol ac ysgol. Mae'r data’n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed. Darperir gwybodaeth hefyd ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
At hynny, mae Cymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol, yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am y canlyniadau.
Canran y cofrestriadau a gafodd Safon Uwch TAG yn ôl gradd, 2024 (dros dro)
Ffynhonnell: Y Cyd-gyngor Cymwysterau, A Level Results Summer 2024
- Y canlyniadau ar radd A* yw 10.1 y cant, sef 1.2 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 3.4 pwynt canran yn is nag yn 2023;
- Y canlyniadau ar gyfer graddau A* neu A yw 29.9 y cant, sef 3.4 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 4.1 pwynt canran yn is nag yn 2023;
- Y canlyniadau ar gyfer graddau A*-C yw 76.5 y cant, sef 0.2 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 2.4 pwynt canran yn is nag yn 2023;
- Y canlyniadau ar gyfer graddau A*-E yw 97.4 y cant, sef 0.2 pwynt canran yn is nag yn 2019 a 0.1 pwynt canran yn is nag yn 2023.
Beth nesaf?
Gyda dysgwyr wedi cael eu graddau, erbyn hyn, bydd eu meddyliau’n troi at yr hyn ddaw nesaf. Mae amrywiaeth o gymorth ac arweiniad i’r rhai sy'n cynllunio ar gyfer eu dyfodol, gan gynnwys:
Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi canllawiau cyllido sy’n nodi gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr.
Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf a byddwn yn cyhoeddi erthygl arnynt yr wythnos nesaf.
Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru