Y Cynulliad i gynnal dadl ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Gofal Iechyd y DU (Trefniadau Rhyngwladol)

Cyhoeddwyd 12/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gosodwyd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) Llywodraeth y DU gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mawrth a bydd y Cynulliad yn cynnal dadl arno yn y Cyfarfod Llawn heddiw.

Prif elfennau’r Bil

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ei Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 26 Hydref 2018. Diben y Bil yw galluogi’r Llywodraeth i wneud trefniadau o ran gofal iechyd cyfatebol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Gweler ein blog blaenorol i gael gwybodaeth am y trefniadau presennol ar gyfer gofal iechyd cyfatebol.

Ar hyn o bryd mae’r Bil yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi, a threfnwyd y Trydydd Darlleniad ar gyfer 19 Mawrth. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod angen cydsyniad deddfwriaethol gan y gweinyddiaethau datganoledig mewn perthynas â’r Bil, gan fod rhannau ohono’n gwneud darpariaeth mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Nid yw’r Bil yn cynnig dim trefniadau gofal iechyd cyfatebol penodol, ac nid yw’n darparu dim manylion am weithredu trefniadau gofal iechyd cyfatebol yn y dyfodol. Yn hytrach, mae’n rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wneud rheoliadau mewn perthynas â darparu gofal iechyd y tu allan i’r DU. Mae’r pwerau hyn i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer i:

  • ariannu, trefnu a gwneud taliadau mewn perthynas â gofal iechyd y tu allan i’r DU;
  • rhoi effaith i unrhyw drefniadau gofal iechyd rhwng y DU a gwledydd, tiriogaethau neu sefydliadau rhyngwladol eraill;
  • gwneud darpariaeth o ran prosesu data i hwyluso trefniadau gofal iechyd cyfatebol; a
  • diwygio, diddymu neu ddirymu deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys deddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad, at ddibenion rhoi swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, neu i roi effaith i gytundeb gofal iechyd.

Bydd arfer y pwerau i wneud rheoliadau a ddisgrifir uchod, a chynnwys y rheoliadau, yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau o ran Erthygl 50. Mewn geiriau eraill, mae’r Bil yn galluogi Llywodraeth y DU i weithredu trefniadau gofal iechyd cyfatebol mewn gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys sefyllfa ‘dim cytundeb’.

Safbwyntiau cychwynnol Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ar gydsyniad deddfwriaethol

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol (PDF, 124KB) mewn perthynas â’r Bil gerbron y Cynulliad ar 15 Tachwedd. Yn y memorandwm, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno bod y Bil yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod trigolion y DU yn gallu parhau i fanteisio ar drefniadau gofal iechyd cyfatebol, a’i bod hithau hefyd yn ffafrio dull cyson ledled y DU. Fodd bynnag, o gofio’r effaith ar y GIG yng Nghymru, roedd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn mynegi pryderon ynghylch y graddau y byddai Llywodraeth Cymru yn ymwneud â llunio’r trefniadau gofal iechyd sydd i’w darparu yn unol â’r Bil:

o ystyried yr effaith arwyddocaol y byddai’n ei chael ar feysydd datganoledig, mae’n hanfodol fod buddiannau Cymru’n cael eu hystyried yn briodol wrth ddatblygu trefniadau gofal iechyd cyfatebol a bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru.

Ar 7 Ionawr rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dystiolaeth am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a ddeuddydd yn ddiweddarach i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (y Pwyllgor Iechyd). Mynegodd y Gweinidog bryderon nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y Bil mewn da bryd ac, o ran y Bil:

  • nad oes angen cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fydd yn gweithredu manylion cytundebau gofal iechyd newydd, er y byddai’r rhain yn gosod cyfrifoldebau ar GIG Cymru;
  • nid yw’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud y rheoliadau hyn o dan y Cymal hwn; a
  • mae’n galluogi gwneud rheoliadau a all ddiwygio, diddymu neu ddirymu Bil neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar 22 Ionawr cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd yn ogystal â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

Roedd y Pwyllgor Iechyd yn cefnogi safbwynt y Gweinidog i beidio ag argymell cydsynio nes i’r Bil gael ei ddiwygio.

Gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y "dylai’r Gweinidog fynd ar drywydd, gyda Llywodraeth y DU, ddiwygiad i’r Bil sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig."

Newidiadau i’r Bil

Mae’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiwygio’r Bil yn y Cyfnod Adrodd er mwyn mynd i’r afael â phryderon Llywodraeth Cymru. Dywed:

The proposed amendment will place a requirement on the Secretary of State to consult with the Devolved Administrations, including the Welsh Ministers, before making regulations under Clause 2 that are within devolved competence. In addition to that requirement, a Memorandum of Understanding has been developed between the Devolved Administrations and the UK Government to underpin the amendment. The Memorandum of Understanding was agreed with the Minister of State for Health on 20 February 2019.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ymhlith pethau eraill, yn darparu y bydd yn ofynnol ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch y canlynol:

  • trafod cytundebau gofal iechyd newydd;
  • datblygu a drafftio rheoliadau o dan y Bil i weithredu cytundebau o’r fath; a
  • cytundebau sy’n gymwys i Gymru neu sydd â goblygiadau i Gymru, ac ar reoliadau sy’n rhoi’r cytundebau hynny ar waith.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn i’r Bil, mae Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylai’r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol.


Erthygl gan Manon George, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru