Y ddadl ynglŷn ag e-sigaréts yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

12 Mawrth 2014 Erthygl gan Sana Ahmad, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2012 yn dangos mai smygu yw’r achos unigol mwyaf o farwolaeth y gellid ei osgoi yng Nghymru o hyd - gyda 23 y cant o bobl 16 oed a throsodd yn disgrifio’u hunain fel smygwyr. Amcangyfrifwyd fod smygu’n costio tua £1 miliwn y dydd i GIG Cymru, sy’n saith y cant o gyfanswm y gwariant ar ofal eichyd ac mae’n achosi i tua 27,700 o bobl 35 oed a throsodd orfod cael mynediad i’r ysbyty bob blwyddyn. [caption id="attachment_996" align="alignright" width="300"]Delwedd o Flickr gan Lindsay Fox. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Delwedd o Flickr gan Lindsay Fox. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Y duedd ddiweddaraf yw’r sigarét electronig, y cyfeirir ati’n aml fel yr ‘e-sigarét’. Mae’n cynnwys tri rhan:
  • elfen wresogi sy’n cael ei gyrru gan fatri
  • cetrisen sy’n cynnwys toddiant â nicotin, propylen glycol neu glyserin a dŵr, ychwanegion a chyflasynnau.
  • chwistrellydd sy’n anweddu cynnwys y getrisen pan gaiff ei gwresogi.
Yn ei ffurf bur, dangoswyd bod nicotin yn llai niweidiol o’i gymharu â’i ddefnyddio gyda thybaco, fodd bynnag, nicotin yw’r sylwedd sy’n gyfrifol am ddibyniaeth. Mae defnyddio e-sigarét gan fewnanadlu nicotin wedi’i anweddu (a elwir yn aml yn ‘vaping’ yn Saesneg) yn destun dadl barhaus ar hyn o bryd.  Mae’n codi’r cwestiwn: a yw defnyddio e-sigaréts yn chwarae rhan mewn lleihau nifer y smygwyr neu a ydyw yn ail-normaleiddio smygu yn y gymdeithas yng Nghymru? Dengys arolygon fod defnyddwyr e-sigaréts wedi cofnodi llai o anawsterau anadlu, mwy o reolaeth dros nicotin, gostyngiad dramatig yn y defnydd o sigaréts a bod defnyddio e-sigaréts yn gymorth i roi’r gorau i smygu neu i smygu llai. Er bod astudiaethau cychwynnol yn dangos bod e-sigaréts yn cynhyrchu lefelau is o nicotin a’u bod, yn gyffredinol, yn llai niweidiol na thybaco, mae’n rhy gynnar i fod yn sicr o hyn gan fod gwaith ymchwil yn y maes hwn yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Ymhlith rhai beirniadaethau o e-sigaréts mae: llid ar y geg a’r gwddf o achos propylen glycol, diffygion yn y labelu a’r cynllun, diffyg rhybuddion a gwybodaeth, cyfnod silff gwael a hyd yn oed sylweddau sy’n achosi canser fel nitrosaminau. Mae’r dystiolaeth gyffredinol o effeithiolrwydd e-sigaréts fel cymorth i roi’r gorau i smygu eto’n gyfyngedig. Caiff e-sigaréts eu rheoleiddio ar hyn o bryd yn ôl Cyfarwyddebau’r UE a Deddfau cenedlaethol yn ymwneud â diogelwch cyffredinol cynnyrch.  Byddai rheoleiddio meddyginiaethol yn caniatau i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd eu hargymell a’u rhagnodi, hybu mynediad at ddulliau eraill o roi’r gorau i smygu a sicrhau’r safonau diogelwch gofynnol. Fodd bynnag, mae llawer o arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus yn taeru na ddylai e-sigaréts gael eu rheoleiddio fel meddyginiaethau, ond yn hytrach, eu cynnwys yn yr un cylch a thybaco, gan eu bod yn nwyddau hamdden i ddefnyddwyr - ac nid yn feddyginiaethau. Ar ôl cytuno ar ddeddfwriaeth ddrafft Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2013, caiff e-sigaréts eu hystyried yn nwyddau defnyddwyr oni bai bod cwmnïau’n dewis eu trwyddedu fel nwyddau meddygyniaethol gyda’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Nid yw e-sigaréts wedi’u cynnwys yn y gwaharddiad ar smygu ond mae amryw o gynghorau, ysgolion a busnesau ledled y DU wedi’u gwahardd; ymhlith y rhesymau a roddwyd am hyn roedd ei natur ymwthiol ac anawsterau o ran gorfodaeth. Ymddengys fod agwedd y cyhoedd yn rhanedig gan nad oes ymwybyddiaeth eang o e-sigaréts ymhlith y boblogaeth nad yw’n smygu o’i gymharu â’r rhai sy’n smygu ar hyn o bryd neu gyn smygwyr. Mae rhai byrddau iechyd lleol hefyd wedi gwahardd y defnydd ohonynt ar draws eu safleoedd Mae Aelodau’r Cynulliad wedi cefnogi Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol  Atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd i wahardd gwerthiant e-sigaréts i unrhyw un o dan 18 oed, oherwydd y pryder cynyddol eu bod yn annog pobl ifanc yn eu harddegau i ddechrau smygu. Er bod consensws cyffredinol bod e-sigaréts yn debygol o fod yn llai niweidiol na thybaco, ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod defnyddio e-sigaréts yn ddull defnyddiol o roi’r gorau i smygu - mae angen rhagor o waith ymchwil ac mae’r ddadl yn parhau.