Ddydd Mawrth 7 Mai 2019, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y Model Gofal Sylfaenol i Gymru.
Ym mis Chwefror 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ein cynllun ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru hyd at fis Mawrth 2018 (PDF, 151KB) a ddarparodd y cyd-destun a'r fframwaith ar gyfer datblygu gofal sylfaenol a chymunedol dros gyfnod o dair blynedd. Roedd y Cynllun yn manylu ar y camau allweddol i'w cymryd ar lefel genedlaethol a lleol.
Mewn ymateb i adroddiad yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (Ionawr 2018), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ (PDF, 1,452KB) ym mis Mehefin 2018, sy'n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu drwy un system gyfan, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac ar atal salwch. Mae Cymru Iachach yn nodi'r bwriad i ddatblygu ‘modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol di-dor’ o lefel leol i ranbarthol i genedlaethol.
Ffurfiwyd Rhaglen Drawsnewid genedlaethol i roi hwb i weithredu Cymru Iachach. Caiff y rhaglen ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Bwrdd Trawsnewid traws-sector. Cyhoeddwyd hefyd y byddai arian ychwanegol ar gael drwy Gronfa Trawsnewid gwerth £100 miliwn i dreialu'r modelau gwasanaeth newydd ar lawr gwlad.
O dan y Rhaglen Drawsnewid, mae Model Gofal Sylfaenol i Gymru wedi ei sefydlu, sy'n cefnogi'r weledigaeth a nodir yn Cymru Iachach.
Mae'r Model Gofal Sylfaenol i Gymru yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:
- Prif ffrydiau gwaith gofal sylfaenol
- Cydweithio di-dor mewn Byrddau Iechyd a chyda phartneriaid
- Diwygio contractau gofal sylfaenol
Mae rhagor o wybodaeth am y Model Gofal Sylfaenol i Gymru ar gael yn y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (PDF, 582KB) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018. Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o'r tasgau sy'n ofynnol o dan bob maes strategol.
Bydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn chwarae rôl allweddol wrth drawsnewid gwasanaethau, ond bu pryderon ynghylch lefel yr arian y maent yn ei dderbyn. Yn adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 nodir fel a ganlyn:
O ystyried y ffocws polisi ar symud gofal allan o ysbytai, byddem wedi disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn lefel y gwariant ar ofal sylfaenol, ond mae’r dystiolaeth a welwyd yn dangos nad yw hyn yn digwydd. Credwn fod hyn yn dangos yr heriau sy’n wynebu byrddau iechyd wrth fynd ati i drawsnewid y gwasanaeth, o ystyried y pwysau parhaus y maent yn eu hwynebu yn y sector aciwt, er enghraifft. O gofio bod cyfeiriad y gwasanaethau, fel y nodir yn Cymru Iachach, tuag at ddarparu gwasanaethau i’w cynnal ym maes gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, rydym yn bryderus iawn na fydd yr arian arfaethedig ar gyfer gofal sylfaenol yn ddigonol i gefnogi’r amcan hwn. [tudalen 9]
Erthygl gan Rebekah James, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru